Dangos 246 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Sgriptiau Gwenlyn Parry,

  • NLW ex 2822.
  • ffeil
  • [1963] a [1968].

Dwy sgript o waith Gwenlyn Parry, sef 'Poen yn bol', [1963], a 'Ty ar y tywod', [1968], a gyflwynwyd gan yr awdur i dad y rhoddwr. Sgript ymarfer ar gyfer darllediad ar y teledu yw un 'Ty ar y tywod' wedi'i llofnodi gan y dramodydd. = Two scripts by Gwenlyn Parry, namely 'Poen yn bol' [1963], and 'Ty ar y tywod' [1968], presented by the author to the donor's father. The 'Ty ar y tywod' script is a practice script for a television broadcast and bears the signature of the dramatist.

Parry, Gwenlyn

Sgriptiau Eluned Phillips,

  • NLW ex 2770.
  • ffeil
  • [1950]-[1970] /

Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.

Phillips, Eluned, 1914-2009

Sgriptiau D. J. Williams,

  • NLW ex 2451.
  • ffeil
  • 1936, 1939.

Copïau teipysgrif o dair sgript sef 'Shemi Wâd' (sgwrs gan Bili John a D. J. Williams), 1936, 'Storïau'r Môr' (gan dri hen forwr o Abergwaun), 1936, a 'Dychangerddi Letys Het' (D. J. Williams a Bili John), [fe'i cyhoeddwyd yn y County Echo yn 1939]; cawsant eu recordio yn Stiwdio'r BBC yn Abertawe.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970.

Sgript ffilm Hedd Wyn screenplay,

  • NLW ex 2861 (i & ii)
  • ffeil
  • 1991-1992.

Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.

Llwyd, Alan.

Sefydlu ysgol ddyddiol Llithfaen,

  • NLW MS 16477A.
  • ffeil
  • [c. 1867] /

Llyfr nodiadau, [c. 1867], David Evan Davies, Llithfaen, sir Gaernarfon, yn cynnwys cofnodion pwyllgor ar gyfer sefydlu ysgol ddyddiol yn Llithfaen, Ebrill-Mai 1867 (ff. 1-3). = Notebook, [c. 1867], of David Evan Davies, Llithfaen, Caernarvonshire, containing minutes relating to the establishing of a day school at Llithfaen, April-May 1867 (ff. 1-3).
Ceir hefyd nodiadau pregethau, [c. 1867] (ff. 11-34), a thoriad papur newydd o gerdd 'Save the Children' gan Elfed (f. 19a). = The volume also contains sermon notes, [c. 1867] (ff. 11-34), and a newspaper cutting of 'Save the Children', a poem by H. Elvet Lewis (f. 19a).

Davies, David Evan, 1843-1914.

Ryan a fi,

  • NLW ex 2645.
  • ffeil
  • [2000x2009] /

Atgofion John P. Davies am ei blentyndod yn Nyffryn Aman gyda'r digrifwr a'r perfformiwr Ryan Davies, a'u cyfnod yn gwneud gwasanaeth milwrol yn y Llu Awyr, [2000x2009], ynghyd ag atgofion yr awdur o'i brofiadau yn gwasanaethu ym Mesopotamia, 1955-57.

Davies, John P.

Rhyfel Pen Llŷn,

  • NLW ex 2779.
  • ffeil
  • 2011 /

Sgript gomedi gan Harri Parri a berfformiwyd gan Gwmni Theatr Seilo yn Theatr Seilo, Caernarfon, Mawrth 22-24, 2011, ynghyd â rhaglen.

Parri, Harri.

Rhaglen Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug,

  • NLW MS 23962D.
  • ffeil

Copi o restr testunau Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1873, wedi'i argraffu ar sidan glas. = List of competition subjects for the Mold National Eisteddfod, 1873, printed on blue silk.
Rhestrir hefyd enwau y Pwyllgor Gwaith (f. 1), yr amodau cystadlu a'r asiantau lleol (f. 2 verso). = Also listed are the Executive Committee members (f. 1), competition conditions and local agents (f. 2 verso).

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1873 : Mold, Wales)

Pregethau,

  • NLW MS 16126B.
  • ffeil
  • 1812-1819 /

Pregethau, 1812-1819, gan, ac yn llaw, y Parch. Joshua Watkins, gweinidog Penuel, Eglwys y Bedyddwyr, Caerfyrddin. Mae mynegai i'r pregethau ar ddechrau'r gyfrol. = Sermons, 1812-1819, by, and in the hand of, the Rev. Joshua Watkins, minister of Penuel Baptist Church, Carmarthen. An index to the sermons appears at the beginning of the volume.

Watkins, J. (Joshua) 1769 or 70-1841

Pregethau,

  • NLW MS 16210i-viiiB.
  • ffeil
  • 1846-1885 /

Nodiadau pregethau, 1846-1885, gan y Parch. Samuel Jones, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yng Nghastell-nedd, Cefncoedycymer a Chaerdydd. = Sermon notes, 1846-1885, by the Rev. Samuel Jones, Calvinistic Methodist minister at Neath, Cefncoedycymer and Cardiff.

Jones, Samuel, 1812-1886.

Pregethau,

  • NLW MS 23885B.
  • ffeil
  • [18 gan., canol]-1807 /

Llyfr nodiadau yn cynnwys dwy bregeth ar gyfer y Pasg, [18 gan., canol]. Mae arnodiadau, mewn llaw ddiweddarach, yn dangos eu bod wedi eu pregethu yn Llanegryn, sir Feirionnydd, ar amryw o achlysuron rhwng 1791 a 1807. = A notebook containing two Easter sermons, [mid 18 cent.], in Welsh. Annotations, in a later hand, indicate that they were preached at Llanegryn, Merionethshire, on various occasions between 1791 and 1807.
Mae tair gweddi y tu mewn i'r cloriau, yn ôl pob tebyg yn llaw Robert Morgan, curad Llangelynnin, sir Feirionnydd. = Inside the covers are three prayers, apparently in the hand of Robert Morgan, curate of Llangelynnin, Merionethshire.

Morgan, Robert, fl. 1778-1784.

Pregethau cynnar,

  • NLW ex 2744.
  • ffeil
  • 1746-1786.

Pregethau cynnar, 1746-1786, gan awdur anhysbys. = Early sermons, 1746-1786, by an unknown author.

Pregeth,

  • NLW MS 16191A.
  • ffeil
  • 1842 /

Pregeth, 1842, ar Lyfr y Pregethwr 9.5 gan ac yn llaw 'Richard Hughes, Pendery' [y Parch. Richard Hughes, Rheithor Llanfallteg, sir Gaerfyrddin, mae'n debyg]. = An autograph sermon, 1842, on Ecclesiastes 9.5 by 'Richard Hughes, Pendery' [probably the Rev. Richard Hughes, Rector of Llanfallteg, Carmarthenshire].

Hughes, Richard, -1855.

Pregeth o Lyfr Exodus,

  • NLW MS 23793C.
  • ffeil
  • [?1772] /

Cyfrol yn cynnwys pregeth ar Exodus 20.7, [?1772], yn llaw y Parch. Robert Bulkeley, curad Llandyfrydog a Llandrygarn gyda Bodwrog, a churad parhaol Bodewryd, sir Fôn. = A volume containing a sermon on Exodus 20.7, [?1772], in the hand of the Rev. Robert Bulkeley, curate of Llandyfrydog and Llandrygarn with Bodwrog and perpetual curate of Bodewryd, Anglesey.
Traddodwyd y bregeth ym Modedern, Llandrygarn gyda Bodwrog a Llanfechell, sir Fôn, rhwng 1772 a 1785 (rhestrwyd y lleoliadau ar y clawr blaen a t. 27). Ychwanegwyd dalennau rhyddion at y gyfrol cyn iddi gyrraedd LlGC (ff. 4a, 12a, 22a). = The sermon was preached at Bodedern, Llandrygarn with Bodwrog and Llanfechell, Anglesey, between 1772 and 1785 (locations listed on front cover and p. 27). Leaves formerly loose within the volume have been tipped in prior to their donation to NLW (ff. 4a, 12a, 22a).

Bulkeley, Robert, 1736-1792.

Perfformiad o'r ddrama Blodeuwedd,

  • NLW Facs 1017.
  • ffeil
  • 2007.

Llungopi o raglen y ddrama Blodeuwedd gan Saunders Lewis a berfformiwyd gan Chwaraewyr Garthewin ar gyfer Undeb Drama’r Gogledd yn [1948].

Canlyniadau 21 i 40 o 246