Showing 1284 results

Archival description
File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Deunydd print

Llyfrau o lyfrgell Tegla Davies, gan gynnwys William Jones (Ehedydd Iâl), Blodau Iâl (Treffynnon, 1908), gyda thorion o erthyglau gan awduron gwahanol; The poems of Francis Thompson (London, 1913), yn cynnwys copi o Y Winllan, Ebrill 1939.

Torion

Cyfrol yn cynnwys torion o’r wasg, 1932-1943, gan gynnwys rhai am ‘Pryddest Dafydd Huws’, pryddest ddigrif a anfonwyd i Eisteddfod Genedlaethol Aberafan 1932 ac a gyhoeddwyd yn Y Ford Gron.

Adolygiadau

Adolygiadau o’i weithiau ac adolygiadau ganddo, 1911-1960, a gyhoeddwyd yn Yr Eurgrawn yn bennaf, ynghyd â rhai yn Y Beirniad, Yr Efrydydd, Y Traethodydd a Y Dysgedydd.

Gradd er anrhydedd

Rhaglen Prifysgol Cymru yn cynnwys cyflwyniad Yr Athro G. J. Williams i Tegla Davies pan dderbyniodd radd Doethur mewn Llên er anrhydedd ym Mhrifysgol Abertawe yn 1958.

Hanes teulu a personalia

Torion o ysgrifau coffa i Mrs Jane Eleanor (Nellie) Davies, gwraig Tegla Davies a fu farw yn 1948 a threfn y gwasanaeth, copi Saesneg o ewyllys Tegla Davies, ‘nodiadau teuluaidd’ a chopïau o dystysgrifau geni, priodi a marwolaeth.

Pregethau

Cyfrol nodiadau yn cofnodi lleoedd pregethu, dyddiadau a thestunau Tegla Davies, 1919-1965; pregethau, 1953-1961, gan gynnwys
‘Rhaglen oedfa radio Bore Gwener y Groglith’, 1961; a llyfr nodiadau gyda’r teitl ‘Oriau hamdden’, 1880-1905.

Dyfodol Dyddiol #3,

Cyhoeddwyd / ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn a'r Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Cynnwys cyfweliad gyda Pat a Dave Datblygu, Dic Ben o 'Elfis Presli' ac erthygl yn erbyn creulondeb i anifeiliaid.

Amser Siocled,

"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.

Poster gig Blaen Dyffryn,

Poster gwyn a choch ar gyfer Dawns yn neuadd Blaen Dyffryn, Llandysul, 20 Medi [1985] gyda Derec Brown a'r Racaracwyr, Maraca, Blaenau 'Y' , a Disco. Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Ffermwyr Ifainc Pontsian.

Results 101 to 120 of 1284