Showing 691 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau file Welsh
Print preview View:

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau i eiriau'r Parch. John Gwilym Jones; emyn-donau cyfoes ar unrhyw salm; tair ffanfêr i ensemble pres yn addas ar gyfer seremoni; caneuon ar gyfer unrhyw lais mewn sioe gerdd; deuawd piano dan 25 oed o safon gradd 6 neu uwch; anthem i gôr SATB; trefniant newydd o garol draddodiadol; cylch o ganeuon ar gyfer unrhyw lais a fyddai'n addas ar gyfer unawdydd; symudiad ar gyfer cerddorfa hyd at 8 munud; Tlws y Cerddor; a chystadleuaeth i ddisgyblion ysgol uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed - dau ddarn cyferbyniol, un lleisiol ac un offerynol.

Barddoniaeth,

Casgliadau o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau caeth traddodiadol, heb fod dros 300 llinell: 'Tir neb'; pryddestau neu ddilyniant o gerddi heb fod dros 200 llinell: 'Egni'; englyn: 'Etifeddiaeth'; cywydd o 24 llinell: 'Deffro'; englyn milwr: 'Cymuned'; telyneg: 'Haint'; cerdd gynganeddol: 'Syrcas'; cerdd ar fesur newydd: 'Magl'; soned; 'Sgrîn'; baled ddigri; cerdd foliant i berson neu le; a chasgliad o gerddi hwyliog.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Cerdd dant: dau osodiad cyferbyniol; emyn-dôn i eiriau'r Parchedig John Pinion Jones; amrywiadau ar unrhyw garol plygain allan o lyfr Geraint Vaughan Jones ar gyfer y delyn; ensemble offerynnol, addas i'w berfformio yn yr arholiad TGAU; trefniant modern o unrhyw gân werin ar gyfer llais ac unrhyw gyfuniad o offerynnau; cân ar gyfer unrhyw lais mewn arddull sioe gerdd; unawd wreiddiol yn defnyddio un o emynau Ann Griffiths; cyfansoddiad gwreiddiol ar gyfer band pres; Tlws y Cerddor; a dau ddarn cyferbyniol i unrhyw gyfrwng (ieuenctid dan 19 oed).

Dysgwyr,

Llunio deg cwestiwn i'w gofyn i berson enwog; darn o ryddiaith: 'Taith'; darn o ryddiaith: 'Noson fawr'; cerdd: 'Y ffin'; darn o ryddiaith: 'Darganfod'; dyddiadur wythnos o brofiad gwaith; casgliad o waith ar unrhyw thema yn cynnwys mwy nag un ffurf o ysgrifennu; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 2; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 3; deunydd darllen ar gyfer cyfnod allweddol 4; a deunydd darllen ar gyfer oedolion lefel 1 neu 2.

Rhyddiaith,

Cyfrol o ryddiaith gyda chysylltiad amaethyddol (y fedal ryddiaith).stori fer neu stori fer dafodieithol: hunanddewisiad; cyfrol o storïau gwreiddiol amser gwely i blant; erthygl hyd at 5,000 o eiriau: 'Mab Darogan'; dyddiadur wythnos newyddiadurwr/wraig; a chasgliad o ddywediadau ffraeth.

Drama,

Drama fer agored 30-40 munud o hyd; trosi drama benodol i'r Gymraeg; sgript ar gyfer y teledu; llunio sgript ar gyfer 1 actor/actores 20-30 munud o hyd; a llunio sgript drama 20-30 munud o hyd addas i'w pherfformio gan glwb ieuenctid.

Results 101 to 120 of 691