Showing 173 results

Archival description
Papurau D. Tecwyn Lloyd, file
Advanced search options
Print preview View:

Llyfrau nodiadau,

Llyfrau nodiadau, 1939-1963, gan gynnwys cyrsiau ar 'Y cenhedloedd bychain’, 'Hanes Cymru hyd 1890', 'Hanes Llenyddiaeth Gymraeg’, 'Theori wleidyddol’, ynghyd â chyrsiau Ysgol Haf 1950.

Efrydiau Allanol,

Papurau, [1961]-1992, gan gynnwys memorandwm Alwyn D. Rees, 1969, yn Saesneg, ynglŷn â chyflwyno tystiolaeth i Gomisiwn Russell ar sefyllfa addysg i oedolion yn ardal Prifysgol Aberystwyth.

Rees, Alwyn D.

Llythyrau o Fanceinion,

Llythyrau, [1904]-[1909], 1918, a anfonwyd at deulu Bryngolau, ger Corwen, oddi wrth aelodau’r teulu yn ardal Moss Side ym Manceinion, ynghyd ag adysgrifau ohonynt a dadansoddiad o’r patrwm llythyru ganddo.

Papurau amrywiol,

Papurau amrywiol gan gynnwys llungopi o deyrnged i'w dad John Lloyd gan D. Howell Evans, [?1971]; llungopi, 1977, o anerchiad ei ewythr David Lloyd Jones, Hengaeruchaf, 'Trem ar yr Achos yng Nglanrafon', [1950x1958]; rhestr: 'Enwau mannau ym Mhenllyn a nodir yn y Cambrian Register 1795' - plwyfi Llanfor a Llandderfel ganddo; papurau'n ymwneud â chyndeidiau Leslie Roberts, Unol Daleithiau America, a ymfudodd o Caehir, Cwmtirmynach, ynghyd â chopi o Edward Jones, Atgofion am Glan'rafon (Cymdeithas Lyfrau Meirion, 1976) a llythyr oddi wrth Hewlett Johnson, 1955.

Johnson, Hewlett, 1874-1966.

Huws y Geufron,

Llungopïau o ohebiaeth rhwng Robin Gwyndaf ac aelodau o deulu’r bardd Hugh Lloyd Williams Hughes, Y Geufron Fawr, Corwen, 1973-1978, ynghyd ag enghreifftiau o’i farddoniaeth. [Cyhoeddwyd detholiad o'i waith barddonol yn ei gyfrol Cerddi'r Geufon (Dinbych, 1940)].

Gwyndaf, Robin

Hengaer,

Papurau, [1986]-[ 1989], yn ymwneud â'i erthygl 'Hengaer (Uchaf), Llawrybetws', a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd, cyf. 10 (1989), a gyda chywyddau Rhisiart o'r Hengaer, ynghyd â llungopïau am yr ymholiad i berchnogaeth Hengaer yn 1588 (ar gadw yn yr Archifau Cenedlaethol) a gwahanlith o'r erthygl.

Lady Gwladys a phobl eraill,

Copi llawysgrif o Lady Gwladys a phobl eraill (Abertawe, 1971) a gyflwynodd i'w wraig Gwyneth yn 1982 ac sy'n cynnwys llythyr oddi wrth Islwyn [Ffowc Ellis], 1958.

Elis, Islwyn Ffowc

E Bymhet Geing,

Cyfrol yn cynnwys Pumed Keinc y Mabinogi yn ei law sef parodi ganddo mewn 'Hen Gymraeg' am ddau frawd yn ardal Penllyn, [1976].

Results 121 to 140 of 173