Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau iechyd amrywiol

Papurau iechyd amrywiol, gan gynnwys rhaglen ac adrodd ar ymweliad Dr Clowes ac eraill â Lesotho, Ion.-Chw.; adroddiad gan Sue Elliston ac eraill ar agweddau ar iechyd y gymuned a'r cyhoedd yn Ardal Quthing, Chw.; a phroffil iechyd Lesotho yng nghyd-destun Wales4Africa, Chw.

Gweithgareddau staff; swyddi; amserlenni; hyforddiant staff; a pholisïau staff

Gohebiaeth a phapurau, 1986-2013, yn ymwneud â materion staff, yn cynnwys gweithgareddau staff (1993); ffurflenni oriau gwaith (1992-1993); disgrifiadau swydd (1991-1993); adroddiad y cyfarwyddwr (1987); hyfforddiant staff (1992); hysbysebu swyddi (2001-2007); a pholisïau staff (1997-2013). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys disg hyblyg wedi ei theitlo ‘Disgrifiadau Swydd’ (1993).

Y Pentan

Papurau'n ymwneud â grŵp trafod Y Pentan yn ardal Dyffryn Ogwen, gan gynnwys nifer o gerddi a luniodd ar gyfer eisteddfodau'r Pentan, 1958-1997, a cherddi sydd wedi'u cynnwys yn ei gyfrol O’r niwl a’r anialwch lle cyhoeddwyd detholiad o’i gerddi caeth a rhydd]. Bu'n ysgrifennydd Y Pentan a cheir rhaglenni ar gyfer 1993-94 a 2012-2013.

Nodiadau ar ffynhonnau

Adroddiadau, cyfeiriadau, darluniau a ffotograffau o amryw ffynhonnau, yn cynnwys Ffynnon Fair, p. Aberdaron, Ffynnon Beuno, p. Clynnog Fawr, ffynhonnau Llandrindod, ffynhonnau'r Gogarth, p. Llandudno, Capel Ffynnon Fair, p. Llanelwy, Ffynnon Faglan, p. Llanfaglan, Ffynnon Gathen, p. Llangathen, St Anne's Well, p. Llanmihangel, Ffynnon Ddyfnog, p. Llanrhaeadr Dyffryn Clwyd, Ffynnon Fair, p. Llanrhos, Ffynnon Fyw, p. Mynytho, Ffynnon Pilalau, p. Pilalau, Ffynnon Aelrhiw, p. Rhiw, Ffynnon Ffraid, p. Swyddffynnon, a Ffynnon Gwenfrewi, p. Treffynnon. Hefyd llungopïau o erthyglau yn ymwneud â spa Trefriw, Sir Gaernarfon, [c.1930au]; cyfeirnodau grid ffynhonnau a enwir A-G; 'Wellsprings', rhif 11 (Mawrth 2009), a chyfieithiad o 'Llygad y ffynnon', rhif 31 (Nadolig 2011) i Saesneg gan Sefydliad Wellsprings.

Results 81 to 100 of 1284