- C1/1.
- Ffeil
- 1984.
Breuddwydion (unawd), cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Tachwedd 1984. Geiriau yn Gymraeg a Saesneg.
Breuddwydion (unawd), cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Tachwedd 1984. Geiriau yn Gymraeg a Saesneg.
Caneuon newydd i ysgolion, y drydedd gyfrol,
Caneuon Newydd i Ysgolion, y drydedd gyfrol, y geiriau gan Leslie Harries, y gerddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Cyhoeddwyd gan Hughes a'i fab, Wrexham, 1960.
Carolau Gilmor, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, 2011 [yr argraffiad cyntaf yn 1991]. Cynnwys: Ganwyd Crist i'r byd; Fe anwyd mab ym Methlem; Hwn yw fy mhlentyn i; Nos Nadolig yw; Carol ben-blwydd; Beth yw'r seren dlos?; Ave Maria; Anwylyn Mair; Goleuni'r byd; Carol Parsal (S.A.T.B. a S.S.A.A.).
Gilmora, 15 o alawon cerdd dant.
Ail argraffiad o 'Gilmora' 15 o alawon cerdd dant, cyhoeddwyd gan Y Lolfa [argraffiad cyntaf yn 1984]. Cynnwys: Moel Hiraddug; Porth y nant; Erw faen; Bryn Elwy; Ymadawiad y Brenin; Carnguwch; Gallt derw; Glan Clwyd; Treddafydd; Cefni; Gelliwig; Breuddwyd y Frenhines; Dyffryn Maelor; Y Faenol Bropor; Aberderfyn.
Hwyl ar y gân, 7 o ganeuon i blant, gan Gilmor Griffiths, cyhoeddwyd gan Y Lolfa, Rhagfyr 1984. Cynnwys: Wedi'r gaeaf; Breuddwydio; Gwylanod; Lliwiau'r Hydref; Y deffro; Cwymp y dail; Santa bach.
Llyfryn heb glawr [hunan cyhoeddiad?], sy'n cynnwys geiriau a sgôr i'r caneuon 'Cân diolch', 'Croeso'r gwanwyn', Cân i'r gwanwyn', 'Gwanwyn', 'Y deffro', 'Cân y tylwyth teg', 'Y coedlan', 'Y glöwr'.
Taflen geiriau i'r record 'Nos Nadolig Yw', corau Ysgol Uwchradd Glan Clwyd. Argraffwyd gan Wasg Carreg Gwalch, Llanrwst.
Y Pren Afalau, unawd gan Gilmor Griffiths, geiriau gan I. D. Hooson, cyhoeddwyd gan Y Lolfa.
Trefniant ar gyfer deuawd telyn, Carol o Rwsia / I orwedd mewn preseb / Anwylun Mair.
Llawysgrif, frasluniau a llungopïau o'r cyfansoddiad gan Gilmor Griffiths, 1976. Cyflwynwyd i Ceinwen, Telynores Dyfrdwy.
Llawysgrif, lungopïau ac ychydig o frasluniau o ddarnau i'r delyn neu delynau. Cynnwys nifer o nodiadau a newidiadau. Nodyn ar yr amlen wreiddiol yn awgrymu bod y darnau, a'r nodiadau ar gyfer Ceinwen Stuart, Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.
Copi sgôr o 'Hwyrgan yr Hydref' (Autumn Nocturn) i Euphonium neu glarinét B♭ gyda chyfeiliant. Hefyd brasluniau ar gyfer offerynnau pres. Sgôr o drefniant William (Bill) Hind, Gorffennaf 1981[82].
Llungopïau o rannau offerynnau ensemble gwynt ar gyfer 'Mary Carol' gan Gilmor Griffiths.
Sgôr llawn 'Tre'r Ceiri' gan Gilmor Griffiths ar gyfer band pres.
Llyfr cerdd yn cynnwys sgorau cerddoriaeth ar gyfer bandiau pres. Teitlau'n cynnwys, 'Judea', 'O deued pob Cristion' a 'Llanbedr'.
Pum braslun o sgorau dienw wedi eu trefni ar gyfer bandiau pres.
Sgôr mewn llawysgrif o 'Y Tlawd hwn', gan Gilmor Griffiths. Darn adrodd i gyfeiliant telyn. Dim geiriau [o bosib y gerdd o'r un enw gan W. J. Gruffydd].
Sgôr mewn llawysgrif a llungopïau o'r alaw 'Adlais' gan Gilmor Griffiths, geiriau gan Dorothy Jones (Langwm). Dau wahanol gywair.
Llungopi o'r alaw 'Ceinwen' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.
Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.