Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2001, ac agenda a chofnodion cyfarfod, Mai 2002; nodiadau drafft o agenda’r cyfarfod Mai 2002; amcangyfrifon ariannol, 2001-2002 i 2005-2006 (2002); manylion o grantiau ymchwil AHRB (‘Arts and Humanities Research Board’) (2000); ac adroddiad yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (2001). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2001-2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Nia Davies; Lynn Williams; Peter Lloyd; Beryl Jenkins; Pat Lewis; a Derec Llwyd Morgan.
Cofnodion Cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr, Mai, a Hydref 2004; agendâu, Mai 2004 a Mai 2005; copi o’r Adolygiad Rolau, Swyddogaethau a Strwythur Prifysgol Cymru a’i Pherthynas â’r Sefydliadau yn y Dyfodol (2005); amcangyfrifon ariannol, 2004-2005 i 2008-2009 (2005); a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil (2004 a 2005). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion ariannol (2004), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; R. Geraint Gruffydd; Branwen Jarvis; Jenny Childs; Linda Tiller; Geraint H. Jenkins; William Gillies; Catherine McKenna; a Barry Cunliffe.
Mae’r ffeil yn cynnwys ffurflenni enwebiadau’r Pwyllgor Rheoli, 2005; a gohebiaeth gysylltiedig (2005), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Vera Bowen; Geraint H. Jenkins; a Noel Lloyd.
Cofnodion cyfarfod ac agendâu Pwyllgor Gwaith y Ganolfan; adroddiad ariannol 1981-1982; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Dafydd Jenkins; Brian Howells; Olwen Daniel; a Bobi Jones.
Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan; adroddiad ariannol 1979-1980; Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1979-1980; cofnodion cyfarfod i drafod Apêl Syr Thomas Parry-Williams; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Martin Davies; Syr Thomas Parry; David Jenkins; ac R.R. Davies.
Cofnodion cyfarfod ac agenda Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1981 (rhai wedi llofnodi 1982); Adroddiad Blynyddol y Ganolfan 1980-1981; adroddiad ariannol 1980-1981; Adroddiad y Llyfrgellydd 1980-1981; a llythyrau yn trafod materion gweinyddol oddi wrth Andrew Hawke; Olwen Daniel; a Syr Thomas Parry.
Cofnodion cyfarfod ac agendâu Corff Llywodraethol y Ganolfan, 1982 (rhai wedi llofnodi 1983); adroddiad ariannol 1981-1982; a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol, oddi wrth Bobi Jones; Olwen Daniel; a Mari Ellis.
Copi o Ddarlith O’Donnell, Prifysgol Cymru, 1994, gan Geraint H. Jenkins, ‘“The Finest Old University in the World”: The University of Wales 1983-1993’.
Papurau, 1990, yn ymwneud â ddeuddegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Hanes Powys a’i Barddoniaeth yn y 12g a’r 13g’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen.
Papurau a gohebiaeth, 1993, yn ymwneud â phymthegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Llysiau a Meddygaeth’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Dafydd Dafis; E. Evans; Jane Cartwright; Carole Hough; Christine Fell; Pierre-Yves Lambert; R. D. Berryman; Morfydd E. Owen; a Mary Davies.
Copi o deipysgrif drafft o gyfraniad R. Geraint Gruffydd ‘Where Was Rhaeadr Derwennydd?’ i’r gyfrol 'Celtic Language, Celtic Culture: a festschrift for Eric P. Hamp', a nodiadau, [1988]; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod y 'festschrift', 1984-1985 a 1987-1988, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Daniel F. Melia; R. Geraint Gruffydd; Jean Le Dú; Karl Horst Schmidt; Ann Matonis; V.J. Adlard; Graham Amy; David Badcock; Jean Belcher; L. Crowther; Jeremy Dodd; Richard Harland; D.A.D. Reeve; ac N.J. Ruffle.
Papurau, 1976-1977, yn ymwneud â lansio Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys nodiadau (1977); drafft o’r cylchlythyr yn hysbysebu’r Apêl (1976); a llythyrau yn trafod y lansiad (1977), oddi wrth R. Geraint Gruffydd; David Jenkins; D.B. Lloyd; ac Olwen Evans.
Gohebiaeth a phapurau, 1976-1978, y rhan fwyaf gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion i'r Apêl Syr Thomas Parry Williams, yn cynnwys llythyrau oddi wrth J. Haulfryn Williams; J. E. Caerwyn Williams; Jack Evans; Roy Stephens; R. Geraint Gruffydd; G. D. Jones; John Rhys; Brian Ó Cuív; J. A. Edwards; Trevor Morgan; Emrys Wyn Jones; Cyril Moseley; T.A. Owen; Heidemarie Poschbeck; Bobi Jones; Elan Closs Stephens; Ioan Bowen Rees; Douglas Bassett; David Jenkins; Pat Williams; R. Geraint Gruffydd, Ieuan Gwynedd Jones, a J. E. Caerwyn Williams; a Thomas Parry. Yn ogystal, ceir copi o'r cylchgrawn ‘Ninnau’ (1978).
Papurau, 1978-1985, yn cynnwys adroddiadau ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1978-1983), a datganiad incwm (1984); memoranda (1980; 1982; 1985) yn trafod taliadau ac adroddiadau; datganiadau ariannol cyffredinol (1978-1980); a ffurflen ysgoloriaeth ‘Fulbright’ (1983) gyda llythyrau cysylltiedig (1984-1985) oddi wrth John Koch a J.O.A. Herrington.
Gohebiaeth a phapurau, 1982-1985, y rhan fwyaf yn ymwneud â chais y Ganolfan i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, yn cynnwys copi a drafft o adroddiad y cais (1983); amserlen ar gyfer ymweliad y Pwyllgor i’r Ganolfan (1983); agenda a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983-1984); agendâu a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli (1984-1985); cofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1983); cofnodion cyfarfod Uwch Gynrychiolwyr y Ganolfan (1984); adroddiad ariannol (1983-1984); a llythyrau cysylltiedig yn trafod y cais (1980, a 1982-1985) oddi wrth Gareth Owen; J.E. Caerwyn Williams, Emrys Evans, Ieuan Gwynedd Jones, a Bobi Jones; Emrys Wynn Jones; Peter Swinnerton-Dyer; Bobi Jones; Robin Gwyndaf; Y Parch. Dr Pennar Davies; Mary Burdett-Jones; Hywel Wyn Jones; ac M.A.R. Kemp;
Papurau, 1983-1984, yn ymwneud â cheisiadau grantiau a chymrodoriaethau ymchwil amrywiol, yn gynnwys copïau o ffurflenni cais a chanllawiau ar gyfer ceisiadau grantiau Yr Academi Prydeinig, y 'Social Science Research Council', y ‘Twenty-Seven Foundation’; a chymrodoriaethau Prifysgol Cymru, y ‘Lister Institute of Approved Medicine’, a Prifysgol Casnewydd; a llythyrau yn trafod y ceisiadau grantiau oddi wrth G. J. Roderick; G.S. Dawes; ac Emrys Wynn Jones. Yn ogystal, ceir copi o gylchlythyr Coleg Prifysgol Cymru, ‘News and Views’ (1983); a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983).
Gohebiaeth, 1971-1973, yn cynnwys ymholiadau am gyrsiau Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru ac atebion, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; C.A. France; Kathryn Ann Klar; Maureen Clarke; James A. Jones; Paul Birt; G. Jones; a Joan Hughes.
Papurau a gohebiaeth, 1992-1993, yn ymwneud â materion iechyd a diogelwch, a chynnal a chadw adeilad y Ganolfan a agorodd yn 1993, yn cynnwys adroddiad cynnydd (1992); a llythyrau (1992-1993), oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Ian George; M.A.R. Kemp; M.W. Mainwaring; J.Lionel Madden; P.S. Robinson; J. Gunnery; a D.J.D. Davies.
Torion o erthyglau yn ymwneud â'r rheolwr newydd, 'Emlyn Evans: Gwerthfawrogiad' a gyhoeddwyd yn Y Ddinas, Awst 1957, a'r rheswm am ei ymddiswyddiad yn 1964, ynghyd â chopi o 'Memorandwm ac Erthyglau Cwmni Christopher Davies (Cyhoeddwyr) Cyf.', 1949.