Showing 811 results

Archival description
Papurau Gwenith Gwyn,
Print preview View:

Llyfr nodiadau trwchus, dyddiedig 27 Ebrill [18]99, yn cynnwys.

Llyfr nodiadau trwchus, dyddiedig 27 Ebrill [18]99, yn cynnwys:. A 'Gwylliaid Cochion Mawddwy' (1 tud). B 'Folklore of the Parish of Llangurig from Hamer and Lloyd's history of the parish'. C 'Extracts from A Relation of Apparitions ..., Edmund Jones'. Ch 'Swyn Serch' - swyn a ddefnyddid gan lanciau i ennill calon merch (2 dud.). D 'Ofner na ofno angau'. Dd 'Tai Pridd Penrhyncoch' (2 dud.) (gw. llsgr. 106). E 'Chwareu pel a bando dydd Nadolig'. F 'Rheibio' (nodyn byr). Ff Dull o wneud eirch ym Maldwyn. (nodyn byr). G 'William - Kate's first love and three dreams'. Stori drist am ferch yn gwrthod priodi ei chariad oherwydd fod y diciâu arno. Ng Hanesyn, yn Saesneg, am wraig glöwr yn gosod ei thystysgrif priodas yn amlwg. Cyfeirio ati pan gwerylai ei chymdogesau â hi - 'doedd yr un ganddynt hwy, er wedi priodi (1 tud.). H Rhestr o dai pridd mewn gwahanol rannau o Gymru, ynghyd ag enwau ar wahanol fathau o anedd-dai (21 tud) (gw. llsg. 106). I Nodiadau, yn Saesneg, ar yr hen arfer o arddodi dwylo (Crefyddol, yn bennaf). (gw. hefyd eitem 458, yn adran Crefydd).

Results 101 to 120 of 811