Showing 811 results

Archival description
Papurau Gwenith Gwyn,
Print preview View:

'Order of the Golden Ring.' Copi o'r llw (yn Saesneg ac yn Gymraeg) a gymerodd Gwenith Gwyn wrth ei dderbyn ....

'Order of the Golden Ring.' Copi o'r llw (yn Saesneg ac yn Gymraeg) a gymerodd Gwenith Gwyn wrth ei dderbyn yn aelod o'r Urdd a chopi Saesneg o drefn y ddefod. (2 dud.). 'Yr wyf fi ... o ... yn ddifrifol dystio yn nghwydd Duw a'r tystion hyn y bydd i mi ymwrthod a phob math o ddiodydd meddwol fel diod gyffredin; y bydd i mi weithio'n ddyfal o blaid egwyddorion llwyr ymwrthodiad; y bydd i mi arfer holl rinweddau gwir frawdgarwch; ac y bydd i mi lynu wrth reolau ac arferion Urdd y Fodrwy aur.'.

Nodyn.

Nodyn:. 'To my daughters. It is my wish that what I have written should be kept MSS and Articles. Also the work I did for the Welsh Church Commission. Evidence for the Baptist of Wales at their express wish, after Mr Edmunds, who was a churchman at heart, had time after time refused. This work was afterwards trod upon by Mr Edmunds as of no value - but it is the only reliable work on Welsh Baptists in 1906 as to property and services. Also I want the Schedule from the Churches on which my tables are based to be kept. They may take a little room, but they will remind you how Baptists treat their solid workers. It is my wish that the old painting of the first Baptist chapel at Dinorwig should by given to Sardis Church, with my appeal that it be placed in an airtight box in the chapel. W. Rhys Jones'.

Llyfr nodiadau: 'O Ddydd i Ddydd am 1918' (1 Ion. - 16 Chwef.), yn cynnwys sylwadau manwl am bob dydd ....

Llyfr nodiadau: 'O Ddydd i Ddydd am 1918' (1 Ion. - 16 Chwef.), yn cynnwys sylwadau manwl am bob dydd a manylion ynghylch y tywydd (tymheredd, etc.). Y sylw cyntaf am 1 Ion. yw 'Dim yn gyfleus rhoi calennig.' Dyma rai sylwadau am 24 Ion.:. 'Llythyr oddiwrth Hawys. Llythyr o Benrhyncoch. Cael benthyg MSS y diweddar Jephunah Owen a elwir ganddo Llyfr Tregeiriog mewn bocs tin cloedig gan y perchenog presenol Mr David Jones, Pontymeibion ...'.

Llythyrau at Gwenith Gwyn oddi wrth Charles B. Storey, Plas Nantyr, a'i gynrychiolydd, William Parker, 23 Chwef. a 6 Mawrth ....

Llythyrau at Gwenith Gwyn oddi wrth Charles B. Storey, Plas Nantyr, a'i gynrychiolydd, William Parker, 23 Chwef. a 6 Mawrth, 1923, ynglyn â chais Gwenith Gwyn i brynu darn o dir yn Gelli, Ll. Glynceiriog, i adeiladu t? arno. Cyfeiriad hefyd at ddymuniad Gwenith Gwyn fod Charles B. Storey yn cael ei enwebu gan Gynghor Dosbarth Gwledig Y Waun yn ei le fel cynrychiolydd ar Lys Coleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Llyfr lloffion, 11" x 9", tud. 1-34. Amryw. Ion.-19 Chwef. 1936.

Tt. 2-5 Pymtheg dalen brintiedig yn cynnwys pymtheg emyn o waith 'J. J. Drefnewydd'. 14, 16, 18, 19. Llythyrau yn llongyfarch Gwenith Gwyn ar ei anerchiad '50 Mlynedd Agoriad Jerusalem' (gw. 1288, t.22); yn llongyfarch ei ferch, Hawys, am ddarllen yr anerchiad mor ardderchog ac yn dymuno'n dda i Gwenith Gwyn yn ei waeledd. 24 Toriad: 'A Welsh Ghost'. Hanes Beti Jones o Fethesda yn gweld ysbryd wrth gloddio am drysor. 28 Toriad: 'Hynodion Iaith Sir Benfro. Pwy a ?yr o ble y Daeth y Gair 'Barlogo'?', gan Thomas Davies. 34 Toriad: llun, 9" x 6", o blasty'r Scer, ger Porth-cawl.

Llyfr lloffion, 15" x 11", tud. 1-102. 'MSS, Toriadau, Lluniau, Llythyrau a Thalennau.' c. 1900-35.

T.1 Rhaglen 'Cymdeithas Gymreig Penrhiwceibr. Tymhor 1924-5.' (Ar 5 Rhag. 1924 rhoddwyd papur gan Gwenith Gwyn ar y testun 'Dylanwad Amgylchfyd ar Ddyn.'. 7 Dalen yn cynnwys y pennill hwn, yn llawysgrifen [ ? ]:. Ni fydd Lladin yn y Nefoedd. Ni fydd Groeg yn nhy fy Nhad. Ni ddaw Euclid nac Algebra. Byth o fewn y Nefoedd wlad. Henffych foreu. Caf weld claddu rhain i gyd. Ar yr un ddalen ceir nodyn gan Gwenith Gwyn 'Priodolir i Glanaraeth'. 11 Toriad. Llun 'Mari Lwyd at Llangynwyd' gan Fred Evans (tri phlentyn yn tywys y 'Fari'). 12, 15 'Anerchiadau gan y beirdd.' Cerdd (pennill) heb enw'r awdur wrthi yn cyfeirio at Eisteddfod y Pandy (Dyffryn Ceiriog) a rhai o'i gymeriadau. Wel, dyma'n gwyl flynyddol. Â'R hynaf yn y byd,. Mae Pandy'n hen ryfeddol. Ac hen yw gwyl ei gryd ... Dyma linellau olaf y chweched pennill:. Bydd son am Pandy eto. Canmlynedd wedi hyn. Pan fyddwn oll yn huno. Yngyda 'Gwenith Gwyn'. 17 Toriad: 'New Library Committee.'. 'The Rev. W. R. Jones was appointed chairman at a meeting of the Bary Library Committee on Thursday evening ...'. 18 Cerdd (2 bennill) gan Gwenith Gwyn. 'Rhifedi Dyddiau'r Misoedd.' 'Cân y Chwain' (3 pennill), yn llawysgrifen Gwenith Gwyn gyda'r nodyn hwn:. 'Bu y Parch William Ambrose (Emrys) ar daith drwy Fro Morgannwg. To gwellt oedd i'r tai a'r bythynod y pryd hwnnw ac yn yr haf yr oeddynt yn fagwrfa chwain. Poenwyd y bardd-bregethwr yn fawr ganddynt, ac fel hyn y canodd,-. Chwain, chwain,. Sy'n fwy eu rhif na haid o frain,. Yn tyllu'r croen fel pigau o ddrain;. Ym mhell bo rhain: wyf yma'n troi. Ar hyd y nos mewn dirfawr boen,. Gan grafu'r croen, a'm cwsg yn ffoi ... 23 Llythyr at Gwenith Gwyn oddi wrth Miss Cassie Davies, Coleg Addysg Y Barri, 29 Meh. 1933. 'Rwy'n ceisio casglu cymaint o arian ag a allaf at gronfa'r Blaid Genedlaethol ... Tybed a fedrwch chwi roi cyfraniad ar yr achos? Gwn am eich diddordeb mawr yn y mudiad a'ch gwaith dros bob achos gwir Gymreig ...'. 27 Llun 'Glyn Ceiriog. General View.'. Llythyr at Gwenith Gwyn oddi wrth D. Ifor Davies, Bank House, Rhoshill, Boncath, 1 Ebrill 1929. 'I was inclined to write a line in the native tongue, knowing that you are such an ardent 'Cymro' but knowing that such an attempt would contain so many imperfections I changed my mind. Well, Mr Jones, my object in writing is to thank you very sincerely for the excellent account in the 'Seren' of the funeral of my dear father ...'. 29 Toriad: llun 'Pen y Bryn neu Braich yr Hengist, Llanarmon Dyffryn Ceiriog.'. Toriad: llun Ceiriog. Tocyn 'Seremoni Agor Neuadd Canmlwydd Ceiriog', Llanarmon Dyffryn Ceiriog, 7 Awst [ ? ]. 31 Toriad: llun Pistyll Ceiriog. Cerdyn, wedi'i gyfeirio o 'Nythfa Llandilo' a'i arwyddo 'Waeth Pwy', yn cynnwys y pennill:. Mae'r rhaid dod nol ar arch y Sant. Ond siomiant gwir fydd hyn. A nineu'n meddwy mewn mwynhâd. Yngwlad y 'Gwenith Gwyn'. 32 Rhaglen brintiedig: 'Undeb Cymdeithasau Cenedlaethol Cymraeg. Cynhelir Cynhadledd Flynyddol yr Adran I geisio Gwrthweithio Dylanwad y Llifeiriant Seisnig ar Iaith a Nodweddion ein Cenedl yng Nghapel Hebron, Ton Pentre ... Mai 12, 1928.' Anerchwyd yng nghwrdd y prynhawn gan Gwenith Gwyn ar y testun 'Yr Adroddiad a'r Cymdeithasau Cymraeg.' Cyfeiriad at adroddiad 'Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd. 49 Dalen yn cynnwys llun 'Langum Fisherwoman carrying Milford Oysters and Prawns to Tenby Market.'. 50 Cerdd 'Yr hen Weinitog heb benshwn. Yn ol tafodiaeth Cwm Rhondda', gan 'Hen Goliar sy weti gwneyd i ora.'. 53 Dau doriad: lluniau Owain Glynd?r a Chromwel. 54 Toriad: llun 'Mr Edmund Davies, the dancing-doll maker at Carmarthen.'. 59 Dalen brintiedig yn cynnwys geirda Gwenith Gwyn i D. J. Martin, Tregatwg a gynigiai am swydd prifathro, 2 Tach. 1925. 65 Rhaglen brintiedig yn hysbysu un o gyfarfodydd y 'Barry Churches Temperance and Social Welfare Council', 25 Ion. 1935. Gwenith Gwyn oedd llywydd y Cyngor. 71 Toriad: 'Romance of a Crwth 200 Years Old', gan Irene George. 85 Dalen brintiedig o Clay Craft, 1935: 'A Disappearing Claypit.'. Toriad o'r Daily Mail, 1 Meh. 1935: llun 'Clay-diggers in Glamorgan'. 90 Llythyr teipiedig, Saesneg, at Gwenith Gwyn oddi wrth F. E. Rooper, 11 Maze Hill, St Leonards on Sea, 1 Mawrth 1923, yn trafod cynllun Warrington i foddi rhannau o Ddyffryn Ceiriog. '... 'A Border Vale.' Put me down for a copy. I wrote a short guide book of Glyn many years ago. The Dolywern Hotel people issued another one some years later, they cribbed a lot of mine with no acknowledgement ...'. Llythyr teipiedig at Gwenith Gwyn oddi wrth Erfyl Fychan, T?'r Ysgol, Llanerfyl, 1 Meh. 1931. 'Daeth eich llythyr a'r nodiadau i law yn ddiogel a diben y llythyr hwn yw eu cydnabod ynghyd a danfon fy niolchgarwch llwyraf i chwi am eich caredigrwyd ... Y maent yn werthfawr dros ben, yn enwedig gan nad wyf wedi taro ar eu henwau yn unman arall ...' (gw. llythyr cyntaf Erfyl Fychan at Gwenith Gwyn, eitem 1274). 102 Tystysgrif: 'The Tonic Sol-fa College. This is to Certify that William Rhys Jones has passed the prescribed Examination in the Theory of Music, Elementary Stage ... July 14th 1892.'. 22, 25, 79, 83, 90 (2). Llythyrau at Gwenith Gwyn oddi wrth Y Parch Tom Bassett, Blaenrhondda (1932-33).

Papurau Gwenith Gwyn,

  • GB 0210 GWENITH
  • fonds
  • 1750-1947 (crynhowyd [diwedd y 19eg ganrif]-1947) /

Papurau o eiddo, ac yn ymwneud â William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, y cyfan bron yn ei law ei hun, yn cynnwys: nodiadau ar hanes lleol yng Nghymru, enwau lleoedd, llên gwerin, a hynafiaethau (yn cynnwys cryn deunydd, ar ffurf nodiadau, traethodau, anerchiadau, adysgrifiadau, a thorion o'r wasg, ar gymeriadau, traddodiadau, a chymdeithasau hanesyddol, llenyddol a diwydiannol Dyffryn Ceiriog, Morgannwg, Maldwyn, Ceredigion ac Arfon); deunydd crefyddol (pregethau a nodiadau pregethau, traethodau ac anerchiadau ar yr Eglwys Gristnogol ac ar wahanol agweddau ar ei gweinidogaeth; papurau'n delio ag enwad y Bedyddwyr yng Nghymru, yn enwedig ym Morgannwg; nodiadau ar destunau Beiblaidd; nodiadau, anerchiadau coffa, a deunydd bywgraffiadol ar amrywiol gymeriadau crefyddol, Cymry yn bennaf; a geiriadur o dermau Beiblaidd a ddefnyddiwyd yng nghapeli Anghydffurfiol Cymru); cyfansoddiadau llenyddol (yn cynnwys barddoniaeth, storiâu byrion, nofelau, a dramâu, mewn drafft ac yn orffenedig; a darlithoedd, nodiadau a thraethodau ar bynciau llenyddol, hanesyddol, gwleidyddol, a chymdeithasegol); nodiadau ar anthropoleg, ethnoleg, pensaernïaeth a daeareg, yn cynnwys geiriadur Cymraeg-Saesneg o dermau daearegol; y diwydiant llechi yng Nghymru; deunydd ar ramadeg a statws gwleidyddol yr iaith Gymraeg; nodiadau ar wahanol ieithoedd estron a thafodieithoedd, yn cynnwys iaith y Beibl; deunydd bywgraffyddol yn ymwneud â Gwenith Gwyn a'i wraig, 1885-1937; catalog o lyfrau yn ei lyfrgell; torion o'r wasg,1922-1928; a llyfrau lloffion, yn ogystal ag erthygl papur newydd amdano gan y Parch. W. J. Rhys, Abertawe,1947); ei gopïau o weithiau printiedig, 1750-[20fed ganrif]; a deunydd, printiedig neu fel arall, a ysgrifennwyd gan bobl heblaw Gwenith Gwyn = Papers of and relating to William Rhys Jones ('Gwenith Gwyn'), 1750-1947, nearly all of which are in his own hand, comprising: notes on Welsh local history, place-names, folk culture, and antiquities (including considerable material, in the form of notes, essays, addresses, transcripts, and press cuttings, on the personalities, traditions, and historical, literary and industrial associations of Dyffryn Ceiriog, Glamorgan, Maldwyn, Ceredigion and Arfon); religious material (sermons and sermon notes, essays and addresses on the Christian Church and on various aspects of its ministry; papers dealing with the Baptist denomination in Wales, particularly in Glamorgan; notes on Biblical texts; notes, in memoriam addresses, and biographical material on various religious personalities, mainly Welsh; and a dictionary of Biblical terms used in Nonconformist chapels in Wales); literary compositions (comprising poetry, short stories, novels, and plays, in both draft and final form; and lectures, notes, and essays on literary, historical, political, and sociological topics); notes on anthropology, ethnology, architecture and geology, including an English-Welsh dictionary of geological terms; the Welsh quarrying industry; material on the grammar and political status of the Welsh language; notes on various foreign languages and dialects, including Biblical tongues; biographical material relating to both Gwenith Gwyn and his wife (including bills and receipts; diaries for 1923, 1936, and 1937; letters received, 1885-1937; a catalogue of books in his library; press cuttings, 1922-1928; and scrap-books, as well as a newspaper article about him by Rev. W. J. Rhys, Swansea, 1947); his copies of printed works, 1750-[20th cent.]; and material, printed or otherwise, written by persons other than Gwenith Gwyn.

Casgliad bychan o bapurau ychwanegol gan gynnwys llyfrau nodiadau. Nid yw'r rhain wedi eu catalogio eto.

Jones, William Rhys, 1868-1937

Results 81 to 100 of 811