Showing 2413 results

Archival description
Papurau Kate Roberts File
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth R. E. Griffith, yn Aberystwyth,

Derbyniodd lythyr KR at Syr Ifan [ab Owen Edwards] gan ei fod ar ei wyliau yn yr Eidal. Mae'n anodd cynnig ateb cyn y nos Wener dilynol. Diolch i KR a'i chydweithwyr selog am geisio sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Dymuno'n dda i'r cyfarfod. Bydd yn gwylio'r datblygiadau'n ofalus.

Llythyr oddi wrth H. I. Bell, yn Aberystwyth,

Dymuno'n dda i'r ymgyrch i sefydlu ysgol Gymraeg. Mae'n anfon llythyr o gefnogaeth (rhif 1115 isod) a hwnnw yn Gymraeg ond mae'n sicr y bydd angen i KR gywiro tipyn arno. Diolch i KR am y pleser mawr a gafodd ef a'i wraig o ddarllen ei gwaith. Mae'n cyfieithu'r storïau ar gyfer ei wraig. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth H. Idris Bell, yn Aberystwyth,

Gair o gefnogaeth i sefydlu ysgol Gymraeg yn nhref Dinbych. Pwysigrwydd amddiffyn iaith a thraddodiadau Cymru. Heb ei iaith nid yw'r Cymro ond hanner Cymro gan ei fod yn amddifad o'r cysylltiad gorau efo gorffennol ei genedl. Byddai'n warth o'r mwyaf petai Dinbych yn colli'r Gymraeg.

Llythyr oddi wrth [Dr] Penrhyn Jones, yn Ysbyty Llangwyfan,

Mae'n gwrthod gwahoddiad i gynnig y diolchiadau yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg gan ei fod yn sâl. Mae'n cytuno'n llwyr gyda'r amcanion. Mae dau o'i blant yn mynd i Ysgol Gellifor a rhwng y cartref a'r ysgol mae eu Cymraeg yn weddol gadarn. Buasai'n frwydr barhaus iddynt gadw'r iaith pe baent yn byw yn Ninbych.

Llythyr oddi wrth Iorwerth C. Peate, yn Sain Ffagan,

Mae'n cefnogi'r cam i sefydlu ysgol Gymraeg yn Ninbych. Mewn trefi Seisnigaidd mae'r ysgolion yn gyfrifol am fygu'r iaith Gymraeg. Yr ysgolion Cymraeg felly yw'r unig obaith nes bydd yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Mae dirywiad yn ansawdd yr iaith a'i diflaniad cyson yn peri tristwch calon i lawer. Mae'n gofyn i KR gyflwyno ei ddymuniadau gorau i lwyddiant y fenter yn y cyfarfod. Hydera na fydd yr ysgolion eraill yn defnyddio hynny fel esgus i ymseisnigeiddio. Da ganddo ddeall bod KR yn cytuno ag ef pan fu'n beirniadu'r pryddestau [yn yr Eisteddfod Genedlaethol]. Mae'r cyflwr llenyddol yn druenus a hynny'n arbennig o wir am adolygu. Rhoddodd y radio werth artiffisial ar rai pobl nes bod y rheini yn ymddangos yn awdurdodau terfynol ar bopeth llenyddol. Mae'n amgau copi o'r anerchiad a draddododd yn Glasgow. Cafodd groeso tywysogaidd yno. Mae'n feirniadol o'r Faner - y cynnwys yn ddigon truenus. Anfonodd adolygiad ar gofiant Gwenallt i Idwal [Jones] ers misoedd ond nid yw wedi ymddangos.

Llythyr oddi wrth J. E. Jones, yn Ninbych,

Ymddiheuro am fethu â bod yn bresennol yn y cyfarfod ynglyn â'r ysgol Gymraeg. Gresyn o beth fod yn rhaid ystyried y peth o gwbl yn nhref Thomas Gee. Ni fyddai angen ysgol o'r fath petai rhieni Cymraeg yn siarad Cymraeg ar yr aelwyd ac yn anfon eu plant i ysgol Sul Gymraeg. Mae'n gofyn iddynt ddarllen y llythyr yn y cyfarfod cyhoeddus.

Llythyr oddi wrth Huw T. Edwards [Cadeirydd Cyngor Cymru],

Dymuno cyfarfod llawn ac y sefydlir ysgol Gymraeg yn Ninbych o dan nawdd a bendith y Pwyllgor Addysg. "Ni bu yn unlle yng Nghymru well daear i blannu ynddi, ac fel popeth a blennir yn naear Dyffryn Clwyd, caiff y genedl, maes o law, ffrwyth toreithiog o Gymry Cymraeg". Cerdyn post teipiedig.

Llythyr oddi wrth John R. Roberts, yn Wrecsam,

Mae'n falch clywed bod ymdrech i gael ysgol Gymraeg yn Ninbych. Buont yn curo'n galed a dyfal wrth ddrws y Pwyllgor Addysg. Y peth pwysig yw cael enwau digon o blant sy'n barod i fynychu'r ysgol. Cawsant hwy fwy o drafferth i argyhoeddi'r rhieni o werth ysgol Gymraeg nag i berswadio'r Pwyllgor Addysg. Y rhwystr pennaf oedd rhieni a roddodd enwau eu plant yn eu tynnu'n ôl ar y funud olaf. Tri ar ddeg a ddaeth i'r ysgol newydd ac un ar bymtheg sydd yno ar y pryd. Gwelir ffrwyth yr ysgol eisoes yn y cylch.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Diolch am ei geirda i Brad. Clywodd am y cinio i anrhydeddu KR yn Llanfair ar y newyddion. Clywsai am y bwriad gan H[uw] T. Edwards. Nid oes ganddo yntau set deledu ychwaith ac nid yw wedi gweld rhaglen deledu ar ei hyd mewn Cymraeg na Saesneg hyd yn hyn. Rhoddodd y gorau i ysgrifennu dim bellach oni bai ei fod ar sail rhyw wahoddiad pendant. Y mae Theatr Garthewin yn trefnu gwyl o'i ddramâu ef ar gyfer y flwyddyn ddilynol ac y mae wedi addo drama radio i Emyr Humphreys ar gyfer Gwyl Ddewi er mwyn ei orfodi ei hun i fynd ymlaen.

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, yn Abertawe,

Anfon i longyfarch KR ar y newydd ei bod am briodi Morris Williams. Mae popeth sy'n digwydd iddi yn bwysig iawn ac yn ei gyffwrdd yn agos a dwfn. Cael ei hadnabod hi fu un o freintiau mawr ei fywyd. Priodas dau arwr fydd hi. Bydd bywyd yn gyfoethog os hefyd yn ystormus. Hoffai Saunders Lewis fod yna i wasgu ei llaw.

Results 121 to 140 of 2413