Dangos 238 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Norah Isaac,
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Gwaed yr Uchelwyr'

Sgript 'Gwaed yr Uchelwyr' gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Gwmni Cofio, 1985, yn Theatr Halliwell, Coleg y Drindod, Caerfyrddin, ynghyd â rhaglen, ac adolygiad, 1985, o bapur bro Y Gambo.

Gwaith cwrs NI fel myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, Y Barri, sef traethawd hanes: 'Cynnyrch y Diwygiad Methodistaidd yn Emynyddiaeth ...,

Gwaith cwrs NI fel myfyrwraig yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, Y Barri, sef traethawd hanes: 'Cynnyrch y Diwygiad Methodistaidd yn Emynyddiaeth Cymru', 1933-34; traethawd Cymraeg: 'Barddoniaeth T. Gwynn Jones a W. J. Gruffydd', 1935; traethawd hanes lleol: 'Tir Iarll. Nid da lle gellir gwell', heb ddyddiad; ac ymarferion iaith, 1934.

Gwaith y disgyblion

Enghreifftiau o waith creadigol rhai o'r disgyblion, [1948]-[1949], ynghyd â rhifynnau o 'Dail Gwanwyn', 1943-1950, cylchgrawn yr Ysgol Gymraeg.

Gwyliau tramor

Papurau amrywiol yn ymwneud â theithiau Norah Isaac i Israel yn 1984 ac 1986, gan gynnwys ei hargraffiadau a cherdyn yn dangos Gweddi'r Arglwydd yn Gymraeg ar Fur Eglwys Pater Noster yn Jerwsalem, a manylion am y bererindod i Dwrci 1985.

Ifan ab Owen Edwards

Rhannau mewn teipysgrif, gydag ychwanegiadau mewn llawysgrif, gan Norah Isaac o'i phortread o Syr Ifan ab Owen Edwards, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 1972. Nid yw'r tudalennau yn dilyn. Ceir hefyd sgript deledu ar gyfer plant, 1958, ar 'O.M.', pan gafwyd cyfraniad gan Norah Isaac i'r rhaglen.

'Iolo'

Y sgript wreiddiol 'Iolo neu Galon wrth Galon' a berfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974 ac a gyhoeddwyd fel Iolo yn 1975, ynghyd â sgript 'Iolo Morgannwg' ar gyfer y teledu, 1978, gyda llythyrau oddi wrth Ifor Rees, cynhyrchydd gyda'r BBC. Ceir hefyd sgript 'Iolo' wedi'i diwygio. Mae'n bosib mai sgript ar gyfer perfformiad Cwmni Iolo, 1992, i ddathlu daucanmlwyddiant Gorsedd y Beirdd yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin, ydoedd.

Rees, Ifor

Canlyniadau 61 i 80 o 238