Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Alun Llywelyn-williams, ym Mangor,

Diolch am yrru ffurflen yn ôl ac am ei atgoffa am y gair "sbybio". Cafodd fwynhad mawr o ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu. Tybio mai hwn yw'r gwaith gorau a ysgrifennodd erioed. Mae ei dealltwriaeth o'r cymeriadau a'i thriniaeth ohonynt a'i thosturi tuag atynt yn ymddangos iddo yn ddwysach nag erioed a mentrodd drafod pwnc hollol newydd yn y Gymraeg. Mae'n dotio at y ffordd y mae ei llyfrau hi mor arbennig Gymreig eu naws a'u hawyrgylch.

Llythyr oddi wrth Ray Saer, yn Y Bala,

Diolch am y boddhad a gafodd o ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu. Mae'n falch bod KR wedi cyflwyno'r gyfrol i Gwenallt. Mae'n llyfr mawr a'r cynnwys yn dal i droi yn y cof. Aeth Lora Ffennig a'i phroblemau a'i pherthnasau oll yn rhan o fywyd Cymru.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Ysgrifennu i ganmol tri chyfraniad gan KR i'r Faner [29/3/57], sef adolygiad ar nofel Meurig Walters, ysgrif goffa ddiguro am Islwyn Williams a dechrau ei nofel newydd Tegwch y Bore. Trafod tipyn ar gyfraniad Islwyn Williams, y dehonglydd pennaf a gafodd Cwm Tawe. Canmol llith Jacob Davies hefyd yn Y Cymro ar Islwyn Williams. Nid yw'n cytuno'n hollol â dadl KR bod yn rhaid cael brodor i ysgrifennu'n gywir am ardal. Mae ei storïau hi ei hunan "Buddugoliaeth Alaw Jim" a "Diwrnod i'r Brenin" yn profi nad yw hyn yn wir. Methu â deall sut na fuasai adolygiad ar Dail Pren Waldo Williams wedi ymddangos yn Y Faner cyn hyn. Beïo'r Western Mail am gysylltu enw'r Blaid a'i herthyglau ar ysbïwyr yr Almaen.

Llythyr oddi wrth Jennie [Jones], yn Nhal-y-sarn,

Holi am gwrs [Cymraeg] Y Cilgwyn. Tybed a oedd Cassie [Davies] yno, mae hi'n brysur iawn. Gweld bod KR am fynd i Lundain i briodas Daisy [Vészy]. Cofio ei bod yn eneth brydferth iawn. Ymweliad ffrind o Seland Newydd. Mae ei brest yn gaeth o hyd bob bore tan amser cinio. Holi am deulu Goronwy. Mae'n cael blas ar Tegwch y Bore yn Y Faner.

Llythyr oddi wrth Jennie [Jones], yng Nglyndyfrdwy,

Diolch am ddau lythyr. Bu'n sâl iawn ers wythnosau. Daeth Mr a Mrs Evans i'w nhôl o Dal-y-sarn. Oerodd yn sydyn ar ôl dod i Lyndyfrdwy. Bu yn y ty a'r gwely gydol yr amser. Bu Dr Benjamin, Llangollen, yn ei gweld deirgwaith. Hyderu bod coes KR yn gwella. Gobeithio mynd adref y Sul dilynol.

Llythyr oddi wrth G. J. W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,

Adrodd cefndir y cais am bensiwn y rhestr sifil i KR. Gohebodd Saunders Lewis â Henry Brooke a chafodd ymateb caredig a chalonogol a bu Blaise Gilley [sic] yn gweithredu drosto - gwr mwyn yn eiddgar i gynorthwyo. Mae'r hanes am Wasg Gee yn ddifrifol iawn a dylai barhau i ysgrifennu i'r Faner - dyna ran o'r papur y mae pawb yn edrych ymlaen ato. Paham na chaiff D. Llywelyn Jones adolygu llyfrau? Mae safon adolygiadau wedi disgyn yn enbyd. Mae ei wraig yn sâl yn ei gwely a'i chwaer hithau'n wael iawn. Da ganddo glywed bod KR am ysgrifennu nofel hanesyddol yn ymwneud â dechrau'r ganrif ddiwethaf. Mae defnyddiau gwerthfawr i'w phwrpas yn Llyfrgell y Coleg ym Mangor. Mae Saunders Lewis am oedi cyn diolch i [Henry] Brooke nes bydd y cyhoeddiad wedi ei wneud yn y Senedd.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Mae'n llawen iawn o ddeall bod KR i dderbyn pensiwn y rhestr sifil. Hi fydd y llenor Cymraeg cyntaf erioed i gael y gydnabyddiaeth hon. Mae'r diolch i Mr Henry Brooke. Mae'n diolch bod KR bellach yn rhydd oddi wrth Y Faner. Y mae'r dirywiad yn drychinebus a syfrdanol. Bu'n darllen Cofiant Idwal Jones gan Gwenallt - ei waith gorau ar wahân i Ysgubau'r Awen. Mae'n gryn gampwaith ac yn rhyfeddol ddifyr. Bu Cathrin Daniel yn beryglus o sâl.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], Llundain NW8,

Cydymdeimlo â KR ar golli ei hanner chwaer. Mae'n dda bod gan KR gysylltiad â daear ei hynafiaid wrth i'w chydnabod brinhau. Mae'n darllen rhai tudalennau o'r Mabinogion bob dydd. Trafod cymeriadau nofel KR sydd ar y gweill. Mae'n deall ei hymlyniad i'r Faner - mae'n 'blentyn ysbrydol' i KR. Sôn am farwolaeth Dr [Ernest] Jones. Iechyd ei gwr. Mae'n hyfforddi i fod yn ddadansoddwraig seicolegol. Mae Daisy a'i gwr yn disgwyl teulu ac wedi cael fflat hwylus yn agos i Baker Street. Ni chlywodd ddim hanes am ei nith yn Hwngari. Saesneg/English.

Canlyniadau 121 i 140 o 2492