Dangos 2258 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

R. J. Anwyl,

63 High Street, Pen-y-groes. Sôn bod Mr Evan Anwyl yn ceisio olrhain hanes ei deulu, gofyn am gymorth Carneddog.

[R. P. Cunnah],

Rhosgadfan. Dweud ei fod yn derbyn yr Herald ac yn darllen y 'Manion' yn gyson. Yn amgau penillion am y 'Ladi Wen'.

R. P. Cunnah,

Rhosgadfan. Anfon ei enw priodol am gyfansoddi cerdd i'r Ladi Wen. Penillion i Carneddog ar y cefn.

D. R. Daniel,

Four Crosses, Chwilog. Cerdyn post yn hysbysu Carneddog ei fod wedi camgyfeirio llythyr ato. Nodiadau ar Tal o Eifion oedd ei gynnwys.

D. L. Davies,

Rorsedd, Chwilog. Canmol Cerddi Eryri a gwaith da Carneddog gan amgau arian am gopi arall.

Daniel Lloyd Davies (Glan Lledr),

1123 Summit Place, Utica, N.Y. Sôn am Gymry sy'n ysgrifennu ato. Archebu dau gopi o Cerddi Eryri. Rhoi ei hanes yn Utica a sôn am Gymru.

Daniel Lloyd Davies,

28 Noyes Street, Utica, N.Y. Sôn am ei wyliau yn y Carneddi yn yr haf, yr Orsedd, Y Rhedegydd, Y Brython ac America.

Daniel Lloyd Davies (Glan Lledr),

28 Noyes Street, Utica, N.Y. Llythyr cyfrinachol. Sôn am O Greigiau'r Grug gan nodi un englyn yn arbennig. Mae'n amgau cerdd i Afon Ledoer (Lledr) a gyfansoddodd ei hun.

Daniel Lloyd Davies (Glan Lledr),

35 Jewett Place, Utica, N.Y. Wedi bod yn twtio ychydig ar delyneg i 'Ardd fach fy Nhad'. Ôl-nodyn yn dweud ei fod wedi ennill y gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Meibion Eglwys Bethania.

Edward Ashton,

Corner House, King's Road, Brentwood. Anfon arian am gopi o Cerddi Eryri.

Daniel Lloyd Davies (Glan Lledr),

35 Jewett Place, Utica, N.Y. Sôn am waith llenyddol Dewi Glan Dulas (David W. Morris) ac am John Morgan. Trafod sefyllfa'r iaith Gymraeg.

Daniel Lloyd Davies,

35 Jewett Place, Utica, N.Y. Darn o lythyr yn unig, sôn am stormydd eira a gafwyd yn ystod y mis.

Canlyniadau 121 i 140 o 2258