Dangos 1033 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Pregethau

Cyfrol nodiadau yn cofnodi lleoedd pregethu, dyddiadau a thestunau Tegla Davies, 1919-1965; pregethau, 1953-1961, gan gynnwys
‘Rhaglen oedfa radio Bore Gwener y Groglith’, 1961; a llyfr nodiadau gyda’r teitl ‘Oriau hamdden’, 1880-1905.

Dyfodol Dyddiol #3,

Cyhoeddwyd / ysgrifennu gan Gorwel Roberts o Benrhyndeudraeth (aelod o fand Bob Delyn a'r Ebillion) a daeth allan adeg Eisteddfod Porthmadog yn 1987. Cynnwys cyfweliad gyda Pat a Dave Datblygu, Dic Ben o 'Elfis Presli' ac erthygl yn erbyn creulondeb i anifeiliaid.

Amser Siocled,

"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.

Poster gig Blaen Dyffryn,

Poster gwyn a choch ar gyfer Dawns yn neuadd Blaen Dyffryn, Llandysul, 20 Medi [1985] gyda Derec Brown a'r Racaracwyr, Maraca, Blaenau 'Y' , a Disco. Trefnwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a Ffermwyr Ifainc Pontsian.

Canlyniadau 101 i 120 o 1033