Showing 53283 results

Archival description
File
Advanced search options
Print preview View:

621 results with digital objects Show results with digital objects

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ddrama deledu gyda'r teitl 'Angel o'r Nef' (1985). / A typescript of a script for a drama for television titled ‘Angel o’r Nef’ (1985).

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Helga's Family'. / A typescript of a script for a film for television titled 'Helga's Family'.

'Twll o Le'

Drafft teipysgrif (1987), gyda chywiriadau, o sgript ar gyfer ffilm deledu a ysgrifennwyd gyda W. S. Jones, gyda'r teitl ‘Twll o Le’. Darlledwyd ar S4C, 21 Ebrill 1987. / A typescript draft (1987), with corrections, of a script for a film for television written with W. S. Jones, titled ‘Twll o Le’. Transmitted on S4C, 21 April 1987.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif (1989) o sgript ar gyfer ddrama deledu gyda'r teitl 'Yr Alltud'. / A typescript (1989) of a script for a television drama titled 'Yr Alltud'.

Drafftiau teipysgrif gyda nodiadau / Typescript drafts with notes

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau, brasluniau a nodiadau yn llaw Emyr Humphreys, o sgript ar gyfer drama wedi'i theitlo 'The Etruscan Smile' (1989), ynghyd â theipysgrif bellach o sgript o'r enw 'Delicate Mistakes, Elemental Powers' ( 1991), a thudalennau o nodiadau a chyfieithiadau yn Eidaleg. / A typescript draft, with annotations, sketches and notes in the hand of Emyr Humphreys, of a script for a drama titled ‘The Etruscan Smile’ (1989), together with a further typescript of a script titled ‘Delicate Mistakes, Elemental Powers’ (1991), and pages of notes and translations in Italian.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif ([?1995]) o sgript ar gyfer ffilm deledu gyda'r teitl 'Rhodd Mam'. / A typescript ([?1995]) of a script for a film for television titled 'Rhodd Mam'.

'Cwlwm Cariad'

Teipysgrif o rannau 1 a 2 o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl 'Cwlwm Cariad', a ddarlledwyd ar S4C, 5 Mai 1987. / A typescript of parts 1 and 2 of a script for a television drama titled 'Cwlwm Cariad', transmitted on S4C, 5 May 1987.

Drafft teipysgrif gyda chywiriadau / Typescript draft with corrections

Drafft teipysgrif, gydag anodiadau a chywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu gyda'r teitl 'Yr Alltud' ([?1989]), ynghyd â chopi o amserlenni Darlledu a Dyrannu Radio Cymru, 1993, a thudalennau o sgript arall wedi'i theitlo 'Gwen's Wedding'. / A typescript draft, with annotations and corrections, of a script for a television drama titled ‘Yr Alltud' ([?1989]), together with a copy of Radio Cymru Transmission and Allocation schedules, 1993, and pages from another script titled ‘Gwen’s Wedding’.

'From a Writer's Notebook'

Un drafft teipysgrif ac un llawysgrif o sgript gyda'r teitl 'From a Writer's Notebook', ynghyd â nodiadau ac amlinelliadau o leoliadau posibl ([1999]), a dau ddrafft teipysgrif pellach, gyda chywiriadau yn llaw Emyr Humphreys a rhestr o leoliadau ac awgrymiadau cerddoriaeth (1999). / One typescript and one manuscript draft of a script titled ‘From a Writer’s Notebook’, together with notes and outlines of possible locations ([1999]), and two further typescript drafts, with corrections in the hand of Emyr Humphreys and a list of locations and music suggestions (1999).

'A Necessary Figure'

Papurau (1970; [?1973]), yn ymwneud â chynhyrchiad teledu o’r enw ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, yn cynnwys tri drafft teipysgrif o sgript deledu a ysgrifennwyd gan Emyr Humphreys; nodiadau llawysgrif yn llaw yr un; a theipysgrif arall gyda’r teitl ‘Outline of a Necessary Figure’. / Papers (1970; [?1973]), relating to a television production titled ‘A Necessary Figure: A Television Birthday Tribute to Saunders Lewis’, including three typescript drafts of a television script written by Emyr Humphreys; manuscript notes in the hand of the same; and a further typescript titled ‘Outline of a Necessary Figure’.

'Ŵyn i’r Lladdfa'

Drafft teipysgrif (1983), gyda chywiriadau, o sgript ar gyfer drama deledu o’r enw ‘Ŵyn i’r Lladdfa’, a ddarlledwyd ar S4C, 1 Mawrth 1984. / A typescript draft (1983), with corrections, of a script for a television drama titled ‘Ŵyn i’r Lladdfa’, transmitted on S4C, 1 March 1984.

Cynyrchiadau teledu amrywiol / Various television productions

Papurau’n ymwneud â rhaglen deledu gyda’r teitl ‘The Celts – Chronicle’, gan gynnwys rhestr o luniau a rholiau camera, a nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn llaw Humphreys. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys papurau sy’n ymwneud â chynyrchiadau teledu eraill lle bu Emyr Humphreys yn gysylltiedig, gan gynnwys rhestr camera ar gyfer rhaglen gyda'r teitl ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, ynghyd â nodiadau; rhestrau cast, amserlen stiwdio, a threfn rhedeg ar gyfer cynhyrchiad gyda'r teitl ‘Gwrthwynebwyr’/'Pearse a Connolly' (1974); a chynlluniau llwyfan ar gyfer cynhyrchiad o’r enw ‘Blodeuwedd’ (1964). / Papers relating to a television programme titled ‘The Celts – Chronicle’, including a list of shots and camera rolls, and manuscript notes written in Humphreys’ hand. The file also includes papers relating to other TV productions where Emyr Humphreys was involved, including a shot list for a programme titled ‘Gwlad a Thref: Oedolion Perigord English’, with accompanying notes; cast lists, studio schedule, and running order for a production titled ‘Gwrthwynebwyr’/’Pearse a Connolly’ (1974); and stage plans for a production titled ‘Blodeuwedd’ (1964).

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Papurau (1958; 1967; [?1975]; 1988) yn ymwneud â chynhyrchu’r ddrama deledu ‘Byw yn Rhydd’, yn cynnwys teipysgrif o’r sgript gyda brasluniau a nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys; ynghyd â nodiadau pellach yn dwyn y teitl ‘Pwyll a Rhiannon’, drafft o draethawd (di-deitl), llythyrau oddi wrth yr Arglwydd David Cecil (1) ac Imogen Taylor (1), a phrint du a gwyn. / Papers (1958; 1967; [?1975]; 1988) relating to the production of the television drama ‘Byw yn Rhydd’, including a typescript of the script with sketches and manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys; together with further notes titled ‘Pwyll and Rhiannon’, a draft of an essay (untitled), letters from Lord David Cecil (1) and Imogen Taylor (1), and a black and white print.

Teipysgrif / Typescript

Teipysgrif o sgript deledu ar gyfer y ddrama ‘Byw yn Rhydd’ (1984), gyda rhai nodiadau llawysgrif yn llaw Emyr Humphreys. / A typescript of a television script for the drama ‘Byw yn Rhydd’ (1984), with some manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys.

'The Invention'; 'Etruscan Places'

Llyfr nodiadau A4 (1992) yn cynnwys nodiadau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, gan gynnwys drafftiau rhannol o straeon byrion o’r enw ‘The Invention’ ac ‘Etruscan Places’. / An A4 notepad (1992) containing various manuscript notes in the hand of Emyr Humphreys, including partial drafts of short stories titled ‘The Invention’ and ‘Etruscan Places’.

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Llyfr nodiadau ([?2001]) yn cynnwys drafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o syniadau stori fer gyda’r teitlau ‘Suspicion’/ ‘Felicity’s Angel’, ‘Guardian Angel’, ‘The Fourth Man’, ’Homecoming’, ‘Funeral Music’/’Figures at a Funeral’, ‘Before the War’, ’The Nightmare’, ac ‘An Old Man Complaining’; ynghyd â nodiadau a drafftiau pellach o farddoniaeth a rhyddiaith, drafft o draethawd gyda’r teitl ‘Landscape’, a drafft o araith ar gyfer agoriad adeilad Parry-Williams, Prifysgol Aberystwyth ([?2000]). / A notepad ([?2001]) containing various manuscript drafts in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of short story ideas titled ‘Suspicion’/ ‘Felicity’s Angel’, ‘Guardian Angel’, ‘The Fourth Man’, ’Homecoming’, ‘Funeral Music’/’Figures at a Funeral’, ‘Before the War’, ’The Nightmare’, and ‘An Old Man Complaining’; together with further notes and drafts of poetry and prose, a draft of an essay titled ‘Landscape’, and a draft of a speech for the opening of the Parry-Williams building, Aberyswyth University ([?2000]).

Nodiadau a drafftiau amrywiol / Various notes and drafts

Llyfr nodiadau a phapurau (2002-2004) yn cynnwys nodiadau a drafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, gan gynnwys drafftiau rhannol o straeon byrion gyda’r teitlau ‘Love Potion’, ac ‘A Long Story’; ynghyd â drafftiau o draethodau gyda’r teitlau ‘Negotiating with the Dead’ a ‘Cronica Walliae’, drafftiau o farddoniaeth, a nodiadau sy’n ymwneud yn ôl pob tebyg â’r nofel ‘The Shop’. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth Sioned Puw Rowlands (1) a Geraint Wyn Parry (1), ynghyd â llythyr drafft gan Emyr Humphreys; a thaflen ar gyfer ‘Y Byd’. / A notepad and papers (2002-2004) containing various manuscript notes and drafts in the hand of Emyr Humphreys, including partial drafts of short stories titled ‘Love Potion’, and ‘A Long Story’; together with drafts of essays titled ‘Negotiating with the Dead’ and ‘Cronica Walliae’, drafts of poetry, and notes apparently relating to the novel ‘The Shop’. The file also includes letters from Sioned Puw Rowlands (1) and Geraint Wyn Parry (1), together with a draft letter from Emyr Humphreys; and a leaflet for ‘Y Byd’.

Nodiadau a drafftiau / Notes and drafts

Llyfr nodiadau A4 yn cynnwys drafftiau llawysgrif amrywiol yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau rhannol o straeon byrion a rhyddiaith gyda’r teitlau ‘For and Against’, ‘Y Gop’, ‘W. S. J.’, ac ‘A Meeting of Minds’; ynghyd â drafftiau amrywiol o farddoniaeth, gan gynnwys cerddi gyda’r teitlau ‘The Chaste Househusband’, ‘A Blessing’, ‘Confessional’, ‘Looking Back’, a ‘Dyn Unig’. / An A4 notepad containing various manuscript drafts in the hand of Emyr Humphreys, including partial drafts of short stories and prose titled ‘For and Against’, ‘Y Gop’, ‘W. S. J.’, and ‘A Meeting of Minds’; together with various drafts of poetry, including poems titled ‘The Chaste Househusband’, ‘A Blessing’, ‘Confessional’, ‘Looking Back’, and ‘Dyn Unig’.

'Two Old Men'; 'In Those Days'; 'The Good Samaritan'

Llyfr nodiadau yn cynnwys amryw o nodiadau llawysgrif a drafftiau ([?2000au]; 1999) yn llaw Emyr Humphreys, yn cynnwys drafftiau o straeon byrion yn dwyn y teitlau ‘Two Old Men’, ‘In Those Days’, a ‘The Good Samaritan’; ynghyd â nodiadau di-deitl amrywiol a drafft teipysgrif o sgript (hefyd heb deitl), a nodiadau a chopïau teipysgrif o gerddi wedi’u labelu ‘From a Writer’s Notebook’. / A notepad containing various manuscript notes and drafts ([?2000s]; 1999) in the hand of Emyr Humphreys, including drafts of short stories titled ‘Two Old Men’, ‘In Those Days’, and ‘The Good Samaritan’; together with various untitled notes and a typescript draft of a script (also untitled), and notes and typescript copies of poems labelled ‘From a Writer’s Notebook’.

Results 101 to 120 of 53283