Dangos 123 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Papurau'r Athro Griffith John Williams ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Rhestri llawysgrifau

Rhestr o lawysgrifau, yn llaw G. J. Williams, yn perthyn i'r cyfnod cyn 1400 hyd 1700; ynghyd â chopïau o rai o restri ('Schedules') llawysgrifau sydd ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Saunders Lewis

Papurau'n ymwneud yn bennaf â gyrfa Saunders Lewis yn sgîl llosgi'r Ysgol Fomio yn 1936. Yn eu plith ceir deiseb yn datgan cefnogaeth iddo a phapurau'n ymwneud â'r cyfarfod protest a gynhaliwyd yn Abertawe, 22 Mai 1937.

Slipiau

Bwndeli o slipiau ymchwil G. J. Williams ar fywyd a gwaith Iolo Morganwg: 'Iolo Morganwg' (A1-131); 'Iolo Morganwg' (B1-160); 'Cymysg ' (C1-197); 'Barddoniaeth Iolo a Nodiadau' (D1-82); 'Hanes a Brutiau' (F1-126); 'Beirdd a'u barddoniaeth' (G1-324); (J1-98); 'Coelbren y Beirdd' (K1-60); 'Bardic words' a 'Iolo's use of compounds'; 'Nodiadau o lyfrau'; 'Enwau lleoedd a barddoniaeth gwahanol feirdd, Llan. C34 + Addl MSS'; 'Nodiadau: Llanover MSS, C30. Peniarth, Meh. 16, 1928'; 'Cynnwys Ffilmiau 1.2.3b.3r.4.G. Cynnwys ffeithiau Iolo am ei fywyd ei hun'.

Slipiau ymchwil

Slipiau ymchwil yn cynnwys cyfeiriadau at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau. Mae nifer yn ymwneud â Iolo Morganwg ac yn deillio o'i lawysgrifau.

'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan'

Llawysgrifau darlithoedd Saesneg ar draddodiad llenyddol Morgannwg, 'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan', 'Some Aspects of the Literary Tradition of Glamorgan' a 'The Vale of Glamorgan and the Literary Tradition of the Vale'; ynghyd â phroflen erthygl yn dwyn y teitl 'The Welsh Literary Tradition', gyda phwyslais arbennig ar Forgannwg.

Torion papur

Torion papur, [1920x1963], yn ymwneud â Iolo Morganwg, llenyddiaeth Gymraeg, crefydd, diwylliant ac addysg yng Nghymru. Yn eu plith ceir un bwndel o dorion, 1954-1956, o ysgrifau 'Cartrefi Cymru' gan Bob Owen, Croesor, yn Y Cymro.

Owen, Bob, 1885-1962

Y Llenor

Deunydd amrywiol, 1921-1923, yn cynnwys gohebiaeth yn bennaf, yn ymwneud â chyhoeddi cylchgrawn Cymraeg newydd, yn dwyn y teitl Y Llenor, i lenwi'r bwlch a adawyd gan dranc Y Beirniad. Ymhlith y gohebwyr mae W. J. Gruffydd, Henry Lewis ac Ifor Williams.

Y Wasg Gymraeg

Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.

'Yr Iaith Gymraeg'

Nodiadau darlithoedd amrywiol yn olrhain hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg, gan gynnwys 'Yr Iaith Gymraeg', 'Yr Elfen Ladin yn y Gymraeg', a 'Y Gymraeg ym Morgannwg'.

'Yr Iaith Lafar'

Darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar Gymraeg llafar yn bennaf, gan gynnwys 'Yr Iaith Lafar', 'Yr Iaith Lafar a'r Iaith Lenyddol', 'Y Gymraeg ym Mhontypridd a'r Cylch', 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cylch', 'Yr Iaith Gymraeg ym Morgannwg', 'Y Gymraeg yn Sir Fynwy', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'A Phonological conspectus of the Welsh dialect of Nantgarw', a 'Cymraeg Byw'.

Canlyniadau 101 i 120 o 123