Dangos 219 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau Gilmor Griffiths, Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Emyn y Pasg,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Emyn y Pasg' gan Pietro Mascagni (allan o'r opera Cavelleria Rusticana), geiriau gan J. Arnold Jones. Llawysgrif, llungopïau a brasluniau.

Engyl Gwynfa,

Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Engyl Gwynfa', gan Richard Mills, Rhos, geiriau gan William Stephen Jones, Ponciau.

Erw faen,

Cyfansoddiad Gilmor Griffiths o alaw 'Erw faen', gosodiad gan D. G. Jones, geiriau 'Y Tangnefeddwr' gan Waldo Williams. Teipysgrif sol-ffa.

Evening song,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Evening song' gan Zoltán Kodály, trefniant gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched, geiriau H. D. Healy.

Faenol Bropor [sic],

Cyfansoddiad a gosodiad gan Gilmor Griffiths o'r alaw 'Faenol Bropor' [sic], geiriau soned 'Nadolig 1973' gan Dafydd Owen. Yr un alaw 'Y Faenol Bropor'.

Fe anwyd mab ym Methlem,

Sgôr mewn llawysgrif o'r carol 'Fe anwyd mab ym Methlem', gan Gilmor Griffiths, geiriau Cymraeg gan Mairlyn Lewis, geiriau Saesneg gan Morien [Phillips]. Copi sol-ffa, sgôr mewn dau gywair gwahanol.

Ffarwel i ddociau Lerpwl,

Sgôr mewn llawysgrif o 'Ffarwel i ddociau Lerpwl', trefniant gan Gilmor Griffiths ar gyfer lleisiau merched neu blant gyda chyfeiliant. Brasluniau ar y cefn.

Frühlingslied ( Cân y Gwanwyn ),

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Frühlingslied' (Cân y Gwanwyn) gan Mendelssohn, trefniant Gilmor Griffiths, ar gyfer deilais â chyfeiliant, geiriau Almaeneg gan Sheila Williams, geiriau Cymraeg gan Norman Williams.

Gallt derw,

Cyfansodiad a gosoddiad gan Gilmor Griffiths o'r alaw 'Gallt derw', geiriau gan D. Lloyd Jenkins.

Ganwyd Crist i'r byd,

Llyfr brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau wahanol drefniadau o 'Ganwyd Christ i'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan James Arnold Jones.

Ganwyd Crist i'r byd,

Trefniant o'r alaw 'Ganwyd Crist i'r byd', geiriau gan J. Arnold Jones, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Geirda personol,

Geirda gan T. E. Davies, Ysgol Acrefair i Fechgyn, 1939; Parch. J. Knighton Jones, Ficer y Rhyl, 1957; J. Idwal Jones, Tŷ Cyffredin (d.d.); Haydn H. Thomas, Ysgol Glan Clwyd, 1960.

Gilmora, 15 o alawon cerdd dant.

Ail argraffiad o 'Gilmora' 15 o alawon cerdd dant, cyhoeddwyd gan Y Lolfa [argraffiad cyntaf yn 1984]. Cynnwys: Moel Hiraddug; Porth y nant; Erw faen; Bryn Elwy; Ymadawiad y Brenin; Carnguwch; Gallt derw; Glan Clwyd; Treddafydd; Cefni; Gelliwig; Breuddwyd y Frenhines; Dyffryn Maelor; Y Faenol Bropor; Aberderfyn.

Glan Aber,

Llungopi o gyfansoddiad Gilmor Griffiths, trefniant i eiriau 'Deisyfiad yr Ysbryd Glan' sef emyn gan John Hughes. Hen nodiant a sol-ffa ar gyfer S.A.T.B.

Goleuni'r byd,

Brasluniau, lawysgrifau a llungopïau o sgorau o 'Goleuni'r byd' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Mairlyn Lewis. Trefniadau ar gyfer S.S.A.A. neu S.S.T.B..

Canlyniadau 81 i 100 o 219