Showing 42 results

Archival description
Papurau Gwilym R. Jones
Print preview View:

Cyfansoddiadau

Pryddest ‘Y gorwel’, Eisteddfod Genedlaethol Castell-nedd 1934; pryddest fuddugol ‘Ynys Enlli’, Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, 1935; awdl ‘Y ffin’, awdl anfuddugol Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1937; a 'Rwy'n edrych dros y bryniau pell', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1938.

Dramâu radio

Sgriptiau gan gynnwys ‘Yr argae’ (cystadleuaeth drama radio y BBC), 'Y fflam' a ‘Ffarwel haf’.

The vale of peace

Cyfieithiad o’r gerdd ‘Cwm tawelwch’ gan Kenneth Lloyd Jones, disgybl chweched dosbarth o Ysgol Quarry bank, Lerpwl, ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd at Gwilym R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd yn 'The Quarry', cylchgrawn yr ysgol yn 1955,

Addysg i oedolion

Llyfrau nodiadau yn cynnwys nodiadau darlithiau ar gyfer cyrsiau a gynhaliwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr (WEA) yng Nghorwen a Dinbych, Dinbych a Henllan a'r Rhyl ar lenyddiaeth Gymraeg.

Papurau a grynhowyd ganddo

Cerddi gan J. Rhosydd Williams; nodyn bywgraffyddol gan J. Glyn Davies am ei daid John Jones, Talysarn, 1950; llyfr nodiadau yn cynnwys ‘O gell fy nghof’ gan J. R. Williams o’r Rhondda; sgript J. Idris Owen ar Twm o’r Nant; a sgript ‘Y glas cledd’ (Cylch Llenyddol Dyffryn Clwyd), rhaglen ddramatig o farddoniaeth a llenyddiaeth, 1966.

Emynau

Emynau, 1967-1969, a anfonodd i gystadlaethau cyfansoddi emyn yn eisteddfodau Pantyfedwen, Llanbedr Pont Steffan, gan gynnwys emyn ar gyfer gwasanaeth priodas, ynghyd â chopi o’r Drysorfa, Mehefin 1957, yn cynnwys ei erthygl ‘Crefftwr o emynydd’ (Thomas Jones o Ddinbych).

Thomas Jones o Ddinbych

Sgript 'Plas Penucha', 1969, y bu'n cymryd rhan yn y darllediad ac yn annerch yn seremoni cyflwyno plac i goffau Thomas Jones ym Mhlas Penucha, Caerwys.

Dramâu

Ymhlith y sgriptiau mae ‘Y crocbren’ sef drama bropaganda mewn pedair act ar ffurf torion o’r wasg a berfformiwyd gan Gwmni Talysarn; ‘Y deryn brith’; ‘Mawrion Sir Ddinbych’; a '‘Y blwch’, sgript a anfonodd i gystadleuaeth ysgrifennu drama, ynghyd â llythyr oddi wrth Is-bennaeth rhaglenni Cymru, 1970, yn cynnwys sylwadau am y ddrama.

Llythyrau cyfranwyr

Llythyrau ato fel golygydd Y Faner, 1969-1972, oddi wrth nifer o Gymry blaenllaw yn ymwneud â chyfrannu erthyglau i’r papur newydd wythnosol.

Darlithiau

Ymhlith y darlithiau mae darlith (Saesneg) ar Betsi Cadwaladr, 'Dramâu Huw Lloyd Edwards a'i ddatblygiad fel dramodydd' a 'Pedr Fardd'.

Sgriptiau radio

Dwy bennod o’r gyfres ‘Sion y Bodiau’; pryddest radio ‘Y Ffatri atomig’ sef egin Cwm Tawelwch’; ‘Dyffryn Clwyd’; ‘Chwilio gem’, hanes pererindod ddiweddar i Ynys Enlli’; adolygiad o’r gyfrol Eples gan Gwenallt, ynghyd â sgriptiau yn y cyfresi ‘Rhwng Gŵyl a Gwaith’, 'Trem’ ac 'Yn ôl y dydd'.

Darlithiau

Darlithiau gan gynnwys rhai ar 'Tafodiaith Arfon'; T. H. Parry-Williams; Catrin o Ferain; Daniel Owen; Ieuan Gwynedd. 'R. Williams-Parry a Choleg Bangor 1927-34' ; 'Ai Williams-Parry yw'n bardd mwyaf?', ynghyd ag 'Englynion i RWP'.

Darlithiau a sgyrsiau

Darlithiau ar lenyddiaeth Gymraeg yn bennaf a nodiadau darlith ar gyfer cyrsiau o dan adain Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, [1941]-1982.

Sgriptiau

Sgriptiau dramâu llwyfan, dramâu radio, sgriptiau radio a theledu,1930-[1983].

Results 1 to 20 of 42