Showing 45743 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Gwaith llywodraeth

Papurau amrywiol am waith Llywodraeth Cymru'n Un gan gynnwys deunydd am sefydlu y Coleg Ffederal Cymraeg/Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Maniffesto Plaid Cymru

Copi o faniffesto Plaid Cymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1997 (Y Gorau i Gymru = The Best for Wales) yn cynnwys nodiadau Ieuan Wyn Jones.

Plaid Cymru

Cymru a'r Farchnad Cyffredin

Cyhoeddiad Plaid Cymru o'r enw "Plaid Cymru a'r Farchnad Cyffredin: Astudiaethau ar y Gymuned = Wales and the Common Market: Referendum Study Papers" ar agweddau'r Gymuned Ewropeaidd a'r cyfleodd a bygythiadau i Gymru o fod yn aelod.

Plaid Cymru

Cynllun Interreg

Gohebiaeth, dogfennau, drafftiau cwestiynau ac ati yn ymwneud a chynllun Interreg yr Undeb Ewropeaidd, yn ffocysu ar gynlluniau i fuddsoddi yn rheilffyrdd rhwng Crewe a Chaergybi a Llundai ac Abergwaun a phorthladdoedd Caergybi, Doc Penfro ac Abergwaun.

Sticeri

Sticeri yn hyrwddo Ieuan Wyn Jones, o posib o Etholiad Cyffredinol 1987.

Plaid Cymru

Mesur Teclynnau Clyw

Ffeiliau yn ymwneud a mesur preifat yn y Senedd i reoleiddio gwerthu teclynnau clyw gan gynnwys gohebiaeth perthnasol, cofnodion cyfarfodydd, tystiolaeth a gwybodaeth am achosion lle roedd teclynnau anaddas wedi cael eu gwerthu a manylion negodi a thrafod gyda awdurdodau'r Senedd a'r llywodraeth er mwyn trefnu bod y mesur yn dod yn ddedf.

Rhyfel Bosnia

Papurau amrywiol yn ynwneud a Rhyfel Bosnia gan gynnwys llython at Ieuan Wyn Jones, gohebiaeth gyda gweinidogion, adroddiadau ar y rhyfel, cymorth dyngarol, gwaharddiadau ar werthu arfau, ffoaduriaid a hil-laddiad, papurau briffio ar gyfer Aelodau Seneddol, rhagleni digwyddiadau codi arian, a thorrion o bapurau newydd.

Anaf Dafydd Wigley

Gohebiaeth a datganiad tyst ynglyn ac anaf cafodd Dafydd Wigleys, AS, tra roedd yn cerdded i'r Senedd ar 19 Hydref 1994 tra roedd yr heddlu yn plismona protest a'r cwyn arfaethedig yn erbyn ymddygiad yr heddlu.

Llyfr nodiadau 13

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones syn cynwys nodiadau ynglyn ag ei ymgyrch am arweinyddiaeth grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Llyfr nodiadau 19

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau ar bynciau megis datbygu wleidig, Anglesey Aluminum, yr iaith Gymraeg a materion lleol Ynys Mon.

Llyfr nodiadau 17

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones gan gynnwys nodiadau ar bynciau megis iechyd, digartrefedd, cyllideb y llywodraeth, cwestiynau i weinidogion a gwaith arferol y Cynulliad.

Llyfr nodiadau 14

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnyws nodiadau ar marchnad gwaith Ynys Mon, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, annibynniaeth a gwaith yn y Cynulliad.

Llyfr nodiadau 15

Llyfr nodiadau Ieuan Wyn Jones yn cynnwys nodiadau ar bynciau megis addysg, datganoli a gwaith yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Results 101 to 120 of 45743