Dangos 142 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Pennar Davies,
Rhagolwg argraffu Gweld:

Colegau Coffa,

Papurau'n ymwneud â'r cyfnod y bu'n Athro a Phrifathro yng Ngholeg Coffa Aberhonddu, 1950-1959, ac yn Brifathro yng Ngholeg Coffa Abertawe, 1959-1981.

Cofiant Pennar Davies,

Papurau ymchwil Densil Morgan, [1999]-[2001], gan gynnwys llungopïau o ysgrif goffa i Pennar Davies, The Times, 1997, a chyfraniadau Pennar Davies i'r Mansfield College Magazine ac adolygiadau ganddo ac o'i weithiau yntau, ynghyd ag atgofion J. Gwyn Griffiths ar gyfer y gyfrol.

Griffiths, John Gwyn.

Cerddi,

Cerddi gan gynnwys teipysgrifau o gerddi a gyhoeddwyd yn Y Tlws yn y Lotws (Llandybïe, 1971), ynghyd â sgript 'Gwyn ap Nudd', cerdd i leisiau, 1965.

Cerddi,

Cerddi Cymraeg a Saesneg, [1930]-[1990], gan gynnwys 'Dieithriaid. I Rosemarie', 1944; ei gyfieithiad 'I ble?' o 'Wohin?' gan Schubert ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn 1965; 'Adduned. I Gwynfor Evans'; cyfieithiad i'r Saesneg o'i gerdd 'Creiddylad' gan Richard Jeffrey; ei gyfieithiad o'i gerdd 'Llanddwyn' i'r Saesneg; a cherdd 'I gyfarch Rhydwen', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Cwm Rhymni 1990. Ceir cerddi hefyd o'r cyfnod cynnar, [1931]-[1939], rhai mewn llawysgrif.

'Cerddi Hanner Canrif',

Blodeugerdd o gerddi Cymraeg o'r cyfnod 1901-1950 a ddewiswyd gan ei ddosbarth allanol yn Fourcrosses (Barddoniaeth Gymraeg y ganrif hon) a anfonwyd at Wasg Gee i'w chyhoeddi, [1951], ond nas cyhoeddwyd.

Caregl nwyf,

Dalennau-gweithio'r stori ‘Dwyfoldeb Athrylith’, Caregl Nwyf (Llandybïe,1966).

'Can diolch',

Llyfr nodiadau'n cynnwys 'Hunangofiant (unwaith eto)', ynghyd â llungopïau o adysgrifau o bum pennod o'r gwaith, a gwybodaeth achyddol.

Ap,

Proflen Ap: a collection of writings in English made primarily but not exclusively for and by the students of Wales [Caernarfon,1945], pamffledyn a olygwyd ganddo i Blaid Cymru, ynghyd â thorion o'r wasg, 1949-1950, yn cynnwys erthyglau ganddo a 'Baled y tri ymgeisydd'.

Anerchiadau amrywiol (llenyddol),

Anerchiadau yn cynnwys 'American literature', [c.1941]-[c.1942]; ‘Y bywyd llenyddol yng Nghymru heddiw' (2 fersiwn), [c.1960]; Moderniaeth yn ein barddoniaeth', [c. 1968]-[c.1970]; 'Celfyddyd a chrefydd'; 'Tasg amhosibl y nofelydd', [c. 1960]; a 'Llenyddiaeth a gwleidyddiaeth yng Nghymru heddiw' (2 fersiwn), [c.1955]-[c.1960], ynghyd â sgript o sesiwn cwestiwn ac ateb rhwng aelodau'r Cardiff Brains Trust (Pennar Davies yn un ohonynt) ac ysgrifenwyr o Rwsia ar ysgrifennu cyfoes ym Mhrydain, 1945.

Anerchiadau a sgyrsiau crefyddol,

Anerchiadau gan gynnwys 'Safle merched yng Nghymru', [c.1945]; 'Crefydd a Cymru Fydd'; ''Yr Ysgol Sul', [c.1956]; 'Seiliau crefyddol cenedlaetholdeb', [c.1950]; 'The Church's task in Wales', [1946]; The Christian Tradition of Wales', [1946, yn cynnwys cyfeiriadau hunangofiannol]; 'Cristnogaeth a chymdeithas', [1950] a 'The Church in the Bible', [1955]-[1956].

Adroddiadau,

Adroddiad cyffredinol: 'America in retrospect', 1939, ar ei gyfnod fel myfyriwr (Commonwealth Fund Fellow), mewn teipysgrif gyda newidiadau yn ei law, ynghyd â 'An American University through the eyes of a Welshman', llythyr, 1943, oddi wrth yr Athro A. M. Witherspoon, Prifysgol Iâl a phapurau erail.

Witherspoon, Alexander Maclaren.

Canlyniadau 121 i 140 o 142