Dangos 2204 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Diflas oherwydd afiechyd ei wraig. Trafod ychydig ar ei waith ei hun gan gynnwys englynion i'r Garreg Filltir ac amryw gymeriadau megis Cynan. Ceir ôl-nodyn yn amgau hen ewyllys.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Hanes Nadolig diflas yr Ap. Trafod englyn yr Ap i'r 'Aderyn To'. Ceir y ddau englyn a'r wybodaeth ei fod wedi ennill arno.

Ap Cenin [John Roberts],

Llanfairfechan. Sôn am afiechyd ei wraig, Ann Evans Jones, Llanaelhaearn. Ceir rhannau o waith Ap Cenin a'i atgofion, ac ychydig wybodaeth am y sêr.

Ap Cenin, John Roberts,

Llanfairfechan. Llythyr anghyflawn yn sôn am ei daith gyda Humphrey Roberts i'r man lle daliwyd ein Llyw Olaf. Ceir nifer o englynion ganddo. Sôn am salwch Eifion Wyn (anghyflawn).

Ap Glaslyn [Y Parch. John Owen],

Llanbradach. Llythyr galar yn diolch i Carneddog am ei gydymdeimlad ar golli ei wraig ac yn disgrifio ychydig ar yr angladd. Ceir toriad allan o'r Western Mail hefyd yn sôn amdani.

Ap Rambler [John Morgan].

Los Angeles. Anfon The Druid a gofyn iddo ei anfon ymlaen at Edward Jones, Llanwnda ar ôl gorffen ag ef. Saesneg/Engish.

Canlyniadau 81 i 100 o 2204