Dangos 33 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Norah Isaac, ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Albwm 1949

Albwm a gyflwynwyd i Norah Isaac pan oedd yn gadael yr Ysgol Gymraeg i fod yn ddarlithydd yn Y Barri, 1949. Ceir cyfarchion ar lun a gair gan y disgyblion, ynghyd â ffotograffau rhydd, [1944]-1949, o'i chyfnod yno a rhai diweddarach. Ceir hefyd lungopi o lythyr byr oddi wrth Owen [Edwards], 1942

Cerddi am Norah Isaac

Llungopi o gerdd 'Nora' gan Gwenallt a gyflwynwyd i Norah Isaac wedi iddi actio mewn drama gan J. B. Priestly yn 1949; 'Yr olygfa fawr' gan Brinley Richards, 1979, wedi iddo weld y pwythau a gafodd yn dilyn ei llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, 1978; 'Wynebau' gan T. Glynne [Davies], 1981; englynion 'Merch y Llwybrau', [1985] gan [J.] Eirian Davies ; ffotograff o boster E. Meirion Roberts, [1987], yn cynnwys englyn T. H. Parry-Williams iddi; 'Cywydd i gyfarch Norah Isaac' (printiedig) gan T. Gwynn Jones, 1989; a 'Cyfarchion penblwydd i Norah Isaac', papur bro Cwlwm, Rhagfyr 1994.

Cerddi gan Norah Isaac

Cerddi, 1932-1991, yn cynnwys 'Y Blacowt' mewn tafodiaith a llyfr ysgrifennu Norah Isaac pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Blaenllynfi, gan gynnwys cerdd 'Y claf wrth yr oenig', 1933, 'Unigedd', 1932, a soned 'Gwersyll yr Urdd, Llangrannog', 1934; emyn Gŵyl Ddewi; cerdd 'To my music teacher in the twenties', 1976; cerdd rydd ganddi ar achlysur gweinyddu'r cymun olaf yn Eglwys Noddfa (1897-1991), Caerau, Maesteg, Rhagfyr 1991; ynghyd â chyfieithiad o'r emyn 'Arglwydd gad im dawel orffwys' i'r Saesneg.

Coleg Y Barri

Papurau'n ymwneud â chyfnod Norah Isaac fel darlithydd yn Y Barri yn cynnwys rhaglen gwaith llafar y myfyrwyr, 1950, yn seiliedig ar nofelau a barddoniaeth T. Rowland Hughes; taflenni a baratowyd ganddi, [1952]-[1954], yn cynnwys sgyrsiau ac yn ymwneud â gwaith llenorion; anerchiad coffa Syr Ben Bowen Thomas, 1956, i Ellen Evan, Prifathrawes Coleg Y Barri, 1923-1953 (printiedig); llyfr yn cynnwys ymarferion ail iaith gan Norah Isaac ar gyfer dysgwyr a luniodd tra yn Y Barri; 'Miss Isaac-yn cofio'r cychwyn cynnar' yn Addysg Gymraeg yn y Barri [1992]; a llun o feim myfyrwyr y coleg yn Llundain, [1956].

Thomas, Ben Bowen, 1899-1977

'Corlannu pobl'

Sgript 'Corlannu pobl' yn cynnwys y diwygiadau i'r testun a gyhoeddwyd fel Corlannu pobl. Cyflwyniad dramatig i ddathlu tri chanmlwyddiant geni Griffith Jones Llanddowror, ynghyd â thalfyriad o'r sgript a ddangoswyd ar S4C yn 1983, a thaflen o syniadau am Griffith Jones gan Muriel Bowen Evans ar gyfer athrawon (yn y gyfres 'O bant i bentan', 1983).

Evans, Muriel Bowen

Cynyrchiadau llwyfan

Nodiadau, [1992], gan Norah Isaac am ei chynyrchiadau llwyfan, 1936-1992, gan gynnwys perfformiadau gan ddisgyblion yr Ysgol Gymraeg, Aberystwyth, ei myfyrwyr yn Y Barri a Chaerfyrddin, Cymdeithas Bro Myrddin, a Chwmni Lleisiau Llên, ynghyd â rhestr o gymeriadau y bu yn eu portreadu fel plentyn ac fel oedolyn ar y radio.

Deunydd printiedig

Eitemau printiedig, 1886-[1983], gan gynnwys cerdd goffa Myfyr Emlyn, 1886, i'r Parch. R. Hughes (1820-1885), Bethania, Maesteg; rhaglen, 1949, ar gyfer perfformiad Aelwyd yr Urdd, Aberystwyth, o 'Amser' (cyfieithiad Elsbeth Evans o J. B. Priestley, 'Time and the Conways') pan fu Norah Isaac yn actio rhan Eirian; y cylchgrawn Llwyfan, Gwanwyn 1969, yn cynnwys erthygl 'Y ddrama yn y Coleg Addysg' ganddi; rhaglen cyflwyniad teyrnged Theatr yr Ymylon i Saunders Lewis yn bedwar ugain oed yn [1973]; taflen angladd Aneurin Jenkins-Jones, 1981; a rhaglen gwasanaeth angladd Carwyn James, 1983.

Thomas, B. (Benjamin), Myfyr Emlyn, 1836-1893

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Gwaith y disgyblion

Enghreifftiau o waith creadigol rhai o'r disgyblion, [1948]-[1949], ynghyd â rhifynnau o 'Dail Gwanwyn', 1943-1950, cylchgrawn yr Ysgol Gymraeg.

Gwyliau tramor

Papurau amrywiol yn ymwneud â theithiau Norah Isaac i Israel yn 1984 ac 1986, gan gynnwys ei hargraffiadau a cherdyn yn dangos Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ar Fur Eglwys Pater Noster yn Jerwsalem, a manylion am y bererindod i Dwrci 1985.

Ifan ab Owen Edwards

Rhannau mewn teipysgrif, gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif, gan Norah Isaac o'i phortread o Syr Ifan ab Owen Edwards, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1972. Nid yw'r tudalennau yn dilyn. Ceir hefyd sgript deledu ar gyfer plant, 1958, ar 'O.M.', pan gafwyd cyfraniad gan Norah Isaac i'r rhaglen.

'Iolo'

Y sgript wreiddiol 'Iolo neu Galon wrth Galon' a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 ac a gyhoeddwyd fel Iolo yn 1975, ynghyd â sgript 'Iolo Morgannwg' ar gyfer y teledu, 1978, gyda llythyrau oddi wrth Ifor Rees, cynhyrchydd gyda'r BBC. Ceir hefyd sgript 'Iolo' wedi'i diwygio. Mae'n bosib mai sgript ar gyfer perfformiad Cwmni Iolo, 1992, i ddathlu daucanmlwyddiant Gorsedd y Beirdd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ydoedd.

Rees, Ifor

Lleisiau Llên

Sgript 'copi'r Cwmni', 1975, rhaglen, 1975, a dau ffotograff, ynghyd â rhaglen Gŵyl Bro'r Preseli, 1976, pan berfformiwyd cyflwyniad llafar 'Gwyn eu byd ...' gan Gwmni Lleisiau Llên.

'Llyfr drama NI'

Deialogau ac ymarferion a luniwyd gan Norah Isaac a llawysgrif cyfrol arfaethedig o sgyrsiau ar gyfer plant 'Sut hwyl a da boch chi', [1980].

Llythyrau cyffredinol

Llythyrau, [1955]-2003. Ymhlith y gohebwyr mae Kitty Idwal Jones yn nodi achau teulu Plas Penucha (Syr John Herbert Lewis) mewn gwahanlith o erthygl 'Cywydd gan Thomas Jones, Dinbych' gan Saunders Lewis o'r Llenor, Hydref 1933, a anfonodd ati yn 1955, Bedwyr Lewis Jones, Derec Llwyd Morgan, Gwynfor Evans, George Noakes, Daniel Evans, Islwyn [Ffowc Elis], W. R. P. George (2), Alan Llwyd, Hywel Teifi [Edwards] a Gwilym Humphreys. Y mae'r llythyr a ddyddiwyd yn 2003 oddi wrth Dewi [James] wedi'i gyfeirio at [R.] Brinley [Jones] ac yn ymwneud â'r grŵp o lythyrau oddi wrth Saunders Lewis.

Jones, Kitty Idwal, 1898-1984

Llythyrau Cymrawd

Llythyrau a chardiau, 1988-1989, yn llongyfarch Norah Isaac ar yr anrhydedd o gael ei dewis yn Gymrawd o'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys rhai oddi wrth Dr Emyr Wyn Jones; George Noakes; Jâms Nicholas; englyn gan [W.] Rhys [Nicholas] 'I Norah (ar gael ei hurddo yn Gymrawd)'; Mathonwy [Hughes]; Dyddgu [Owen]; W. Emrys Evans (2); ynghyd ag erthygl gyda'r teitl 'Norah is voted a jolly good fellow', Daily Post, 1989.

Jones, Emyr Wyn.

Llythyrau oddi wrth Syr Ifan ab Owen Edwards,

Llythyrau, [1935]-[1966], yn ymwneud â cholledion ariannol Ysgolion Abermâd a Lluest, gweithgareddau Urdd Gobaith Cymru, a chylchrediad cylchgronau fel Cymru'r Plant. Ceir dau lythyr hefyd oddi wrth D. J. [Williams] a llythyr oddi wrth George M. Ll. Davies.

Edwards, Ifan ab Owen, 1895-1970.

Llythyrau Saunders Lewis

Llythyrau, [1953]-[1979], oddi wrth Saunders Lewis yn cynnwys newyddion personol. Mae'n diolch iddi am anfon copi o Iolo iddo [cf 4/5] ac yn dweud iddo ddarllen sylwadau'r beirniaid am y ddrama yn y wasg. Yr oedd wedi gwrthod ei gwahoddiad i ddarlithio yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974. Ceir hefyd lythyr a anfonodd ati wedi iddi dderbyn llawdriniaeth yn Ysbyty Westminster, Llundain, yn 1979. Derbyniwyd llungopïau o'r mwyafrif o'r llythyrau hyn eisoes (Papurau Norah Isaac 146/135 a 211).

Lewis, Saunders, 1893-1985

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1927-2003, gan gynnwys tystysgrif Norah Isaac am ennill yr ail wobr am adrodd 'Y Crythor Dall' gan [Syr John Morris-Jones] yn Eisteddfod Genedlaethol Caergybi 1927; papur arholiad llenyddiaeth Gymraeg Norah Isaac yn dwyn stamp Eisteddfod Genedlaethol Treorci 1928; ei nodiadau, 1945, ar gyfer y Pwyllgor Ymgynghorol ar Addysg yng Nghaerdydd; atgynhyrchiad o [Idris Ll. Foster, Y Gymraeg yn yr Ysgolion Gramadeg (Undeb Cymru Fydd, 1952), gyda sylwadau wedi'u hychwanegu gan Norah Isaac; llungopi o adolygiad, [1950x1958], o 'Hamlet yn Gymraeg - a gan ferched yn unig. Campwaith yn y Barri' ac o adolygiad Mati Rees o Norah Isaac, Crwydro Gorff a Meddwl [Abertawe, 1980]; llyfr nodiadau'n cynnwys sgwrs Norah Isaac ar gyfer rhaglen 'Wythnos i'w chofio', 1976; a thaflen angladd Norah Isaac, 11 Awst 2003.

Canlyniadau 1 i 20 o 33