- A3/3
- file
- [1911x1963]
Darlith yn dwyn y teitl, 'Hanes Geiriaduron Cymraeg'.
Darlith yn dwyn y teitl, 'Hanes Geiriaduron Cymraeg'.
Papurau G. J. Williams, [1930x1945], ar 'Ramadeg Cymraeg' Gruffydd Robert. Maent yn cynnwys nodiadau, adysgrifau, darlithoedd, erthygl, sgript radio, ac ychydig lythyrau.
Nodiadau darlithoedd ar yr Eisteddfod.
'Mudiadau llenyddol, crefyddol, eisteddfodol a chymdeithasol ...'
Llawysgrif darlith yn dwyn y teitl 'Mudiadau llenyddol, crefyddol, eisteddfodol a chymdeithasol yng Nghymru o'r fl. 1790-1820', ynghyd â nodiadau perthynol.
Bwndel o nodiadau amrywiol ac anghyflawn yn ymwneud yn bennaf ag eisteddfodau unigol.
Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil G. J. Williams ar yr iaith Gymraeg, gan gynnwys llawysgrif ei draethawd ymchwil, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'; darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar hanes yr iaith, yr iaith lafar, gramadeg a geirfa, enwau, yr ieithoedd Celtaidd, ac addysg Gymraeg; ynghyd ag ychydig bapurau perthynol i'w waith fel aelod o fwrdd golygyddol Geiriadur Prifysgol Cymru.
Darlithoedd ac erthyglau amrywiol ar Gymraeg llafar yn bennaf, gan gynnwys 'Yr Iaith Lafar', 'Yr Iaith Lafar a'r Iaith Lenyddol', 'Y Gymraeg ym Mhontypridd a'r Cylch', 'Y Gymraeg yng Nghaerdydd a'r Cylch', 'Yr Iaith Gymraeg ym Morgannwg', 'Y Gymraeg yn Sir Fynwy', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'A Phonological conspectus of the Welsh dialect of Nantgarw', a 'Cymraeg Byw'.
Darlithoedd a nodiadau amrywiol ar ramadeg a geirfa'r Gymraeg.
Llyfrau nodiadau a phapurau rhydd yn cynnwys darlithoedd a nodiadau ar eirfa a gramadeg yr ieithoedd Celtaidd yn bennaf.
Papurau amrywiol yn ymwneud â'r iaith Gymraeg.
Slipiau ymchwil yn cynnwys cyfeiriadau at enwau personol a thestunau mewn llawysgrifau. Mae nifer yn ymwneud â Iolo Morganwg ac yn deillio o'i lawysgrifau.
'Hanes y Llawysgrifau Cymraeg'
Darlithoedd yn olrhain hanes y llawysgrifau Cymraeg, gan gynnwys un yn cyfeirio at yr arddangosfa yn Llyfrgell Caerdydd, 1928.
Llawysgrifau a theipysgrifau sgyrsiau radio G. J. Williams ar 'lyfrau a chyhoeddiadau diweddar', 1933-1958.
Ychydig nodiadau a dyfyniadau o waith almanacwyr megis Thomas Jones, Sion Prys a Sion Rhydderch.
Ffolder yn dwyn y teitl Llên Cymru yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf o erthyglau ac adolygiadau a ymddangosodd yn ystod y cyfnod y bu G. J. Williams yn olygydd ar y cylchgrawn.
Papurau rhydd, digyswllt gan fwyaf, o blith y papurau ymchwil.
Gohebiaeth a phapurau teuluol a phersonol Elizabeth Williams, ynghyd â deunydd yn ymwneud â'i gwaith cyhoeddus.
Williams, Elisabeth Elen, 1891-1979
Mân bapurau gan fwyaf, yn cynnwys nodiadau amrywiol gan, neu'n ymwneud mewn rhyw fodd ag Elizabeth Williams.
Yn eu plith ceir rhai'n ymwneud â sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru. Yn ogystal â'r llythyrau, ceir copi teipysgrif o 'Cywydd Marwnad T. Gwynn Jones' gan, ac wedi ei arwyddo gan, Saunders Lewis; a 'Golygfa Mewn Caffe neu, Y Terfyn yng Nghymru', gan ac yn llaw Saunders Lewis. Hefyd, ceir un llythyr, dyddiedig 1931, at Saunders Lewis.
Lewis, Saunders, 1893-1985
Llythyrau L (Lewis, Timothy -)
Ymhlith y gohebwyr amlycaf mae D. Myrddin Lloyd (14), D. Tecwyn Lloyd (13), J. E. Lloyd (11), a J. Lloyd-Jones (15, gan gynnwys un oddi wrth Freda Lloyd-Jones ar farwolaeth ei gŵr).