Adroddiadau iechyd a phapurau cysylltiedig
- D 21.
- File
- c.2001-c.2009
Part of Archif Dolen Cymru
Adroddiadau a phapurau amrywiol yn ymwneud â materion iechyd Lesotho a chysylltiadau iechyd Dolen Cymru, gan gynnwys Beth Hookey, 'Evaluation of the Mantsonyane AIDS program, St James Mission Hospital', 2002; Judith Stammers ac Andy Scrace, 'Proposal for mental health training for village health workers in Berea district', 2003; 'Ty Health workshop report', 2004'; llyfryn (yn Sesotho) 'Kutlo o fumana thuot e bohloko' ynglyn â chlefydau a drosglwyddir yn rhywiol, c.2004; Comisiwn AIDS Cenedlaethol, 'National HIV and AIDS monitoring and evaluation plan (2006-2011)', 2007; memoranda cyd-ddealltwriaeth rhwng Dolen Cymru a'r Weinyddiaeth Iechyd a Lles Cymdeithasol, 2008, Ymddiriedolaeth GIG Caerdydd a'r Fro ac Ysbyty'r Frenhines Elizabeth II, Maseru, 2008, ac Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin Cymru a Chymuned Iechyd Ardal Quthing, Maseru, 2009; Andy Scrase, 'Women and mental health in Lesotho: a personal overview by a British nkono', 2010; a llyfryn (yn Sesotho) 'Rua tsebo ka seo o ka se etsang ho thusa oa heno (lefu/bokooa ba kelello)', ynglyn â salwch meddwl ac anabledd, [d.d.].