Showing 238 results

Archival description
Papurau Norah Isaac,
Print preview View:

Papurau amrywiol, 1934-87 a heb ddyddiad, gan gynnwys adroddiad blynyddol NI, 1948, yn ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth; Apêl Radio'r ...,

Papurau amrywiol, 1934-87 a heb ddyddiad, gan gynnwys adroddiad blynyddol NI, 1948, yn ymwneud ag Ysgol Gymraeg Aberystwyth; Apêl Radio'r BBC, 1952, gan NI; araith ddienw, 1976, a draddodwyd gan un o drigolion Patagonia adeg ymweliad NI â'r wlad; nodiadau NI, 1983, ar gyfer teyrnged i Carwyn James; anerchiad NI, 1985, yng nghwrdd diolchgarwch Merched y Wawr, Caerfyrddin; a dwy gerdd, heb ddyddiad, a gyflwynwyd i NI.

Gwaith cwrs NI fel myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, Y Barri, sef traethawd hanes: 'Cynnyrch y Diwygiad Methodistaidd yn Emynyddiaeth ...,

Gwaith cwrs NI fel myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, Y Barri, sef traethawd hanes: 'Cynnyrch y Diwygiad Methodistaidd yn Emynyddiaeth Cymru', 1933-34; traethawd Cymraeg: 'Barddoniaeth T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd', 1935; traethawd hanes lleol: 'Tir Iarll. Nid da lle gellir gwell', heb ddyddiad; ac ymarferion iaith, 1934.

Rhodd 2003,

Gohebiaeth, sgriptiau llwyfan, sgriptiau radio a theledu, cyfansoddiadau, beirniadaethau, darlithiau ac anerchiadau, a dyddiaduron, [1874], 1927-2003, ynghyd â phapurau personol a theuluol a phapurau'n ymwneud â'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth.

Llythyrau

Llythyrau at Norah Isaac oddi wrth Saunders Lewis, 1953-[1979], llythyrau oddi wrth hoelion wyth yr Eisteddfod Genedlaethol, a llythyrau pan y'i gwnaed yn Gymrawd o'r sefydliad hwnnw yn 1988.

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau, [1953]-[1979], oddi wrth Saunders Lewis yn cynnwys newyddion personol. Mae'n diolch iddi am anfon copi o Iolo iddo [cf 4/5] ac yn dweud iddo ddarllen sylwadau'r beirniaid am y ddrama yn y wasg. Yr oedd wedi gwrthod ei gwahoddiad i ddarlithio yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974. Ceir hefyd lythyr a anfonodd ati wedi iddi dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, Llundain, yn 1979. Derbyniwyd llungopïau o'r mwyafrif o'r llythyrau hyn eisoes (Papurau Norah Isaac 146/135 a 211).

Lewis, Saunders, 1893-1985

Results 81 to 100 of 238