Showing 59941 results

Archival description
Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Dyddiadur 1922 ond yn cynnwys cerddi a ysgrifennodd TGJ yn ystod y cyfnod 1923-29. Ysgrifennwyd nifer o'r cerddi yng Nghorc ...,

Dyddiadur 1922 ond yn cynnwys cerddi a ysgrifennodd TGJ yn ystod y cyfnod 1923-29. Ysgrifennwyd nifer o'r cerddi yng Nghorc, Medi 1923, ynghyd â rhai sylwadau cyffredinol amdanynt. Ceir cyfieithiadau i'r Saesneg o 'Y Fun Fud' ac 'Atgof' i gerddoriaeth gan D[avid] de Lloyd ar gyfer cyngerdd yn Aberystwyth ac o englynion Robert ap Gwilym Ddu.

Darnau amrywiol o farddoniaeth. Yn eu plith mae 'Y lle bûm yn gware gynt', [Baner ac Amserau Cymru, 2 Hydref ...,

Darnau amrywiol o farddoniaeth. Yn eu plith mae 'Y lle bûm yn gware gynt', [Baner ac Amserau Cymru, 2 Hydref 1940, t. 4]; 'Ein Tad o'r Nef, doed arnom ni ...', emyn yng ngwasanaeth priodas Miss Nest Jones a Mr John Hughes Lewis, Y Capel Mawr, Dinbych, 31 Mawrth 1942, printiedig; Carol: Ewyllys Da, 'Ymryson oedd yn llenwi'r byd ...', y geiriau gan TGJ a'r gerddoriaeth gan Wm James, Llanbadarn Fawr, printiedig; ['Breuddwyd y Telynor, yn llanc yng Nghymru gynt ..., cyfansoddwyd ar gais W. S. Gwynn Williams, 1935], teipiedig; 'Symffoni annerch i D[avid] V[aughan] T[homas], Onid teg y cenit ti ...', 2 Gorff. 1922, ar gefn y ddalen olaf ceir englynion, etc. wedi eu copïo oddi ar gerrig beddau ym mynwent Gyffylliog; 'Kywydd Priodas a gant Gwynn vab Iwan brydydd o dref Gaernarfon i Wilym Sion Grvffydd athro o ddinas Gaer Dyf a Gwenda verch Ifan athrawes hithau o Gaer Dyf yn y vlwyddyn mil a naw cant o Oed Crist'.

Cyfieithiadau i'r Ffrangeg o rai o'i brif weithiau [cyn 1926]. Gofynnwyd iddo wneud y cyfieithiadau hyn oherwydd y bwriad o ...,

Cyfieithiadau i'r Ffrangeg o rai o'i brif weithiau [cyn 1926]. Gofynnwyd iddo wneud y cyfieithiadau hyn oherwydd y bwriad o wneud cais am wobr Nobel iddo. Ond datgelodd rhywun y gyfrinach i'r Wasg ac oherwydd hynny gwrthododd gael ei enwebu ar gyfer y wobr. Ceir cyfieithiadau o 'Madog', 'Broséliáwnd' ('Brocéliand sef rhydd gyfieithiad gan Arthur ap Gwynn), 'Anatiomaros' a 'Pelydryn' ('Rayon'). Ffrangeg/French.

Gweith Argoed Llwyvein: darganfyddiadau'r Dr Dreistaub gan S. O. Brédasant, PhD Dulyn, Gwasg y Frân Ddu, 1943, 'sy'n enghraifft o ...,

Gweith Argoed Llwyvein: darganfyddiadau'r Dr Dreistaub gan S. O. Brédasant, PhD Dulyn, Gwasg y Frân Ddu, 1943, 'sy'n enghraifft o ddawn nodedig Gwynn Jones i dynnu coes' (gweler David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd, t. 71). Llawysgrif, gwahanlith a chopi printiedig, ynghyd â llythyr oddi wrth TGJ, 12 Gorffennaf 1943 at [W. Emyr Williams, Aberystwyth] a phroflenni wedi'u cywiro.

Results 101 to 120 of 59941