- PA3/2.
- file
- 1914-1992.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Tystysgrifau, 1914-1992, gan gynnwys tystysgrif geni Tecwyn Lloyd, 1914, tystysgrifau priodas, 1955 a 1984, tystysgrif marwolaeth Frances Lloyd, 1980, a Tecwyn Lloyd, 1992.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Ei adroddiadau ysgol tra'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg y Bala, 1927-1933, ynghyd ag adroddiad a dderbyniodd yn Ysgol y Cyngor, Llawrybetws, 1927.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Tystysgrifau, 1927-1938, gan gynnwys rhai arholiadau'r Ysgol Sul, am ennill gwobrau llenyddol yn Eisteddfod Myfyrwyr Colegau Bangor, 1937, ac am lwyddo mewn arholiad cwrs ymarfer dysgu, 1938.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Teyrnged brintiedig y Parch. Robin Williams i dad D. Tecwyn Lloyd (Llandysul, 1970), ynghyd â thaflen ei angladd, 1 Mehefin 1970. Ceir hefyd anerchiad John Lloyd, 'Y Beibl yng ngolau beirniadaeth ddiweddar', ar gyfer cyfarfod misol yn Nwyrain Meirionnydd, mewn llyfr nodiadau, [1927]-[1928], yn llaw ei fab. Ychwanegwyd nodyn cefndirol ganddo yn 1976. Ceir hefyd goeden deulu Teulu Lloydiaid Penybryn yn cynnwys pedair cenhedlaeth o deulu John a Winifred Lloyd.
Williams, Robin, 1923-
'A short history of the schooldays of two certain boys ...',
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Llyfr nodiadau yn cynnwys hanes ei ddyddiau ysgol wedi'i ysgrifennu gyda'i gyd-awdur Gwynn Williams yn 1931.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Llyfr ysgrifennu ysgol yn cynnwys traethodau ar lenyddiaeth Saesneg, 1931-1933.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau, 1942-1943, a dderbyniodd fel aelod o'r blaid yng Ngogledd Cymru ac ym Mhrydain.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau'n ymwneud â'i ymweliad ag Iwgoslafia, Medi 1976, gydag Undeb y Llenorion, taith Côr Meibion Bro Glyndwr i'r Iseldiroedd, 1988, a thaith i Fflandrys i goffáu Hedd Wyn, 1992. Ceir ei basbort hefyd, 1958-1968.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau'n ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd yn y brifysgol ym Mangor, gan gynnwys ai atgofion am y blynyddoedd 1934-1938, ynghyd â'i draethawd MA, 1961.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau a osodwyd gan Fwrdd Canol Cymru, 1923; papurau arholiad Prifysgol Cymru, 1934-36, ynghyd â chardiau aelodaeth cymdeithasau, taflen ei seremoni raddio yn BA, 1937 a rhaglen, 11 Gorffennaf 1990, y seremoni pan y'i dyfarnwyd yn Gymrawd er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor, a thoriad o'r Cyfnod yn cofnodi'r achlysur.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Nodiadau Ieitheg (Ifor Williams), Dafydd ap Gwilym, nodiadau Hanes, ynghyd â nodiadau diweddarach.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Ei draethawd 'Yr elfen bersonol yng Nghanu Taliesin, Llywarch Hen a'r Canu Gwirebol', 1936, ynghyd â phapurau eraill o'i ddyddiau coleg fel bwydlenni Cinio'r Gymdeithas Gymraeg, 1936-1937, wedi'u llofnodi gan y rhai oedd yn bresennol.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Traethawd: 'Natur a datblygiad y dehongliad o Gymru gan awduron Eingl-Gymreig a beirniadaeth lenyddol', Prifysgol Lerpwl, 1961 ynghyd â thaflen y seremoni, Mehefin 1961.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Atgofion am ei gyfnod yn fyfyriwr yn y brifysgol ar ffurf llawysgrif a theipysgrif a ysgrifennwyd yn 1990.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Papurau, 1948-[1988], yn ymwneud â'r cyfnod a dreuliodd fel Cymrawd Ymchwil yn Rhufain gan gynnwys adroddiad 'Taith i'r Eidal' ac astudiaeth o dafodieithoedd.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Llyfr nodiadau'n croniclo'i daith i'r Eidal, 26 Awst-23 Medi 1948, a llythyr, 1952, oddi wrth T[h]om[as] [Jones], ynghyd â chopi teipysgrif 'Taith i'r Eidal'.
Jones, Thomas, 1910-1972.
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Llythyrau a anfonwyd ato tra oedd yn astudio yn yr Eidal gan gynnwys llythyrau o Rufain, rhai oddi wrth ei Dad, ynghyd â llythyrau llawer mwy diweddar. Ymhlith y gohebwyr mae R. O. F. Wynne, Claude [Gildas Jaffrennou] (6), Emyr Wyn Jones, G. J. Williams (2), H. I. Bell, Bobi Jones (2), Meredydd Evans (3), Alun Llywelyn-Williams, Henry E. G. Rope (2), Gwyn [Erfyl] (2), [O.] Llew Owain, T[homas] Parry (2), I[orwerth] P[eate], Meuryn, [J]. Gwyn [Griffiths] (3), Kate Roberts, Aneirin Talfan Davies, W. J. Gruffydd, T. Gwynfor Griffiths, Brenda Chamberlain, Islwyn [Ffowc Elis] (2), Raymond Garlick, a Caradog Prichard.
Wynne, R. O. F. (Robert Oliver Francis), 1901-1993
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Llyfr nodiadau'n cynnwys cofnod ar gyfer 1 Gorffennaf 1949, a'i adroddiad 'Llawysgrifau yn Llyfrgell y Fatican'.
'Cymry alltud y Gwrthddiwygiad',
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Darlith a draddododd wrth Gymrodorion yr Wyddgrug, Ionawr 1950, ynghyd â manylion, 1951, am amodau'r ysgoloriaeth a ddyfarnwyd gan y Sefydliad Eidalaidd yn Llundain, adroddiad am ei gyfnod astudio a deunydd mewn Eidaleg gan gynnwys tocynnau darllen Llyfrgell ac Archifau'r Fatican, 1952.
'Various notes on Morris [Morys] Clynnog, Gruffydd Robert, etc',
Part of Papurau D. Tecwyn Lloyd,
Nodiadau am alltudion o Gymru yn Archifau'r Coleg Seisnig yn Rhufain.