Diolch am gyfarchion Nadolig. Daethant i Aber-porth i orffwyso. Mae wedi gwella llawer iawn erbyn hyn. Maent yn edrych ymlaen at nofel nesaf KR. Ar hyn o bryd mae ef a Siân yn darllen Ffenestri Tua'r Gwyll (Islwyn Ffowc Elis) ac yn anghytuno'n syn â'i seicoleg droeog. Mae dychymyg Islwyn Ffowc Elis yn anghyffredin o ffrwythlon a dyfeisgar, ei arddull yn glir a disglair a'i ddisgrifiadau o natur yn gampus. O chwilio am wendidau, ei goll pennaf yw "diffyg myfyrio'n ddigon hir ac aros gyda'i gymeriadau nes troi ohonynt yn gig a gwaed yng ngwres ei athrylith". Mae'n llyfr o bwys a'i gynfas yn ysblennydd o eang yn agor ar orwelion llydain celfyddyd i lawer cyfeiriad newydd.
Gwrandawodd ar gychwyn nofel KR [ar y radio] a chafodd gymaint o fwynhad fel na allai beidio ag anfon nodyn i'w llongyfarch. [Y Byw sy'n Cysgu]. Mae'n canmol Cymraeg cyfoethog y ddialog. Yr oedd yr actorion yn dda hefyd, yn arbennig Nesta Harries.
Yr oedd wedi clywed gan amryw am helyntion Gwasg Gee. Gwyddai fod Moses Griffith a Gwynfor Evans wedi bod yn ei gweld ond ni chafodd hanes pendant. Mae'n cydymdeimlo â'i phoen personol hi ac mi fyddai'n dda ganddo helpu'n ymarferol petai rhyw gyfle. Awgryma cyhoeddi nofel KR [Y Byw sy'n Cysgu] ar unwaith a mynnu bod y wasg yn dal y farchnad yn dilyn ei darlledu ar y radio. Mae Gwasg y Dryw yn cyhoeddi ei ddrama ddiweddaraf. Nid yw'n hoffi'r pennaeth ond mae'n ddigon cyfeillgar ag Aneirin Talfan [Davies], ei frawd. Ond Gwasg y Dryw yw'r unig wasg sy'n gofyn am ei waith, fel nad oes ganddo ddim dewis.
Mae Miss Eirwen Jones, Llandeilo, wedi awgrymu y byddai Kate Roberts yn hoffi derbyn copi o'i llyfr Hoff Chwedlau ar gyfer plant 9-11 oed. Maent yn anfon copi cyfarch iddi. Saesneg/English.
Diolch i KR am y saith mlynedd a dreuliodd gyda hi yng Ngwasg Gee. Ar wahân i'w gyflogi bu'r cyfnod yn addysg dda iddo ac yn un hapus dros ben. Dymuno'n dda i KR yn y dyfodol.
Cafodd straen ar y galon bellach ers dros flwyddyn. Mae Siân wedi ennill rhyw nerth newydd o rywle. Nid yw wedi gallu ysgrifennu ers misoedd. Mae'n deall bod Y Faner wedi mynd yn eiddo i eraill. Yr oedd wedi clywed bod bobl y Blaid wedi bod yn trafod dyfodol y papur ond heb lwyddiant. Talu teyrnged i KR, Gwilym R. [Jones] ac eraill o staff Y Faner am gydweithio mor lew drwy gydol yr ugain mlynedd enbyd o galed a gawsant. Mae'n hyderu nawr y gall KR ymroi i waith llenyddol. Y stori fer, gryno, awgrymog, dreiddgar yw priod faes ei doniau arbennig hi. Yno mae ei gorau yn odidog.
Yr oedd yn chwith ganddo weld yr hen drefn yn dod i ben ynglyn â'r Faner. Mae ar bawb ddyled enbyd i KR. Rhoddwyd swcwr trwy flynyddoedd hir y rhyfel a haearn yn y gwaed. Mor lwcus fu'r Blaid o gael defnydd y papur i ddadlau ei hachos. Paham na fentrodd y Blaid gamu i'r olyniaeth? Mae am ddweud clamp o ddiolch wrthi a chydnabod ei ddyled bersonol am bopeth a wnaeth KR. Dim ond un rhifyn o'r nofel newydd a glywodd ar y radio, sef yr olaf, ond cododd hynny awydd mawr arno am gael y llyfr. Holi pryd y cyhoeddir y gyfrol.
Cafodd sioc o glywed am gyfnewidiadau'r Faner. Mae'n diolch i KR am ei gwaith ar y papur drwy'r blynyddoedd. Bydd rhywun, rhywdro, yn edrych yn ôl ac yn ysgrifennu hanes Y Faner yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu'r papur yn gysur o wythnos i wythnos. Mae gwaith KR fel awdures yn rhan o fywyd ein cenhedlaeth ni yng Nghymru. Cafodd Rhigolau Bywyd a Ffair Gaeaf ddylanwad ar gannoedd o blant yn yr ysgolion. Roedd [Y Byw sy'n Cysgu] yn ardderchog ar y radio. Roedd rhai bechgyn ysgol yn ei dilyn yn eiddgar.
Llongyfarch KR yn frwd a didwyll ar nofel wirioneddol fawr [Y Byw Sy'n Cysgu]. Fe wêl y llyfr fel uchafbwynt rhyddiaith ein canrif. Ni ddarllenodd nofel a roddodd gymaint o fwynhâd ymenyddol a synhwyrus iddo. Hyderu y caiff hamdden ac iechyd i greu rhagor. Hi o bawb a allai greu nofel sy'n dangos Cymru fel profiad personol, neu'n boen bersonol.
Diolch am gydymdeimlad ar farwolaeth ei gwr. Yr oedd y Fainc yn ei siwtio'n well na'r BBC - mwy o amser i ddarllen, mwy o gyflog a gweithio hyd 72 oed. Nid oedd ganddo unrhyw ddiddordeb yn y BBC. Dan bwysau mawr y cytunodd. Aeth dros ben Ogilvie er mwyn cael Cymraeg ar y radio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhoddodd y gorau i'w bensiwn rhyfel (1914-18) er mwyn medru ymladd dros bensiwn gwell i eraill. Ni chymerodd ddimai am ymladd tros yr NFU ym mrwydr Dyffryn Tywi. Hoffai dderbyn llyfr KR. Mae'n teimlo unigrwydd mewnol ofnadwy. Ni bu gwell Cymro na Christion.
Diolch am gopi o Y Byw Sy'n Cysgu yn rhodd. Clywsant bob rhan ohoni ar y radio yng nghynhyrchiad Emyr Humphreys. Mae'r cymeriadau yn aros yn fyw a chofiadwy ym meddwl y darllenydd. Cafodd amryw o lyfrau dros y Nadolig. Mae yn ei llyfr hi ysgrifennu cryno, cadarn, cywir. Mae diwyg y llyfr hefyd yn gampus. Diolch am y 'Portread' yn Y Faner. Cyfeirio nôl at yr helynt a fu yn Llandeilo a D. J. Williams yn gwrthod ymddiheuro i ringyll trwyngoch.
Derbyniodd gopi o'r Byw Sy'n Cysgu ar gyfer Seren Gomer. Cafodd wythnosau helbulus - ei wraig yn dioddef â'i nerfau ac yntau ag aflwydd ar ei olwg. Anfonodd air o werthfawrogiad i Seren Gomer - ni cheisir adolygu yno, dim ond gwerthfawrogi a chymell. Mae wedi dotio'n lân ar Lora Ffennig. Mae'n darllen llyfrau KR bob blwyddyn ac yn byw gyda'r cymeriadau, ond dyma'r cymeriad mwyaf hoffus eto. Mae'n ofni bod y portreadau o weinidogion mewn nofelau Cymraeg yn wir - pethau digon aneffeithiol ydynt. Ni thybiai fod yr un darllediad a glywodd o'r Byw Sy'n Cysgu yn gwneud cyfiawnder â mawredd y nofel. Yr oedd J. T. Jones, Ysgol Ramadeg Rhiwabon, yn canmol y nofel yn fawr.
Mae newydd orffen darllen Y Byw Sy'n Cysgu ac ni all fynd i'w gwely heb anfon gair i longyfarch KR ar nofel feistrolgar. Gadawodd ei gwaith ty er mwyn dilyn hanes Lora Ffennig. Anghofiodd fwyta un pryd bwyd hyd yn oed. Holi am ei hamgylchiadau yn dilyn gadael Y Faner. Ei chroesawu yno i fwrw'r Sul. Hyderu yr aiff ymlaen i ddilyn hynt y cymeriadau. Ni chafodd gymaint o fwynhad wrth ddarllen nofel ers amser maith. Llwyddwyd i dreiddio i waelod y cymhlethdod hwnnw sy'n ffurfio cymeriad merch yn well na dim un dyn o nofelydd.
Mae'n ymateb i ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu - llyfr cyfoethog sy'n gwella a grymuso wrth fynd ymlaen. Roedd darllen y gyfrol yn brofiad go fawr ac y mae hynny'n beth pur ddieithr ynglyn â dim newydd Cymraeg erbyn hyn. Tybiai y gallai gair o werthfawrogiad fod yn hwb i KR fynd ymlaen i lunio'r nofel nesaf. Mae ei Chymraeg yn gyfoeth gogoneddus.
Llongyfarch KR ar Y Byw Sy'n Cysgu. Cafodd fwynhad a bodlonrwydd dibendraw wrth ei darllen a gwnaeth y Nadolig yn un cofiadwy iddi. Ei hannog i ysgrifennu rhagor o nofelau. Ni fuasai heb y cyfoeth profiad a gafodd wrth ddarllen y gyfrol am unrhyw beth. Mae'n nofel feistraidd. Cyfeiriad at Eisteddfod Glynebwy 1958.