Showing 1033 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales File Welsh
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Ish, rhif 2,

Golygwyd gan 'Gruff Ankst', Porthmadog [1990?] . Label record annibynnol o Gymru oedd Ankst a ffurfiwyd ym 1988 ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth gan Alun Llwyd, Gruffudd Jones ac Emyr Glyn Williams.

Ysgrifau

Ysgrifau teipysgrif am aelodau o’i theulu yn bennaf, gan gynnwys, ‘Dau fedydd a dwy afon’; ‘Fy nain’, ‘Jane Ann Jones’ (Merched yn Bennaf); ‘Rhamant y siwrneiau i Ddyffryn Clwyd o Lannau Meirion’; ‘Y pentref lle’m ganwyd’; ‘Aelwyd Taid a Nain’; ‘Ysgrifennu nofel hanes’; a ‘Y cyffredin yn troi’n anghyffredin’.

Amrywiol

Papurau amrywiol, gan gynnwys erthyglau ganddi: 'Anfarwoldeb Sian Owen' [a gyhoeddwyd yn Seren Menai, cyfnodolyn Y Coleg Normal, Bangor]; ‘O’r crochan berw’, Seren Cymru, 1987; ynghyd ag englyn gan Robin [Llwyd] ab Owain iddi, un o'i myfyrwyr; teyrnged gan Meic Stephens i Rhiannon Davies Jones a gyhoeddwyd ym mhapur newydd yr i, 29 Hydref 2014; a chopi o deyrnged [Eurfryn Davies a draddododd yn ei hangladd (gw. NLW ex 2979)].

Llyfrau ymwelwyr

Llyfrau ymwelwyr o ddau gartref sef Glynor, Llanfair ger Harlech a Gwernyfed, Maes yr Hafod, Porthaethwy. Roedd Gwynfor Evans, Lewis Valentine, Bob Owen Croesor a Dilys Cadwaladr ymhlith yr ymwelwyr nodedig.

Papurau ei rhieni

Tystysgrif priodas ei rhieni Hugh Davies Jones a Laura Owen a briodwyd yng Nghapel Salem, Llanbedr, 10 Mehefin 1912 a llungopi o deyrnged i'w thad 'Y diweddar Barch. H. D. Jones' a gyhoeddwyd yn Yr Hauwr [misolyn Undeb Bedyddwyr Cymru at wasanaeth Yr Ysgol Sul] yn [1924].

Papurau amrywiol

Llungopi o gerdd deyrnged gan HCW [Hugh Cernyw Williams] i’r Parch. H. D. Jones, ei thad, a fu farw yn 1924; papurau yn ymwneud â hanes lleol Ardudwy, gan gynnwys ‘Atgofion am Uwch Artro’, gan ei mam Laura Davies Jones a gyhoeddwydy yn Seren Cymru, yng nghanol y saithdegau; ‘Atgofion plentyndod yn Ardudwy’ gan ei chwaer Annie Davies Evans; adysgrif o sgwrs ar dri thâp rhwng Robin Gwyndaf a Laura Davies Jones, mam Rhiannon Davies Jones; yr arfer o osod 'Yr asgwrn coel' uwchben drws tŷ; hanes ‘Y Llyfr Ymwelwyr’, ynghyd ag adroddiad ar seremoni lansiad ei nofel Adar Drycin (1993) gan Wasg Gwynedd yn stiwdio Barcud, Caernarfon.

Cerddi

Tri llyfr nodiadau, [1935]-[1952] yn cynnwys cerddi ganddi, nifer ar ffurf cwpledi. Ymhlith y cerddi mae cerdd i 'Capel Salem', 1936, a llyfr 'Brynhyfryd Grammar School' yn cynnwys hwiangerddi.

Gohebiaeth

Llythyr oddi wrth Saunders Lewis, 1964, yn ymwneud â llwyddiant ei nofel [Lleian Llanllŷr]; llythyr oddi wrth Gruffydd Aled Williams, 2002, yn ymateb i’w nofel olaf Cydio mewn Cwilsyn ac oddi wrth Geraint V[aughan] Jones, 2003.

Nodiadau ar hanes Methodistiaeth Sir Gaernarfon

  • NLW MS 16490B.
  • File
  • [1903x1924]

Cyfrol o nodiadau, [1903x1924], ar hanes eglwysi Methodistiaid Calfinaidd yn sir Gaernarfon, yn llaw'r Parch. William Hobley, ar gyfer ei Hanes Methodistiaeth Arfon, 6 chyfrol (Caernarfon, 1910-24). = A volume of notes, [1903x1924], on the history of Calvinistic Methodist churches in Caernarfonshire, in the hand of Rev. William Hobley, in preparation for his Hanes Methodistiaeth Arfon, 6 vols (Caernarfon, 1910-24).
Mae'r nodiadau ac adysgrifau wedi eu tynnu o nifer o ffynonellau llawysgrif a phrintiedig, mewn perthynas ag amryw o eglwysi, gan gynnwys Salem, Llanllyfni (ff. 2-35), Y Graig, Bangor (ff. 60 verso-74), a'r Tabernacl, Bangor (ff. 84-91). = The notes and transcripts are taken from various manuscript and printed sources and relate to a number of churches, including Salem, Llanllyfni (ff. 2-35), Y Graig, Bangor (ff. 60 verso-74), and Tabernacl, Bangor (ff. 84-91).

Hobley, W. (William), 1858-1933.

Album y Bont

  • NLW MS 24131C.
  • File
  • 1840-1891, 1901 (crynhowyd 1872-1901)

Albwm llofnodion, 1872-1878, 1901, a fu'n eiddo i Sarah Williams, Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, sir Drefaldwyn, yn cynnwys enghreifftiau o farddoniaeth, emynau a rhyddiaith Cymraeg a Saesneg yn nwylo tua 123 o weinidogion, beirdd ac unigolion eraill a oeddynt yn adnabod ei thad, William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Ceir yn y gyfrol yn ogystal dau ddeg pedwar o lythyrau, 1840-1891, 1901, y rhan fwyaf at Gwilym Cyfeiliog neu ei blant, a phedwar eitem arall, i gyd wedi'i tipio i mewn. = Autograph album, 1872-1878, 1901, of Sarah Williams of Bont Dolgadfan, Llanbrynmair, Montgomeryshire, containing examples of poetry, hymns and prose in Welsh and English in the hands of some 123 Nonconformist ministers, poets and other individuals, mostly acquainted with her father William Williams (Gwilym Cyfeiliog). Also included are twenty-four letters, 1840-1891, 1901, mostly addressed to Gwilym Cyfeiliog or his children, and another four items, all tipped into the volume.
Ymysg y cyfranwyr mae Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) a Ieuan Gwyllt (f. 74). Ceir llythyrau gan W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [y Parch.] Richard [Williams], [ewythr Sarah Williams], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [y Parch.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, Tachwedd-[Rhagfyr] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copi)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [y Parch.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [AS], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), ac eraill. Hefyd yn y gyfrol mae copi o'r emyn pedair pennill, yn cychwyn 'Er mai hollol groes i nattur…', o waith Ann Griffiths, yn llaw y Parch. John Hughes Pontrobert, [?1840au] (ff. 56 recto-verso; gw., er enghraifft, Gwaith Ann Griffiths, [gol. gan O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), tt. 30-31), ar gefn byr-gofiant Thomas Meredith, Llanbrynmair, gan 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; gw. hefyd f. 52). = The contributors include Mynyddog (f. 32), [William Rees] (G[wilym] Hiraethog) (f. 53 verso), [Richard Roberts] (Gruffydd Risiart) (f. 66 verso) and Ieuan Gwyllt (f. 74). There are letters from W[illiam] Rowlands (Gwilym Leyn), [18]64 (f. 3), S[amuel] R[oberts], 1876 (ff. 10-11), [the Rev.] Richard [Williams], [Sarah Williams's uncle], [18]42 (f. 14), John Evans (I. D. Ffraid), 1870 (f. 18), [the Rev.] Henry Rees, [18]59 (f. 21), J. R. Kilsby Jones, November-[December] 1866 (ff. 23-24, 28 verso-29 (copy)), J[oseph] Parry, 1870 (f. 26), E[dward] Stephen (Tanymarian) (f. 31), [the Rev.] John Elias, 1840 (f. 41), James Sauvage, 1882 (ff. 45-46), Fre[deri]ck Hanbury Tracy [MP], 1878 (f. 50), Mary Davies, [18]83 (f. 61), Cranogwen, 1867 (f. 65 recto-verso), among others. Also inserted into the volume is a copy of the hymn of four stanzas beginning 'Er mai hollol groes i nattur…' by Ann Griffiths in the hand of the Rev. John Hughes, Pontrobert, [?1840s] (f. 56 recto-verso; see, for instance, Gwaith Ann Griffiths, [ed. by O. M. Edwards] (Llanuwchllyn, 1905), pp. 30-31), written on the reverse of a brief memoir of Thomas Meredith, Llanbrynmair, by 'WH' [?William Howell] (ff. 56 verso-57; see also f. 52).

Williams, Sarah, 1859-1920

Cerddi

Cerddi yn ei law, cyhoeddwyd llawer ohonynt yn Ffynhonnau uchel (2012), ynghyd â 'High Springs' sef cyfieithiad o'r gerdd sy'n dwyn yr un teitl â'r gyfrol a chopi o'r gyfrol hefyd,

Teithio a Thrafnidiaeth

Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, nodiadau, a phapurau, 1989-1999, yn ymwneud â pholisïau iaith cwmnïau a gwasanaethau trafnidiaeth amrywiol. Mae’r rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a nodiadau yn trafod polisi iaith Maes Awyr Caerdydd, yn cynnwys llythyrau oddi wrth sawl Aelod Seneddol Cymraeg; Aelodau Seneddol Ewropeaidd; Yr Arglwydd Prys-Davies; y cwmni TBI Airport Holdings; a gohebiaeth ar y mater yn gysylltiedig â’r papur Cymraeg Americanaidd, Ninnau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys gohebiaeth a datganiadau i’r wasg yn ymwneud â pholisïau iaith sawl cwmni trafnidiaeth.

Results 121 to 140 of 1033