Dangos 246 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams,

  • NLW Misc. Records 564.
  • ffeil
  • 1978-1981.

Copi ffotostat o doriad o'r Pacific Tribune (1 Mawrth 1978), sef hanes marwolaeth Rees Brongwyn Williams (1891-1978) o Ilwaco, Pacific County, Washington, ynghyd â nodiadau ar hanes ei deulu a ymfudodd i'r Amerig o ardal Cwmtudu, Ceredigion, yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. = Photocopy of a cutting from the Pacific Tribune (1 March 1978), concerning the death of Rees Brongwyn Williams (1891-1978) of Ilwaco, Pacific County, Washington, together with notes on the history of his family who emigrated to America from the Cwmtudu area, Ceredigion, during the second half of the last century.

Hanes eglwysi'r Bedyddwyr yn Ynys Môn,

  • NLW ex 2427.
  • ffeil
  • 2005.

Hanes Eglwys Bethel (B), Rhosybol, 1841-2002, Eglwys Sardis, Dulas, (dathlu canmlwyddiant a hanner, 1983) gan y rhoddwr; ac Eglwys Bethania, Llaneilian (allan o'r Greal).

Hanes Eglwys Seion (W), Pwllheli,

  • NLW ex 2777.
  • ffeil
  • 2012 /

Hanes Eglwys Fethodistaidd (Wesla) Seion, Pwllheli gan W. Arvon Roberts, 2012.

Roberts, W. Arvon.

Hanes Eglwys Noddfa, Llanbedr Pont Steffan.

  • NLW MS 16596C.
  • ffeil
  • 1953-[1990au cynnar]

Nodiadau teipysgrif, 1953, gan y Parch. T. Ellis Jones, ar 'Braslun o hanes Eglwys Crist sydd yn cwrdd yn Noddfa Llanbedr Pont Steffan', anerchiad gan B. T. Lewis ar 26 Hydref 1948, ar achlysur hanner canmlwyddiant sefydlu'r capel (ff. 1-10), a ddilynwyd gan nodiadau ychwanegol gan T. Ellis Jones, 2 Ebrill 1953 (ff. 10-14), a [1955] (f. 15). Cynhwysir hefyd gopi serocs o'r nodiadau, gyda chywiriadau yn llaw T. Ellis Jones (ff. 16-25, 30-35), a fersiwn diwygiedig, [1990au cynnar], mewn teipysgrif, o'i nodiadau ychwanegol (ff. 26-29). = Typescript notes, 1953, by the Rev. T. Ellis Jones, on 'Braslun o hanes Eglwys Crist sydd yn cwrdd yn Noddfa Llanbedr Pont Steffan', an address given by B. T. Lewis on 26 October 1948, to note the Golden Jubilee of Noddfa Chapel, Lampeter (ff. 1-10), followed by additional notes by T. Ellis Jones, 2 April 1953 (ff. 10-14), and [1955] (f. 15). Also included is a xerox copy of the notes, with manuscript corrections by T. Ellis Jones (ff. 16-25, 30-35), and a revised version, [early 1990s], in typescript, of his additional notes (ff. 26-29).
Cyhoeddwyd rhannau o'r teipysgrifau yn Canmlwyddiant Noddfa'r Bedyddwyr Llanbedr Pont Steffan 1897-1997, gol. gan W. J. Gruffydd ([Llanbedr Pont Steffan], [1997]). = Parts of the typescripts were published in Canmlwyddiant Noddfa'r Bedyddwyr Llanbedr Pont Steffan 1897-1997, ed. by W. J. Gruffydd ([Lampeter], [1997]).

Jones, T. Ellis (Tom Ellis)

Gwersyll Ruhleben,

  • NLW ex 2803.
  • ffeil
  • 1915-1918.

Papurau, 1915-1918, a drosglwyddwyd o Gasgliad Llyfrau LlGC (gynt Ystafell Summers A96) yn deillio o gyfnod David Evans yn garcharor sifil yng ngwerysll Ruhleben ger Berlin. Maent yn cynnwys taflenni a gyhoeddwyd yn y gwersyll yn hysbysebu gwersi, darlithiau a gweithgareddau cymdeithasol. Sefydlwyd ysgol y gwersyll yn 1915 a David Evans oedd pennaeth Astudiaethau Celtaidd. Cyhoeddwyd erthygl 'Y Gymraeg ym 'Mhrifysgol Ruhleben'' gan David Thorne yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gweler hefyd NLW ex 2495 sy'n cynnwys papurau'n ymwneud â chyfnod y Capten Rowland Humphreys (ganwyd yn 1879) yn y gwersyll. = Papers, 1915-1918, transferred from NLW's Book Collection (formerly Summers Room A96) deriving from the time David Evans spent in Ruhleben camp near Berlin as a civilian prisoner. The papers include leaflets printed by the camp’s press advertising Welsh lessons taught by him, lectures and social events. The camp school was established in 1915 and David Evans was the head of Celtic studies. An article in Welsh has been written by David Thorne on the Welsh language in the 'University of Ruhleben' which was published in the National Library of Wales journal, Summer 1999. See also NLW ex 2495 which relates to the period Captain Rowland Humphreys (born 1879) spent in the camp.

Evans, David, 1886-1968

Gwersi Cymraeg,

  • NLW ex 2830.
  • ffeil
  • [1973].

Sgriptiau gwersi dysgu Cymraeg fel ail iaith. [Mae'n bosib eu bod i gyd-fynd gyda recordiau]

Gwaedd yng Nghymru : : yn wyneb pob cydwybod,

  • NLW MS 16216C.
  • ffeil
  • 1897 /

Adysgrif, 1897, yn llaw Annie Jane Davies, Llundain, o ail argraffiad Gwaedd yng Nghymru, yn wyneb pob cydwybod gan Morgan Llwyd (Caerfyrddin, 1767). Mae'n debygol i'r copi hwn gael ei ddarparu ar gyfer golygiad ei darpar ŵr, T. E. Ellis, Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899). = Transcript, 1897, in the hand of Annie Jane Davies, London, of the second edition of Gwaedd yng Nghymru, yn wyneb pob cydwybod by Morgan Llwyd (Carmarthen, 1767). This copy was probably made for her future husband, T. E. Ellis, who edited Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899).

Llwyd, Morgan, 1619-1659

Gradd DLitt John Elwyn,

  • NLW ex 2578.
  • ffeil
  • 1996.

Tystysgrif Doethur mewn Llên er anrhydedd a dderbyniodd yr artist John Elwyn gan Brifysgol Cymru mewn cynulliad o'r Brifysgol, 20 Ebrill 1996, ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg. = Certificate awarded to the artist John Elwyn as Honorary Doctor of Letters at a congregation of the University of Wales held on 20 April 1996, together with an English translation.

Gosodiadau cerdd dant Gareth Mitford Williams,

  • NLW ex 2416.
  • ffeil
  • 1974-1980.

Gosodiadau cerdd dant gan Gareth Mitford Williams (1951-1982) ar gyfer cystadlaethau unawdau a deuawdau mewn gwyliau cerdd dant; gosodiad o 'Y Pensaer' gan Gwenallt ar gyfer ymweliad â Brest, Llydaw, yn 1980; gosodiadau ar gyfer Parti’r Graig, Llangefni, yn Eisteddfodau Cenedlaethol Caerfyrddin 1974 a Chaernarfon 1979, ynghyd â llungopi o ysgythriad o’i daid yr artist W. Mitford Davies, 1935.

Williams, Gareth Mitford.

Gohebiaeth Dewi Watkin Powell correspondence: Tryweryn,

  • NLW Facs 1015.
  • ffeil
  • [2006].

Llungopïau o ohebiaeth, 1956-1957, y Barnwr Dewi Watkin Powell ac E. M. Watkin Jones, ysgrifenyddes Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn, yn ymweud â’r ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn, gan gynnwys rhestr o gynghorau cefnogol, cefnogwyr eraill ac eglwysi ac achosion crefyddol . = Photocopies of the correspondence, 1956-1957, of Judge Dewi Watkin Powell and E. M. Watkin Jones, secretary of the Capel Celyn Defence Committee, relating to the campaign against drowning the Tryweryn Valley, including a list of supportive councils, other supporters and churches and religious causes.

Powell, Dewi Watkin

Gofyniadau ac atebion ar y colectau,

  • NLW MS 16184A.
  • ffeil
  • [1856x1900].

Llyfr nodiadau, dyfrnod 1856, yn cynnwys sylwadau ar golectau eglwysig yn dwyn y teitl 'Gofyniadau ac Attebion ar Y Colectau, yn nghyd a Nodiadau Hanesyddol byrion gan John Flint diweddar Arolygwr Cynorthwyol Ysgolion yn Archddeoniaeth Derby. Wedi ei Gymreigio gan Thomas Evans. Sul Cyntaf yn Advent hyd y Trydydd Sul gwedir Ystwyll' (f. 2). Ymddengys fod hwn yn gyfieithiad o waith John Flint, Questions and Answers on the Collects; with brief historical notes (London; [1860]). Mae ffurf y dudalen deitl yn awgrymu ei fod yn gopi o waith cyhoeddedig cynharach heb ei adnabod. = Notebook, watermark 1856, containing observations on ecclesiastical collects, which appears to be a translation, by Thomas Evans, of Questions and Answers on the Collects; with brief historical notes by John Flint (London; [1860]). The form of the title page suggests that this may be a copy of an earlier, unidentified, printed work.

Evans, Thomas.

Garthewin, 12.9.48,

  • NLW Facs 1070.
  • ffeil
  • [2012] /

Llungopi o ddau bennill a ysgrifennwyd yn llaw Saunders Lewis mewn copi o'i ddrama Blodeuwedd yn cyfeirio at Dad y rhoddwr 'Tom' yn chwyrnu. = A photocopy of two verses containing a cheerful reference to the donor's father 'Tom' snoring written on the endpapers of Saunders Lewis's copy of his drama Blodeuwedd.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Erthygl ar 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr' gan Glyn Ashton,

  • NLW Misc. Records 536.
  • ffeil
  • [1980].

Copi holograff o erthygl Dr Glyn Ashton, 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Ebrill 1980, tt. 97-112. = Holograph copy of article on 'Thomas Jones, Caerfyrddin, Yr Esboniwr (1761-1831)' by Glyn Ashton, published in Y Traethodydd, April 1980, pp. 97-112.

Enoc Evans (Neco) 1874-1952,

  • NLW ex 2719.
  • ffeil
  • 2011.

Cerddi'r bardd Enoc Evans, Llanfihangel Ystrad, mewn teipysgrif, wedi'u casglu ynghyd gan Meredudd Daniels, [2011].

Evans, Enoch.

Ennill sedd Caerfyrddin,

  • NLW ex 2383.
  • ffeil
  • 1966.

Cyfrol yn cynnwys telegramau a llythyrau at Gwynfor Evans yn ei longyfarch ar ennill is-etholiad Caerfyrddin, Gorffennaf 1966.

Englynion yn llaw 'Hydd Cyfeiliog',

  • NLW ex 2707.
  • ffeil
  • 1933.

Englynion gan 'Hydd Cyfeiliog' (David John Rees, ?1882-1969) a ysgrifennwyd mae'n debyg ar gyfer cystadleuaeth i gyfansoddi casgliad o ddeuddeg englyn nas cyhoeddwyd o'r blaen yn Eisteddfod Aberhosan, 19 Ionawr 1933, ynghyd â nodyn bywgraffyddol amdano.

Rees, David John.

Canlyniadau 141 i 160 o 246