- NLW ex 2770.
- file
- [1950]-[1970] /
Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.
Phillips, Eluned, 1914-2009
3 results with digital objects Show results with digital objects
Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.
Phillips, Eluned, 1914-2009
Hanes Eglwys Seion (W), Pwllheli,
Hanes Eglwys Fethodistaidd (Wesla) Seion, Pwllheli gan W. Arvon Roberts, 2012.
Roberts, W. Arvon.
Emyn-donau gan William James yn bennaf, [1904]-[1960], gan gynnwys 'Pen yr yrfa' a Gogoniant i Dduw-Tangnefedd i ddynion sef carol Nadolig wedi'i hargraffu. Bu'n godwr canu yn eglwys y Methodistiad Calfinaidd yn Salem, Aberystwyth, a chyfansoddodd nifer o emyn-donau i'r eglwys, ynghyd â llyfr yn dwyn y teitl ''Tônau arbenig'. Credir fod y llawysgrifau'n perthyn i organydd yr eglwys.
James, William 1877-1964.
Llyfrau lloffion Anthony Goulty,
Tair cyfrol yn cynnwys toriadau papur newydd o golofnau'r Faner a'r Cymro'n ymwneud â gloywi iaith a garddio. Ceir torion hefyd yn ymwneud â D. Tecwyn Evans ac o'i golofn 'Gloywi'r iaith' yn Y Faner. Yr oedd y diweddar Anthony Goulty, Sais o gyfreithiwr ym Manceinion, wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn aelod o Gymdeithas Gymraeg Caer. Bu'n weithgar iawn yn ogystal gyda Sain Clwyd Sound, sef grŵp o weithwyr gwirfoddol, gan gynnwys y rhoddwr, a oedd yn cyfarfod yn stiwdio Sain Clwyd yn rheolaidd i wneud tapiau i'r Deillion.
Llyfr cyfrifon ariannol, 1944-1945, Cymdeithas Gymraeg Napoli, a fu ym meddiant diweddar dad y rhoddwr pan oedd yn filwr yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Cymdeithas Gymraeg Napoli.
Drama 'Cwmcynfelin' gan y Parch. Hugh Lunt ('Gwynodl'), Ystrad Fflur, i ddathlu canmlwyddiant Mudiad Rhydychen, 1833-1933.
Lunt, Hugh.
Hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams,
Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.
Articles by Rev. Brynmor Davies,
Cuttings, 1979-1980, from the South Wales Guardian of articles by Rev. Brynmor Davies. = Toriadau, 1979-1980, o'r South Wales Guardian o ysgrifau gan y Parch. Brynmor Davies.
Ystadegau Cronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr,
Ystadegau ynglŷn â gwahanol gylchoedd mewn cyswllt â Chronfa Ad-drefnu Undeb y Bedyddwyr. = Statistics relating to various areas in connection with the Baptist Union Reconstruction Fund.
Traethawd 'Dwyn mae cof...' gan Edward Edwards, Llanuwchllyn,
Nodiadau teipysgrif ar 'Teulu Darowen' gan T. I. Ellis,
Typescript notes on 'Teulu Darowen' by T. I. Ellis.
Dau lythyr oddi wrth y Parch. Henry Evans, Penrhyn-coch, at y Parch. J. T. Griffith,
Dau lythyr oddi wrth y Parch. Henry Evans, Penrhyn-coch, at y Parch. J. T. Griffith, ac un oddi wrth J. T. Griffith at Henry Evans. = Two letters from the Reverend Henry Evans, Penrhyn-coch, to the Reverend J. T. Griffith, and one from J. T. Griffith to Henry Evans.
Papurau'r Parchedig Gwilym Morris (1910-1988),
Cyfansoddiadau’r Parch. Gwilym Morris, [1937]-[1988], enillydd cyson mewn eisteddfodau cenedlaethol ac eisteddfodau lleol ledled Cymru a sgriptiwr dramâu radio. Ceir cerddi ac ysgrifau ganddo a nodir ar y mynegeion a ddarparwyd os yw'r ysgrifau wedi'u cyhoeddi yn ei gyfrol Yr enfys drwy y glaw (Abertawe, 1981), ynghyd â bywgraffiad ohono gan ei ferch.
Morris, Gwilym.
Copies of four letters, from M. E. Evans's ancestors in America to relatives in Wales,
'Englyn' i Rees Morris, Llangeitho, a dau lythyr a anfonwyd ato,
'Englyn' i Rees Morris, Llangeitho, a dau lythyr a anfonwyd ato. = 'Englyn' to Rees Morris, Llangeitho, and two letters sent to him.
Cerdd gan G. J. Williams, Bangor,
Llungopi o gerdd mewn teipysgrif gan G. J. Williams (1854-1933), Bangor. = Photocopy of a typewritten poem by G. J. Williams, Bangor.
Llungopi o ddau bennill a ysgrifennwyd yn llaw Saunders Lewis mewn copi o'i ddrama Blodeuwedd yn cyfeirio at Dad y rhoddwr 'Tom' yn chwyrnu. = A photocopy of two verses containing a cheerful reference to the donor's father 'Tom' snoring written on the endpapers of Saunders Lewis's copy of his drama Blodeuwedd.
Lewis, Saunders, 1893-1985
Henry Howard Evans : : lecture,
Darlith, a gopïwyd [1935x1959], yn portreadu cymeriadau a adwaenid fel ‘Shoni’, sef glowyr Cwm Rhondda. Mae’r llawysgrif yn gopi o NLW MS 19613B a ysgrifennwyd gan, ac yn llaw, Henry Howard Evans, Llwynypia, rheolwr cyffredinol Cambrian Collieries Ltd. = A lecture, copied [1935x1959], portraying characters known as ‘Shoni’, a name given to Rhondda Valley coalminers. The manuscript is a copy of NLW 19613B by, and in the hand of, Henry Howard Evans, Llwynypia, general manager of Cambrian Collieries Ltd.
Evans, Henry Howard, 1865-1935.
Gwaedd yng Nghymru : : yn wyneb pob cydwybod,
Adysgrif, 1897, yn llaw Annie Jane Davies, Llundain, o ail argraffiad Gwaedd yng Nghymru, yn wyneb pob cydwybod gan Morgan Llwyd (Caerfyrddin, 1767). Mae'n debygol i'r copi hwn gael ei ddarparu ar gyfer golygiad ei darpar ŵr, T. E. Ellis, Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899). = Transcript, 1897, in the hand of Annie Jane Davies, London, of the second edition of Gwaedd yng Nghymru, yn wyneb pob cydwybod by Morgan Llwyd (Carmarthen, 1767). This copy was probably made for her future husband, T. E. Ellis, who edited Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899).
Llwyd, Morgan, 1619-1659
Gofyniadau ac atebion ar y colectau,
Llyfr nodiadau, dyfrnod 1856, yn cynnwys sylwadau ar golectau eglwysig yn dwyn y teitl 'Gofyniadau ac Attebion ar Y Colectau, yn nghyd a Nodiadau Hanesyddol byrion gan John Flint diweddar Arolygwr Cynorthwyol Ysgolion yn Archddeoniaeth Derby. Wedi ei Gymreigio gan Thomas Evans. Sul Cyntaf yn Advent hyd y Trydydd Sul gwedir Ystwyll' (f. 2). Ymddengys fod hwn yn gyfieithiad o waith John Flint, Questions and Answers on the Collects; with brief historical notes (London; [1860]). Mae ffurf y dudalen deitl yn awgrymu ei fod yn gopi o waith cyhoeddedig cynharach heb ei adnabod. = Notebook, watermark 1856, containing observations on ecclesiastical collects, which appears to be a translation, by Thomas Evans, of Questions and Answers on the Collects; with brief historical notes by John Flint (London; [1860]). The form of the title page suggests that this may be a copy of an earlier, unidentified, printed work.
Evans, Thomas.