Showing 2917 results

Archival description
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau Welsh
Advanced search options
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Cyfansoddiadau cerddorol,

Gwaith i ensemble llinynnol (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau John Gwilym Jones; chwech o ganeuon unsain ar gyfer ysgolion cynradd; carol blygain i ddau neu dri llais yn y dull traddodiadol; gosodiad SATB neu TTBB gan ddefnyddio rhan o eiriau'r offeren draddodiadol (Cymraeg/Lladin); a chyflwyno ffolio sy'n cynnwys amrywiaeth o ddarnau gwreiddiol (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol).

Dysgwyr,

Cerdd: 'Yr Arwr' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Colli' (tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn maes awyr; darn o ryddiaith: 'Y penwythnos gorau erioed'; e-bost yn bwcio unrhyw beth neu unrhyw un; adolygiad o lyfr Cymraeg ar gyfer papur bro; sgwrs trydar ar thema agored (gwaith grŵp neu unigol); a chreu cwis cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ar unrhyw ffurf (agored i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg).

Rhyddiaith,

Stori fer: 'Sbectol'; ysgrif: 'Canrif'; portread o gynefin neu fro; erthygl olygyddol mewn papur bro; erthygl neu erthyglau papur bro; dyddiadur; rhyddiaith greadigol ar unrhyw ffurf: 'Coch'; a chyflwyniad cryno o hanes o leiaf chwe addoldy Cymreig y Dyffryn a'r Andes ar gyfer ymwelwyr (cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr Ariannin).

Barddoniaeth,

Awdl ar fwy nag un o'r mesurau caeth: 'Lloches'; dilyniant o 10 cerdd ddigynghanedd: 'Tyfu'; englyn: 'Wyneb'; englyn ysgafn: 'Twyll'; telyneg: 'Cylch'; pum englyn milwr: 'Taith'; cywydd: 'Neuadd'; soned: 'Storïwr; cerdd gaeth: 'Rhwyg'; cerdd rydd: 'Llwyfan'; cerdd ddychan/ddigri; chwe phennill telyn: 'Amser'; hyd at 30 o gerddi (Ysgoloriaeth Emyr Feddyg).

Cyfansoddiadau cerddorol,

Darn corawl di-gyfeiliant seciwlar (Tlws y cerddor); emyn-dôn i eiriau Dorothy Jones; unawd i lais isel ar eiriau Cymraeg o ddewis y cyfansoddwr; trefniant o unrhyw gân werin Gymraeg neu gân ysgafn Gymraeg ar gyfer côr meibion TTBB gyda chyfeiliant piano; symudiad offerynnol yn seiliedig ar alaw neu alawon gwerin Cymreig i unrhyw gyfuniad o offerynau; a dau ddarn cyferbyniol mewn unrhyw gyfrwng (cystadleuaeth i ddisgyblion uwchradd a cholegau trydyddol 16-19 oed).

Dysgwyr,

Cerdd: 'Drysau' (cystadleuaeth y gadair); darn o ryddiaith: 'Crwydro' (y tlws rhyddiaith); sgwrs rhwng dau berson mewn ystafell aros; sgript cyfweliad cwestiwn ac ateb gyda Chymro neu Gymraes enwog; llythyr serch neu lythyr mewn potel; adolygiad o lyfr Cymraeg neu raglen deledu/radio Cymraeg; llunio tudalennau ar gyfer papur bro, neu wefan ar unrhyw destun (gwaith grŵp neu unigol); a chreu pedair gêm iaith ar unrhyw lefel neu lefelau.

Results 121 to 140 of 2917