- S1/1
- file
- 1902-1932
Llythyrau, 1902-[1932], oddi wrth y Parch. a Mrs Dan Evans, rhieni Siân Williams, ati yn Aberystwyth, yng Nghaerdydd, Beulah ac Abergwaun, yn trafod materion teuluol.
Llythyrau, 1902-[1932], oddi wrth y Parch. a Mrs Dan Evans, rhieni Siân Williams, ati yn Aberystwyth, yng Nghaerdydd, Beulah ac Abergwaun, yn trafod materion teuluol.
Llythyrau, 1902-[1915], oddi wrth Eben Evans, ynghyd â llythyrau, [1916]-[1917], oddi wrth ei wraig Marie yn ymwneud â'u pryder am ddiogelwch Eben. Yr oedd Eben yn athro yn Llundain ond collodd ei fywyd yn Ffrainc.
Llythyrau, 1902-[1959], at Siân Williams, oddi wrth D. J. Williams, ei brodyr a'i chwiorydd Magi, Anna, Dai a Wil Ifan, yn ymwneud â materion teuluol, ynghyd â llythyr, 1904, oddi wrth y [Parch. Dan Evans] at ei briod a'i blant, o ysbyty yn Abertawe, yn ymwneud â salwch eu mab Evan.
Wil Ifan, 1883-1968
Llythyrau oddi wrth ei thad-cu
Llythyrau, 1908-1916, oddi wrth Rees Davies yn Aberdâr at ei wyres.
Llythyrau a ysgrifennwyd at Siân Williams, [1866]-1965, oddi wrth ei chyfeillion ac yn ystod carchariad ei gŵr, 1936-1937.
Llythyrau oddi wrth gyfeillion
Llythyrau, [1916]-1965, gan gynnwys rhai yn cydymdeimlo â hi adeg marwolaeth ei brawd Eben a hefyd llythyrau'n dymuno'n dda iddi ar ei phriodas yn 1925. Yn ogystal ceir llythyrau y tybir ei bod wedi'u hetifeddu, gan gynnwys tri llythyr, [1866x1895], a llythyr oddi wrth M[ichael] D. Jones o'r Bala, 1885, at gyfaill.
Jones, Michael D. (Michael Daniel), 1822-1898
Llythyrau, 1910-1916, oddi wrth ei chyfaill agos y Corporal Ezra Ewart Owen, ynghyd â thaflen brintiedig y gwasanaeth coffa a gynhaliwyd iddo yn Eglwys MC Grove Place, Port Talbot, Medi 1916. Collodd ei fywyd ar faes y gad yn Ffrainc
Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth J. E. Daniel (1), Cassie [Davies] (5), George M. Ll. Davies (4), [William Evans], 'Wil Ifan' (5) a W. J. Gruffydd (1).
Daniel, John Edward, 1902-1962
Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth J. Dyfnallt Owen (1), Caradog Prichard (1), Prosser Rhys (1), Kate [Roberts] (2), Ben Bowen Thomas (10), ynghyd â thri llythyr oddi wrth lywodraethwr y carchar.
Dyfnallt, 1873-1956
Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, gan gynnwys rhai oddi wrth H. T. Jacob (2), Dafydd Jenkins (4), A. Gray Jones (12), ysgrifennydd cynorthwyol gyda undeb athrawon yn ymladd achos D. J. Williams gyda'r awdurdodau addysg, Dr Gwenan Jones (1), Gwilym R. Jones (1), Idwal [Jones] (2), J. E. Jones (13), a [D.] Myrddin Lloyd (2), ynghyd â'i adolygiad o Storïau'r Tir Glas a ymddangosodd yn y Western Telegraph and Times.
Jacob, H. T. (Henry Thomas), 1864-1957
Llythyrau, 1936-1937, a dderbyniodd cyn ac yn ystod cyfnod D. J. Williams yng ngharchar Wormwood Scrubs, oddi wrth unigolion anhysbys.
Dyddiaduron, 1910-1964, yn trafod materion fel ei swydd fel athrawes a phrifathrawes.