Dangos 142 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau,

Llythyrau, [1966]-[1969], gan gynwys copi o'i lythyr ymddiswyddo fel Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru yn 1968, a hanes dathlu 'Trichanmlwyddiant y Coleg Coffa, Abertawe - yr Hen Academi yng Nghymru' ganddo.

Llythyrau,

Llythyrau, 1970-1971, gan gynnwys llythyr oddi wrth Sam Adams (3), Islwyn Ffowc Elis (3), Gilbert [Ruddock] (4), Eluned Phillips (2), Gwynfor [Evans], Donald J. Stewart, Gwyn [Thomas], Meic Stephens (4) a Gwilym Rees Hughes. Maent yn trafod materion llenyddol ac academaidd, ynghyd â llythyrau o edmygedd a anfonwyd ato adeg ei weithred ef a gweinidogion/offeiriaid eraill yn gosod arwydd Cymraeg ar bont Caerfyrddin a hebrwng un sumbolaidd i Neuadd y Sir.

Adams, Sam, 1934-

Llythyrau,

Llythyrau, 1972-1975, gan gynnwys rhai oddi wrth Sam Adams, Gwyn [Williams] (4), Gilbert [Ruddock] (3) a Cynog Dafis. Mae rhai o'r llythyrau'n ymwneud â llunio'i gyfrol ar Gwynfor Evans (1976) ac mae llythyrau Gilbert [Ruddock] yn trafod cyfieithu cerddi Pennar Davies i'r Gymraeg.

Adams, Sam, 1934-

Llythyrau,

Llythyrau, 1942-1983. Ymhlith y gohebwyr mae Euros [Bowen] (2), Glyn Jones, T. E. Nicholas, Gwenallt, Roland Mathias a Kate Roberts. Ceir llythyrau, 1952, yn ei longyfarch ar gael ei benodi'n Brifathro'r Coleg Coffa, Aberhonndu, yn 1952.

Bowen, Euros.

Llythyrau,

Llythyrau, 1934-1982. Mae'r mwyafrif ohonynt yn llythyrau a anfonodd o'r Unol Daleithiau at ei rieni yn disgrifio'i fywyd yno a nifer o gardiau post hefyd. Ceir llythyr oddi wrth Nigel Heseltine.

Heseltine, Nigel

Llythyrau,

Llythyrau, [1936]-[1946], 1992, oddi wrth Aneirin [Talfan Davies] (10), Keidrych [Rhys] (6), ynghyd â'i ddatganiad yn nodi'i safiad yn erbyn y rhyfel ac mae'n gwrthod ymladd 'under the present conditions', [1941]-[1945] ac Alun Llywelyn-Williams (2) ac eraill. Yn eu plith hefyd mae llythyrau oddi wrth ei noddwraig Mrs Fitzgerald. Ceir Cylchlythyr yr Academi, Haf 1992, yn cyfeirio at Arddangosfa o fywyd a gwaith Pennar Davies a gynhaliwyd ym Mhrifiysgol Abertawe.

Davies, Aneirin Talfan.

Llythyrau,

Llythyrau, [1943]-[1961]. Ymhlith y gohebwyr mae Gwenallt, T. Charles Edwards (2), D. J. Wiliams, Saunders Lewis, Dr Noëlle Davies, Keidrych Rhys (2) ac Euros [Bowen], ynghyd ag enghreifftiau o emynau Saesneg a luniwyd ganddo.

Llythyrau,

Llythyrau, gan gynnwys rhai oddi wrth Bobi [Jones] (3), S[imon] B. Jones, E. Tegla Davies, Iorwerth C. Peate, T. J. Morgan a Meredydd [Evans]. Mae rhai o'r llythyrau yn ymateb i'w gyfraniad 'Episodes in the History of Brecknockshire Dissent' yn y cyfnodolyn Brycheiniog, 1957.

Jones, Bobi, 1929-2017

Llythyrau,

Llythyrau, 1960-1965, gan gynnwys rhai oddi wrth Gareth Alban Davies ac Aneirin Talfan Davies.

Davies, Gareth Alban.

Llythyrau,

Llythyrau, [1960]-[1974], gan gynnwys llythyr oddi wrth Harri Webb.

Webb, Harri, 1920-

Llythyrau,

Llythyrau, 1976-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth Dafydd Rowlands yn amgau copi llawysgrif o'i gerdd 'Yr un yw glaw a chragen', Owain [Owain], Gilbert [Ruddock] (5), John Rowlands (2), Sandra Anstey, Saunders Lewis, Merêd [Meredydd Evans], [D.] Myrddin [Lloyd], Urien [Wiliam] a Ffred Ffransis. Ceir llythyrau o gefnogaeth iddo yn dilyn ei weithred yn diffodd trosglwyddydd teledu ym Mhencarreg yn 1979 gyda Meredydd Evans a Ned Thomas mewn protest ar ran Cymdeithas yr Iaith .

Rowlands, Dafydd.

'Mab y Wawrddydd',

Drafftiau teipysgrif y stori fer hir a gyhoeddwyd yn Islwyn Jones a Gwilym Rees Hughes (golygyddion), Storïau '72 (Llandysul, 1972), ynghyd â chopi cyflawn wedi'i gywiro.

Nodiadau hunangofiannol,

Llyfr nodiadau yn cynnwys 'Cychwyn arall i'w hunangofiant', ynghyd â drafftiau o 'Torri Tant' a 'Iesu o Nasareth' yng nghefn y gyfrol.

Nodiadau hunangofiannol,

Llyfr nodiadau yn cynnwys pytiau hunangofiannol ar gyfer 1928-1991, ynghyd â drafftiau o Mabinogi Mwys [Abertawe, 1979] yng nghefn y gyfrol ac adysgrifau ohonynt.

Papurau a grynhowyd,

Papurau a grynhowyd ganddo, 1924-[1970], gan gynwys Deiseb ar ddysgu'r Gymraeg yn Ysgolion Cymoedd Rhondda a chyfrol deipysgrif yn cynnwys cerddi R. Williams Parry.

Papurau amrywiol,

Papurau, [1933]-[1936], yn ymwneud â'i gyfnod yn y coleg, gan gynnwys Rules and other information respecting members of Balliol College (1933), a llythyrau at ei rieni, 1934-1935.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys ei anerchiad 'Y pethau nid ydynt' fel Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn Rhosllanerchrugog, 1973, gyda'i nodiadau; copi o'r Tyst, 26 Hydref 1978, yn cynnwys ei erthygl tudalen flaen 'Dyfodol y Coleg Coffa'; a 'Y Coleg Coffa ar hyn o bryd', [1981].

Canlyniadau 81 i 100 o 142