Showing 2492 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Kate Roberts Welsh
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Drafft cynnar o'r nofel Traed mewn Cyffion (Dinbych, 1936) a anfonwyd gan KR i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol ...,

Drafft cynnar o'r nofel Traed mewn Cyffion (Dinbych, 1936) a anfonwyd gan KR i gystadleuaeth y nofel yn Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934 dan y teitl gwreiddiol "Suntur a Chlai" ac yn dwyn y ffugenw 'Y Foelfran'. Rhannwyd y wobr rhwng KR a Grace Wynne Griffith am ei nofel Creigiau Milgwyn. Mae 2610 yn cyfateb i wyth bennod gyntaf y llyfr, 2611 yn cyfateb i benodau naw i ugain, a 2612 i benodau un ar hugain i bedwar ar hugain, ynghyd â nodiadau rhydd i'w hymgorffori yn y gwaith. 2610 106 Tt. 2611 104 Tt. 2612 32 Tt. + 9 tt. yn rhydd.

Drama-gyfres Radio "Modryb a Nith" gan Kate Roberts mewn pedair rhan a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC ym Mai ...,

Drama-gyfres Radio "Modryb a Nith" gan Kate Roberts mewn pedair rhan a ddarlledwyd ar Raglen Cymru y BBC ym Mai 1959. Gweler drafft arall yn rhif 2614 uchod. 2640 Drafft llawysgrif, 12 tt.; 2641 Sgript deipiedig y rhan gyntaf "Atgof a Gobaith", a ddarlledwyd nos Sul, 10 Mai 1959; 2642 Sgript deipiedig yr ail ran "Dechrau Amheuon", 17 Mai 1959, 23 tt.; 2643 Sgript deipiedig y drydedd ran "Torri Amod", 24 Mai 1959, 22 tt.; 2644 Sgript deipiedig y bedwaredd ran "Swn Priodi", 31 Mai 1959, 25 tt.

Stori Fer "Y Tri -Stori anorffenedig gan Kate Roberts" a gyhoeddwyd yn Y Ddolen: chweched llyfr anrheg, gol Thomas Parry ...,

Stori Fer "Y Tri -Stori anorffenedig gan Kate Roberts" a gyhoeddwyd yn Y Ddolen: chweched llyfr anrheg, gol Thomas Parry (Lerpwl: Hugh Evans dros Undeb Cymru Fydd, 1946), tt 88-91. Ar gefn y stori ceir y geiriau: "Ysgrifennwyd y stori hon dan amgylchiadau anodd". Gweler hefyd 2614 uchod. Tudalen 3 yn eisiau. 7 Tt.

Results 81 to 100 of 2492