Dangos 67 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Islwyn Ffowc Elis
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth a chaneuon

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfr barddoniaeth Islwyn Ffowc Elis tra roedd yn chweched dosbarth Ysgol Sir Llangollen. Mae'r cerddi mewn Cymraeg a Saesneg ac yn dyddio rhwng 1940 a 1942. Ceir hefyd 13 dalen rhydd yn cynnwys geiriau caneuon ac alawon mewn nodiant sol-ffa.

Blas y Cynfyd

Mae'r ffeil yn cynnwys un llyfr nodiadau yn cynnwys rhan o ddrafft llawysgrif cyntaf y nofel Blas y Cynfyd (1958), sef pennod 1 a 2, a rhan o bennod 3.

'Blwyddyn gweinidog'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llenyddol amrywiol - erthygl am 'Blwyddyn Gweinidog', dyddiadur dychmygol, colofn olygyddol ar gyfer Y Ddraig Goch, a geiriau ar gyfer cân.

Cyfres o englynion gan Alan Llwyd

Deg o englynion wedi'u hargraffu, a gyfansoddwyd i nodi pen-blwydd Islwyn Ffowc Elis yn ddeg a thrigain mlwydd oed ym mis Tachwedd 1994 mewn dathliad a drefnwyd gan Yr Academi yn Llyfrgell Wrecsam.

Llwyd, Alan.

Cyhoeddusrwydd Plaid Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau Plaid Cymru, 1966-1969, yn ymwneud â'r arwisgiad, ac yn bennaf â gwaith Islwyn Ffowc Elis fel swyddog cyhoeddusrwydd i Gwynfor Evans, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gwynfor Evans (40), Willie Kellock (13), Elwyn Roberts (10), Dr Gareth Morgan Jones (8), Dafydd Wigley (6), Robyn Lewis, ac eraill.

Wigley, Dafydd

'Cyn Oeri'r Gwaed'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o ysgrifau a gyhoeddwyd yn Cyn Oeri'r Gwaed (1952), sef 'Sut i Yrru Modur', 'Dyn yw Dyn', 'Mynd i'r Lleuad', 'Pe Bawn i'n Wybedyn', 'Tai', a 'Cyn Mynd'. Ceir hefyd nodiadau ar bynciau crefyddol a gwleidyddol.

Cysgod y Cryman

Mae'r ffeil yn cynnwys ugain llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Cysgod y Cryman (1953). 'Lle oeda'r Cryman' yw teitl y nofel yn y tri llyfr nodiadau cyntaf, ond mae'r teitl yn newid i 'Cysgod y Cryman' yn y pedwerydd llyfr. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur.

Dogfennau personol

Mae'r gyfres yn cynnwys tystysgrif ordeinio Islwyn Ffowc Elis yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1950; dau dystysgrif am ddod yn fuddugol yn Eisteddfod Gadeiriol Myfyrwyr Cymru ar gystadleuaeth y ddrama, 1945-1946; pedwar ffotograff a dogfennau eraill.

Drafftiau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys adroddiad ar sasiwn Unedig Aberystwyth ar gyfer Y Goleuad, geiriau'r gân 'Mae gen i long o arian', erthygl am Gymru, a beirniadaethau.

Dramâu

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau nodiadau cymysg yn cynnwys copïau llawysgrif a theipysgrif o ddramâu yn bennaf, ynghyd â rhai caneuon, storïau a beirniadaethau.

Dramâu amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau a nifer o ddalennau rhydd, yn cynnwys drafft llawysgrif o ddarnau o ddramâu o'r enw 'Doctor Wyn', 'Yr Anhygoel Huws' ac eraill di-deitl. Ceir hefyd feirniadaeth ar gystadleuaeth y bryddest yn Eisteddfod Trefeglwys, caneuon gyda nodiant sol-ffa, a nodiadau amrywiol eraill.

Erthyglau

Drafftiau o erthyglau ar gyfer cylchgronau, dyddiadur, 31 Rhagfyr 1965-7 Mawrth 1966, mewn teipysgrif, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, 1979.

Erthyglau printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau gan Islwyn Ffowc Elis, ar faterion Cristnogol a chenedlaetholaidd, a ymddangosodd yn y cylchgronau Y Wawr (Cangen Prifysgol Cymru Aberystwyth o'r Blaid Genedlaethol), Y Greal (Coleg Diwinyddol Aberystwyth), Yr Efrydydd (Mudiad Cristnogol y Myfyrwyr), Y Crynhoad, a'r Drysorfa (Methodistiaid Calfinaidd), 1949-1955, a dim dyddiad.

Plaid Cymru lctgm -- Meetings

Etholiadau Plaid Cymru

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, 1966-1969, yn ymwneud ag ymgyrchoedd etholiadol Plaid Cymru, yn cynnwys taflenni etholiadol, gohebiaeth, a phapurau'r grŵp ymchwil.

Ffenestri Tua'r Gwyll

Mae'r ffeil yn cynnwys naw llyfr nodiadau yn cynnwys y drafft llawysgrif cyntaf o'r nofel Ffenestri Tua'r Gwyll (1955). 'Y Tŵr Ifori' yw teitl y nofel yn y llyfrau nodiadau. Mae'r llyfrau wedi cael eu rhifo mewn trefn gan yr awdur, 1-8, ac mae llyfr ychwanegol yn cynnwys nodiadau ar gynllun y nofel. Ceir hefyd broflenni o benodau 52 a 53, lle mae'r testun yn wahanol i'r fersiwn gyhoeddedig, a llythyr yn llaw'r awdur at y cyhoeddwr yn trafod cynnwys penodau olaf y nofel.

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, sef llythyrau yn bennaf oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, a D. Tecwyn Lloyd at Islwyn Ffowc Elis, 1949-1994.

Canlyniadau 1 i 20 o 67