Showing 503 results

Archival description
Papurau R. Williams Parry
Print preview View:

Cerddi,

Ffurfiwyd rhifau 3-6, 8 a 9 o bapurau rhyddion a'u rhwymo yn LlGC ym 1978.

Erthyglau,

Erthyglau ac ysgrifau o waith R. Williams Parry, gan gynnwys erthyglau a ymddangosodd mewn cylchgronau a phapurau newydd rhwng Hyd. 1911 a Chwef. 1933, nifer helaeth ohonynt yn y gyfres 'Beirdd a Barddoniaeth', colofn R. Williams Parry yn Y Genedl, 1925-26 [gw. rhif 850]. Teipysgrif, oni nodir yn wahanol.

Nodiadau Darlithiau,

Llyfrau nodiadau a ffeiliau yn cynnwys nodiadau yn llaw R. Williams Parry yn ymdrin yn bennaf â hanes llenyddiaeth Gymraeg ac â'r ieithoedd Celtaidd. Mae'r deunydd yn amrywio o nodiadau darlithiau cyflawn i fras nodiadau di-gyswllt ac anghyflawn.

Llyfr yn cynnwys nodiadau ar 'Yr Eisteddfod', 'Dafydd Ddu Eryri a'i Ddisgyblion', 'Yr Ysgol Sul', 'Mudiadau Chwarter Olaf y 18G ...,

Llyfr yn cynnwys nodiadau ar 'Yr Eisteddfod', 'Dafydd Ddu Eryri a'i Ddisgyblion', 'Yr Ysgol Sul', 'Mudiadau Chwarter Olaf y 18G. a Chwarter Cyntaf y 19G.'. 168 ff., wedi eu rhifo fesul tudalen, 1-336. Ceir 2 ddalen rydd [ff. 169-170] yn nodi 'Llinach Farddol a Chymheiriaid Dafydd Ddu Eryri' ac yn cynnwys copi o ddwy gerdd, '"Prif Ddull Cwrs Naturiaeth" (Dafydd Ddu)' a '"Gofuned" G.O.' ['Awdl Y Gofuned', Goronwy Owen]. 170 ff.

Llyfr o nodiadau ar nifer o bynciau gan gynnwys nodiadau darlithiau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r 16G. ymlaen (ar gyfer ...,

Llyfr o nodiadau ar nifer o bynciau gan gynnwys nodiadau darlithiau ar hanes llenyddiaeth Gymraeg o'r 16G. ymlaen (ar gyfer dosbarthiadau 1929-30), hanes llenyddiaeth y 19G. (ar gyfer dosbarth Rhoshirwaun, Medi '30, '31), nodiadau ar Gernyweg gan gynnwys ymdriniaeth â darnau o 'Pascon agan Arluth' [gw. Henry Lewis, Llawlyfr Cernyweg Canol, Caerdydd, 1946, t. 68]. 8 ff.

Results 1 to 20 of 503