Mae'n rhydd i ddod i'r cyfarfod cyhoeddus yn Ninbych ar 19 Medi. Hoffai ddychwelyd i Aberystwyth y noson honno. Mae ar ganol cwrs Cymraeg ym Mhantycelyn. Mae'n drist wrth feddwl bod angen ysgol Gymraeg yn nhref Thomas Gee.
Anfon hanner cant o'r 'daflen geiniog'. Dymuno pob hwyl i'r ymdrech i gael ysgol Gymraeg. Mae gan yr Undeb Rhieni bwyllgor Talaith y Gogledd. Rhoi enw a chyfeiriad yr ysgrifennydd yn Abergele.
Gresyn bod Llundain ar y blaen i Ddinbych ynglyn â chael ysgol Gymraeg. Mae'n bwysig cael ysgolion Cymraeg ledled Cymru er mwyn i bawb gadw eu gwreiddiau. Daeth y rhan helaethaf o'r gefnogaeth o du'r di-Gymraeg. Nid yw dysgu Cymraeg i blant yn dreth arnynt fel y cwyna rhai. Bu ysgol Llundain ar agor am wythnos yn unig ac y mae'r plant eisoes yn medru canu caneuon Cymraeg, gwybod eu lliwiau a chyfrif. Nid oes angen poeni am arholiad yr 11+. Hoffai ddod i'r cyfarfod yn Ninbych. Cafodd agoriad yr ysgol yn Llundain sylw yn y Pakistani Times hyd yn oed. Cofion at Norah Isaac. Rhaid gwylio'r Cymry - hwy fydd yn codi bwganod. Rhannol yn Saesneg/Partly in English.
Derbyniodd lythyr KR at Syr Ifan [ab Owen Edwards] gan ei fod ar ei wyliau yn yr Eidal. Mae'n anodd cynnig ateb cyn y nos Wener dilynol. Diolch i KR a'i chydweithwyr selog am geisio sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Dymuno'n dda i'r cyfarfod. Bydd yn gwylio'r datblygiadau'n ofalus.
Dymuno'n dda i'r ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg. Mae'n anfon llythyr o gefnogaeth (rhif 1115 isod) a hwnnw yn Gymraeg ond mae'n sicr y bydd angen i KR gywiro tipyn arno. Diolch i KR am y pleser mawr a gafodd ef a'i wraig o ddarllen ei gwaith. Mae'n cyfieithu'r storïau ar gyfer ei wraig. Saesneg/English.
Gair o gefnogaeth i sefydlu ysgol Gymraeg yn nhref Dinbych. Pwysigrwydd amddiffyn iaith a thraddodiadau Cymru. Heb ei iaith nid yw'r Cymro ond hanner Cymro gan ei fod yn amddifad o'r cysylltiad gorau efo gorffennol ei genedl. Byddai'n warth o'r mwyaf petai Dinbych yn colli'r Gymraeg.
Ymddiheuro na all y Maer fod yn bresennol yn y cyfarfod ynglyn â sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych gan fod apwyntiad blaenorol ganddo yn Ysbyty'r Meddwl yr un adeg. Saesneg/English.
Mae'n gwrthod gwahoddiad i gynnig y diolchiadau yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg gan ei fod yn sâl. Mae'n cytuno'n llwyr gyda'r amcanion. Mae dau o'i blant yn mynd i Ysgol Gellifor a rhwng y cartref a'r ysgol mae eu Cymraeg yn weddol gadarn. Buasai'n frwydr barhaus iddynt gadw'r iaith pe baent yn byw yn Ninbych.
Mae'n cefnogi'r cam i sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Mewn trefi Seisnigaidd mae'r ysgolion yn gyfrifol am fygu'r iaith Gymraeg. Yr ysgolion Cymraeg felly yw'r unig obaith nes bydd yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae dirywiad yn ansawdd yr iaith a'i diflaniad cyson yn peri tristwch calon i lawer. Mae'n gofyn i KR gyflwyno ei ddymuniadau gorau i lwyddiant y fenter yn y cyfarfod. Hydera na fydd yr ysgolion eraill yn defnyddio hynny fel esgus i ymseisnigeiddio. Da ganddo ddeall bod KR yn cytuno ag ef pan fu'n beirniadu'r pryddestau [yn yr Eisteddfod Genedlaethol]. Mae'r cyflwr llenyddol yn druenus a hynny'n arbennig o wir am adolygu. Rhoddodd y radio werth artiffisial ar rai pobl nes bod y rheini yn ymddangos yn awdurdodau terfynol ar bopeth llenyddol. Mae'n amgau copi o'r anerchiad a draddododd yn Glasgow. Cafodd groeso tywysogaidd yno. Mae'n feirniadol o'r Faner - y cynnwys yn ddigon truenus. Anfonodd adolygiad ar gofiant Gwenallt i Idwal [Jones] ers misoedd ond nid yw wedi ymddangos.
Ymddiheuro am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg. Gresyn o beth fod yn rhaid ystyried y peth o gwbl yn nhref Thomas Gee. Ni fyddai angen ysgol o'r fath petai rhieni Cymraeg yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ac yn anfon eu plant i ysgol Sul Gymraeg. Mae'n gofyn iddynt ddarllen y llythyr yn y cyfarfod cyhoeddus.
Maent yn amgau datganiad o'r cyfrif am argraffu Deian a Loli hyd at 20 Medi 1927. Cynhwysir hefyd restr o'r llyfrwerthwyr a dderbyniodd gopïau. Saesneg/English.
Roedd yn falch o glywed am y cyfarfod yn Ninbych. Mae'r ysgolion Cymraeg wedi profi eu gwerth drosodd a throsodd. Mae'r plant yn cael canlyniadau gwych yn yr arholiadau. Hyderu y caiff Dinbych ei hysgol Gymraeg.
Dymuno cyfarfod llawn ac y sefydlir ysgol Gymraeg yn Ninbych o dan nawdd a bendith y Pwyllgor Addysg. "Ni bu yn unlle yng Nghymru well daear i blannu ynddi, ac fel popeth a blennir yn naear Dyffryn Clwyd, caiff y genedl, maes o law, ffrwyth toreithiog o Gymry Cymraeg". Cerdyn post teipiedig.
Bu yn yr Eidal pan ddaeth y gwahoddiad i'r cyfarfod. Gobeithio iddynt gael cwrdd da. Trist yw'r teimlad mai ymladd yn ffos ola'r iaith y mae'r ysgolion Cymraeg. Cerdyn post.