Drafftiau, [1950au], gan Dr J. Gwyn Griffiths o gyfieithiadau i'r Gymraeg o gerddi Almaeneg gan Hölderlin. Ysgrifennwyd y drafftiau ar lythyr (ac amlen), 13 Awst 1951, a gyfeiriwyd yn wreiddiol oddi wrth Nan Davies o'r BBC, Bangor, at Dr Griffiths (f. 86, 86a), ac ar gefn dalen o ymarferion Groegaidd (f. 87). = Drafts, [1950s], by Dr J. Gwyn Griffiths of translations into Welsh of German poems by Hölderlin. These were written on a letter (and envelope), 13 August 1951, originally sent by Nan Davies of the BBC, Bangor, to Dr Griffiths (f. 86, 86a), and on the back of a page of Greek exercises (f. 87).
Y cerddi a gyfieithiwyd yw 'Die Heimath' (f. 86), pennill cyntaf 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), a'r wyth llinell cyntaf o 'Brot und Wein', rhan IV (ff. 86a verso, 87); mae'r gwreiddiol yn The Poems of Hölderlin, cyf. gan Michael Hamburger ([Llundain], [1943]), tt. 110, 108, 118 a 164 yn eu tro. Cyhoeddwyd 'Adref' ('Die Heimath') a 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') yn J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), tt. 88-89. = The poems translated are 'Die Heimath' (f. 86), the first verse of 'An Die Jungen Dichter' (f. 86 verso), 'Menschenbeifall' (ff. 86 verso, 86a), and the first eight lines of 'Brot und Wein', part IV (ff. 86a verso, 87); for the originals see The Poems of Hölderlin, trans. by Michael Hamburger ([London], [1943]), pp. 110, 108, 118 and 164 respectively. 'Adref' ('Die Heimath') and 'Clod Dynion' ('Menschenbeifall') were published in J. Gwyn Griffiths, Ffroenau'r Ddraig (Aberystwyth, 1961), pp. 88-89.
Griffiths, John Gwyn.