Showing 2258 results

Archival description
Papurau Carneddog Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

[O.] Llew Owain,

Caernarfon. Methu â deall i ble y diflannodd ei lythyr diwethaf. Diolch am gael Tannau Tegfelyn yn rhodd. Bwriadu casglu rhagor o danysgrifwyr iddo. Wedi cael cwmni Bob Owen am noson.

Bob Owen,

Morfa Glas, Llanfrothen. Llythyr personol yn trafod prynu a gwerthu llyfrau a llawysgrifau, etc. Sôn am ei waith ei hun. Ceir hefyd restr deipiedig o lyfrau, catalogau, etc, i'w gwerthu gan Carneddog gyda nodyn ychwanegol yn trafod eu prisiau.

Bob Owen,

Croesor. Llythyr personol yn sôn am farwolaeth ei frawd-yng-nghyfraith ac effaith diffyg cydymdeimlad rhai pobl (megis Hugh Roberts) ar ei wraig. Englyn gan Carneddog ar y cefn.

David Owen,

Caergors, Clynnog. Diolch am y llyfr [Cerddi Eryri]. Archebu un arall.

Henry Owen,

[Middle Granville, Washington]. Tudalen olaf llythyr yn unig.

J. R. Owen.

Morfa Bychan, Porthmadog. Nodyn yn sôn am y pennill amgaeedig 'Prydferthwch y Mynydd'.

[John Owen].

Minffordd, Penmorfa. Sôn am ei iechyd a diolch am ei lythyr (llythyr anghyflawn).

John Owen,

Morfa Nefyn. Anfon llythyr o eiddo Ioan Nanmor (yn eisiau).

John Owen,

Bodawel, Ffestiniog. Ateb ymholiad yn y 'Manion' ynglyn â chartref Dafydd William y bardd.

Owen J. Owen,

Penrallt, Pen-y-groes. Y Nadolig a'i atgofion o ganu carolau da. Gofyn i Carneddog gael gafael ar hen lyfr carolau John Roberts, Bryndinas, a'i frodyr.

R. Owen,

Porth, Saron, Dinbych. Y cyfeiriad a'r cynnwys ar ffurf pennill, sef cyfarchion i Carneddog a'r teulu (cerdyn post).

Results 81 to 100 of 2258