Showing 219 results

Archival description
Papurau Gilmor Griffiths, File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Goleuni'r Gair / Dyfrdwy,

Dau drefniant gwahanol o'r alaw 'Dyfrdwy' gan John Jeffries, trefniant i bedwar llais gan Gilmor Griffiths, geiriau 'Goleuni'r Gair' gan Richard Jones, Llanfrothen.

Good-night,

Trefniant o'r alaw 'Good-night', geiriau gan J. Arnold Jones, ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau.

Green sleeves,

Llungopi o drefniant Gilmor Griffiths o'r alaw draddodiadol 'Green sleeves' perfformiwyd gan Gantorion y Wledd Ganoloesol, Castell Ruthun, yng Nghastell Rhuthun. Sgôr gyda geiriau.

Gwaith yr Iesu,

Copi mewn llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o 'Gwaith yr Iesu', o'r alaw 'Saron' gan Thomas Hughes, Gendros, ar gyfer S.A.T.B., geiriau Cymraeg gan Elfed.

Gwennol y bondo,

Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o 'Gwennol y bondo' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones. Trefniant ar gyfer lleisiau merched neu blant (S.A.).

Gwna gymwynas,

Copi sgôr a geiriau 'Gwna Gymwynas' gan Gilmor Griffiths, ar gyfer lleisiau S.A., geiriau gan H. D. Healy.

Hawys,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Y ceiliog dandi' gan Geraint Lloyd Owen, i'r gainc 'Hawys' gan Mona Meirion.

Hiraethog,

Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Pen y Cei' gan Trebor Roberts (Porthmadog), i'r alaw 'Hiraethog' gan Haydn Morris. Braslun mewn llawysgrif.

Huw Puw,

Trefniant Gilmor Griffiths o 'Huw Puw', ar gyfer pedwar llais (S.A.T.B.), yr alaw allan o gasgliad J. Glyn Davies.

Hwyl ar y gân,

Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.

Hwyrgân yr Hydref,

Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].

June is bustin out all over,

Trefniant o'r alaw 'June is bustin out all over' ar gyfer y Rhyl Operatic Society. Llawysgrif o drefniant Gilmor Griffiths o gyfansoddiad Rogers and Hammerstein (Carousel). Sgôr yn yr hen nodiant a chopi sol-ffa. Hefyd llungopi o sgôr 'Out of my dreams' o 'Oklahoma'.

Laudamus te,

Brasluniau anghyflawn o drefniant Gilmor Griffiths o'r gân diolchgarwch 'Laudamus te' (heb ei orffen).

Results 101 to 120 of 219