Darnau amrywiol o farddoniaeth. Yn eu plith mae 'Y lle bûm yn gware gynt', [Baner ac Amserau Cymru, 2 Hydref 1940, t. 4]; 'Ein Tad o'r Nef, doed arnom ni ...', emyn yng ngwasanaeth priodas Miss Nest Jones a Mr John Hughes Lewis, Y Capel Mawr, Dinbych, 31 Mawrth 1942, printiedig; Carol: Ewyllys Da, 'Ymryson oedd yn llenwi'r byd ...', y geiriau gan TGJ a'r gerddoriaeth gan Wm James, Llanbadarn Fawr, printiedig; ['Breuddwyd y Telynor, yn llanc yng Nghymru gynt ..., cyfansoddwyd ar gais W. S. Gwynn Williams, 1935], teipiedig; 'Symffoni annerch i D[avid] V[aughan] T[homas], Onid teg y cenit ti ...', 2 Gorff. 1922, ar gefn y ddalen olaf ceir englynion, etc. wedi eu copïo oddi ar gerrig beddau ym mynwent Gyffylliog; 'Kywydd Priodas a gant Gwynn vab Iwan brydydd o dref Gaernarfon i Wilym Sion Grvffydd athro o ddinas Gaer Dyf a Gwenda verch Ifan athrawes hithau o Gaer Dyf yn y vlwyddyn mil a naw cant o Oed Crist'.