Dangos 32 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Erfyl Fychan
Rhagolwg argraffu Gweld:

Yr Orsedd

Cyfarwyddiadau seremonïau Gorsedd y Beirdd gan y Cofiadur Cynan mewn teipysgrif, [1935], ynghyd â chynllun Cylch yr Orsedd, 1960, a chopi printiedig o drefniadau'r Orsedd at Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd 1965.

Cynan, 1895-1970

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Llythyrau'n trafod materion yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1950-1965, a llythyrau, 1967, yn ymwneud â thysteb i Erfyl Fychan.

Y Gododdin

Adysgrif a wnaed gan William Owen [Pughe], 1783, o gyfrol [llawysgrif] testun Aneirin o'r Gododdin oedd ym meddiant Owen Jones ['Owain Myfyr'] yn Llundain. Mae'r gyfrol hefyd yn dwyn enw Thomas Evans, 1850.

Pughe, W. Owen (William Owen), 1759-1835

William Jones, Llangadfan

Adysgrif gan Erfyl Fychan, [1920]-[1968], o lyfr William Jones (1726-1795), Dolhywel, Llangadfan, yn cynnwys cerddi yn y mesurau caeth ganddo, 1771-1792, ynghyd â rhestr o ddyddiadau 'holl hen ffeiriau Cymru' o lawysgrif a ysgrifennwyd tua 1620. Defnyddiwyd y llyfr hefyd ar gyfer gwneud nodiadau o lawysgrif Cwrtmawr 856D ar arferion priodi yn Sir Aberteifi.

Jones, William, 1726-1795

Tysteb Erfyl Fychan

Llythyrau, 1967, oddi wrth aelodau'r Orsedd at Alun Ogwen [Williams] (ysgrifennydd aelodaeth) yn anfon rhoddion ariannol i ddiolch i Erfyl Fychan wrth iddo ymddeol fel Arwyddfardd wedi chwarter canrif o wasanaeth.

Traethawd MA

Papurau'n ymwneud â llunio traethawd Erfyl Fychan 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' (Lerpwl, 1939), gan gynnwys 'Gwerslyfr y delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion'), 1858.

Traethawd MA

Fersiwn drafft o'i draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' gyda chyfarwyddiadau i'r teipydd.

Traethawd MA

Traethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' mewn teipysgrif. Ceir y traethawd mewn un gyfrol a dau atodiad, y cyntaf yn cynnwys testun y cerddi a'r ail yn fynegai i'r awduron a'u ffugenwau.

Traethawd MA

Fersiwn llawysgrif o'i draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' ond nid yw'r tudalennau mewn trefn.

Torion o'r wasg

Torion, [1945]-1966, gan gynnwys llawer iawn o'i golofn 'Nodion bryn a bro' yn y County Times, [1957]-[1963], ac yn ymwneud â'i waith eisteddfodol yn genedlaethol a lleol.

'Telynor Cymru'

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, gydag adysgrif Erfyl Fychan, ynghyd â thorion o'r wasg yn ymwneud â'i fab Ernest Roberts.

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio yn cynnwys 'Hen arferion Cymru fu, 1700-1800', 1935, sef dwy wers ar y baledwr a baledi; 'Ugain munud gyda'r Bardd Crwst', 1938; 'Dic Dywyll - Tywysog y Baledwyr', 1938; 'Twm o'r Nant, yr Anterliwdiwr', [1938]; 'Cymeriadau' yn y gyfres 'Cywain', 1965; 'Digwyddiad pwysig y carwn i fod yno', 1966; 'Y llyfr gorau y caraswn fod wedi'i ysgrifennu' a 'Y cymeriad gorau a gyfarfyddais', 'Cywain', 1966.

Papurau Erfyl Fychan

  • GB 0210 ERFYCHAN
  • fonds
  • 1858-1996 (crynhowyd 1924-1996)

Papurau Erfyl Fychan, 1858-1996, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato, rhai oddi wrth ei gyd-aelodau yn yr Orsedd, copi o'i draethawd MA, 1939, sgriptiau radio, llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru') a chyfrolau eraill yn cynnwys adysgrifau a ddaeth i'w feddiant, ynghyd â phapurau ei fab Geraint Vaughan-Jones.

Erfyl Fychan, 1899-1968

Llythyrau'r Orsedd

Llythyrau'n trafod materion yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1950-1965. Ymhlith y gohebwyr mae Mam o Nedd (1) a 'Note as to the duties of the Mistress of the Robes' ganddi, 1952; Trefîn (3) yn cynnwys ei gywydd coffa i Elfed, 1954; D. Rhys Phillips (2); Brynallt (13); Cynan (8); Leila Megane (1); a Maxwell Fraser (2).

Coombe Tennant, Winifred, 1874-1956

Llythyrau Prifysgol Lerpwl

Llythyrau, 1929-1932, yn ymwneud â gwaith academaidd Erfyl Fychan. Ymhlith y gohebwyr mae J. Glyn Davies (12) a W. Garmon Jones (2), ynghyd â llythyr oddi wrth Idris Bell, 1924 a llythyr, 1924, yn ei hysbysu ei fod wedi'i benodi yn 'Ben Athro' Ysgol Llanerfyl.

Davies, J. Glyn (John Glyn), 1870-1953

'Llythyrau llenorion ac eraill'

Llythyrau, 1926-1965, yn ymwneud â'i yrfa academaidd, atebion ynglŷn â'i waith ymchwil a'i ddiddordebau eraill megis yr Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys rhai oddi wrth Clement Davies (2), Bryfdir (1), J. T. Jones (3), J. L. Cecil-Williams (2), T. H. Parry-Williams (2), T. Gwynn Jones (26), ynghyd â dau dystlythyr ganddo, 1935, 1942, Dora Herbert Jones (1), Gwilym R. Tilsley (2), Brynallt (2), Dillwyn Miles (1), Cynan (2), E. R. Winstedt, golygydd y Gypsy Lore Society (6), D. J. Williams, Abergwaun (1), J. Dyfnallt Owen (1), J. O. Williams (1), William George (1). Ceir hefyd eitemau eraill megis sgript 'Cerdd Dant' gan Erfyl Fychan a ddarlledwyd yn 'Yr Egwyl Gymraeg', [?1935], 'Cân Geraint' ganddo, [c. 1929] a rhaglen dadorchuddio cofgolofn i I. D. Hooson, 1952.

Davies, Clement, 1884-1962

Llythyrau Geraint Vaughan-Jones

Dau lythyr, 1957, oddi wrth Geraint Vaughan-Jones at ei deulu tra roedd yn byw yn Zweibrucken yn yr Almaen ac yn gweithio fel cyfieithydd, ynghyd â llythyrau oddi wrth Leigh Henry, Brynallt a Rhosier.

Llythyrau a phersonalia

Cyfrol ar gyfer arddangos cardiau Nadolig ond a ddefnyddiwyd ar gyfer cadw llythyrau a dogfennau pwysig yn ymwneud â'i yrfa academaidd a chyhoeddus, 1929-1966. Ymhlith y gohebwyr mae Idwal Jones (3), T. Gwynn Jones (2), Kitty Idwal Jones, Syr John Cecil-Williams, [Francis] Wynn [Jones] (2), ynghyd â llofnod Gracie Fields ac englynion gan Gwilym R. Tilsley, 1966.

Jones, Idwal, 1895-1937

Llythyrau a phersonalia

Cyfrol ar gyfer arddangos cardiau Nadolig ond a ddefnyddiwyd ar gyfer cadw llythyrau a dogfennau pwysig yn ymwneud â'i yrfa academaidd a chyhoeddus. Ceir gwahoddiadau i ymweliadau brenhinol â Chymru, 1937, 1953, 1960; rhaglen cyhoeddi Eisteddfod Talaith a Chadair Powys, 1960; rhaglen seremoni dadorchuddio cofeb Dewi Emrys ym Mhwllderi, 1961; a gwahoddiadau i fyrbrydau'r Eisteddfod Genedlaethol. -- Ceir hefyd bapurau'n perthyn i'w fab y Canon Geraint Vaughan-Jones yn y gyfrol, gan gynnwys rhaglen ordeinio neu gysegru Dr Barry Morgan yn Esgob Bangor, 1993; emynau a ysgrifennwyd gan Geraint Vaughan-Jones, 1982 a 1989, ar gyfer Gŵyl Eglwysi Tydecho; llythyrau, 1984, 1986, 1989, oddi wrth Cledan, Esgob Bangor, yn ymwneud â'i yrfa yn Esgobaeth Bangor; ynghyd â thorion o'r wasg, Blewyn Glas, Rhagfyr 1990, papur bro ardal Machynlleth, yn cynnwys erthygl 'Nabod cymeriad' am Geraint Vaughan-Jones; a thaflenni eraill a gasglwyd ganddo.

Canlyniadau 1 i 20 o 32