Dangos 150 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cyfansoddiadau G. J. Williams

Drafftiau teipysgrif a llawysgrif, o bryddestau a cherddi yn bennaf, gan G. J. Williams. Bu nifer ohonynt yn fuddugol mewn eisteddfodau ar hyd a lled Cymru, 1912-1920. Mae rhai wedi eu cofnodi mewn llyfrau nodiadau a cheir nifer o gerddi i'w wraig, Elizabeth, yn eu plith.

Cyfansoddiadau gan eraill

Ychydig gyfansoddiadau gan eraill. Yn eu plith ceir teipysgrif o gerddi gan Waldo Williams; copi teipysgrif o'r ddrama 'Yr Anfarwol Ifan Harris' gan Idwal Jones; adysgrif o gerdd, heb deitl, a gyfansoddwyd gan Dafydd Huws ('Eos Iâl); llawysgrif y gerdd 'Marwolaeth y Cristion' gan Evan Jones, dyddiedig Chwefror 23ain 1870; cerdd, heb deitl, wedi ei dyddio 'May 5/[18]96', mewn llaw ddieithr; llythyr, 1912, oddi wrth 'Isallt' at 'Isgoed', ynghyd â chopïau o nifer o'i gerddi; a chopi llawysgrif o gerdd gan Gwilym Cowlyd i William Ewart Gladstone.

Cyfieithiadau Mary Catherine Llewelyn

Llawysgrif yn cynnwys casgliad o gyfieithiadau Saesneg, [?1839]-1876, gan, ac yn llaw, Mary Catherine Llewelyn, gwraig y Parch. R. Pendrill Llewelyn, ficer Llangynwyd, Morgannwg, 1841-1891, o farddoniaeth gan Lewis Glyn Cothi, William Hopkin, Llangynwyd, a Thaliesin; ynghyd â chyfieithiadau o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology, ac emynau gan William Williams, Pantycelyn. Ceir hefyd torion yn cynnwys cerddi Cymraeg, gyda chyfieithiadau Saesneg, a godwyd o The Cambrian, Central Glamorgan Gazette, y Western Mail a Notes and Queries.

Cyhoeddiadau a phapurau ymchwil

Papurau ymchwil, cyhoeddiadau, erthyglau a darlithoedd G. J. Williams, [1911x1979], ar agweddau ar lenyddiaeth, iaith a dysg Gymraeg. Yn eu plith ceir deunydd yn ymwneud â Iolo Morganwg, traddodiad llenyddol Morgannwg, ysgolheictod Cymraeg a'r wasg Gymraeg, yr Eisteddfod a'r Orsedd, a'r llawysgrifau Cymraeg. Ceir hefyd ychydig bapurau'n ymwneud a Llên Cymru a'r Llenor. Mae nifer o'r darlithoedd, neu gyfieithiadau ohonynt, yn llaw Elizabeth Williams.

Dafydd Jones o Drefriw

Papurau'n cynnwys 'Atodiad. Llythyrau eraill at Ddafydd Jones o Drefriw', 1757-1778. Gweler 'Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw', wedi eu copïo a'u golygu gan G. J. Williams yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1943), Atodiad, Cyfres III, rhif 2.

Darlithoedd

Darlith a draddododd G. J. Williams yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn seiliedig ar arddangosfa o bortreadau rhai o enwogion Cymru; darlith yn dwyn y teitl 'Tri Chan Mlwyddiant yr Annibynwyr', ynghyd ag ychydig nodiadau ar Undodiaeth yn Sir Aberteifi.

Darlithoedd ac erthyglau

Darlithoedd ac erthyglau'n ymwneud â hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn eu plith ceir y canlynol: 'Llenyddiaeth Gymraeg yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg', 'Y Ddeunawfed Ganrif', 'Llenyddiaeth Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Rhyddiaith y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Adfywiad Llenyddol yn y Ddeunawfed Ganrif', 'Traddodiad Llenyddol Sir Ddinbych', 'Traddodiadau Llenyddol Sir Aberteifi', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16G', 'Dafydd ap Gwilym', 'Telynegwyr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Anterliwt Cymraeg II', 'Beirniadaeth Lenyddol', 'Llyfrau Prin', 'Diwylliant Cymreig', a 'Cyhoeddi Llyfrau'.

Dyddiaduron

Dyddiaduron poced, 1920, 1923, 1925, 1930, 1932, 1934, 1936, 1939, 1939-1940, 1943, 1952, 1956, 1957, 1958, 1959, 1961, yn cynnwys ychydig iawn o gofnodion, ac yn ymwneud yn bennaf â chofnodi dyddiad ac amser darlithoedd a chyfarfodydd pwyllgorau, etc.; ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion manwl am y cyfnod 26 Gorffennaf hyd 2 Awst 1920.

Edward Lhuyd

Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Edward Lhuyd, gan gynnwys llawysgrif o Ddarlith O'Donnell a draddodwyd ganddo, 5 Mai 1959. Ceir hefyd nodiadau, adysgrifau a chyfeiriadau at ohebiaeth a llawysgrifau Edward Lhuyd mewn gwahanol ffynonellau, yn arbennig yn Rhydychen.

Englynion a cherddi rhydd

Llawysgrif yn cynnwys englynion, carolau a cherddi rhydd gan Elis Roberts, Hugh Jones, Llangwm, Hugh Prichard, Llanbedr, John Jones, David Jones y Goelas, ac Evan Evans, Llanrwst. Fe'u casglwyd ynghyd gan Evan Evans, Llanrwst.

Canlyniadau 21 i 40 o 150