Showing 37 results

Archival description
Papurau Harri Gwynn,
Print preview View:

Papurau Harri Gwynn,

  • GB 0210 HGWYNN
  • fonds
  • 1924-1997 /

Papurau Harri Gwynn, 1924-1997, yn cynnwys gohebiaeth gynnar rhyngddo a'i wraig Eirwen Gwynn; llythyrau oddi wrth lenorion; cerddi Harri Gwynn gan gynnwys cyfieithiadau i'r Saesneg a Sbaeneg o'i bryddest 'Y Creadur' a chyfieithiadau o ganeuon; sgriptiau radio; personalia; papurau'n ymwneud â'r Mudiad Gwerin; ynghyd â llythyrau a chardiau cydymdeimlad a anfonwyd i'w deulu; a theyrngedau iddo. = Papers of Harri Gwynn, 1924-1997, comprising early correspondence between him and his wife; letters from literary figures; poems by Harri Gwynn including English and Spanish translations of his poem in free metre (pryddest) 'Y Creadur' ('The Creature') and translations of his songs; radio scripts; personalia; papers relating to the movement Gwerin (Folk); together with letters and sympathy cards sent to his family; and tributes to him.

Gwynn, Harri, d. 1985.

Papurau llenyddol,

Cerddi cynnar Harri Gwynn; cyfieithiad i'r Saesneg o 'Y Creadur' gan [Richard Ruck], ac i'r Sbaeneg gan Tryfan Hughes Cadfan, 1953; cyfieithiadau o ganeuon; ynghyd â thorion o'r wasg o'i golofn 'Rhwng Godro a Gwely' a gyhoeddwyd yn Y Cymro.

Barddoniaeth,

Cerddi cynnar a luniwyd ganddo yn 1929 a cherddi diweddarach a ysgrifennodd yn ystod ei ddyddiau coleg; cyfieithiadau o ganeuon ganddo; ynghyd â chyfieithiadau i'r Saesneg a'r Sbaeneg, 1953, o'i bryddest anfuddugol 'Y Creadur', Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberystwyth 1952.

'Gwaith cynnar Harri Gwynn',

Ei delyneg 'Pont y Pentre' [un o'i gerddi cyntaf] a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Fach yng Nghorwen yn 1929 [a gyhoeddwyd yn Cymru'r Plant, Awst 1929], a'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo; papur arholiad yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ysgol Sir Abermaw, 1929; a phryddest 'Castell Elen', Eisteddfod Dolyddelen [Dolwyddelan], 1929.

'Detholion Penigamp',

Cerddi doniol, [1974x1976], [?a luniwyd, o bosib, ar gyfer cystadlaethau tebyg i'r rhai a geid yn y gyfres radio 'Penigamp'].

Cerddi diweddarach,

Llyfr nodiadau, 1931-1933, yn cynnwys ei gerddi a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1931, a cherddi eraill; 'English poems', 1932-1936, mewn llawysgrif a theipysgrif; soned anfuddugol 'Yr Hengwrt', Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949; a 'Dail a Phren (Myfyrdod Hydref)', 1979.

'Cerddi Saesneg',

Cerddi teipysgrif yn bennaf, gan gynnwys 'Yearning', ei gyfieithiad o soned R. Williams Parry ['Mae Hiraeth yn y Môr'].

'O Sanctaidd Swynwyr',

Copi printiedig o'i gyfaddasiad o 'Blest Pair of Sirens', geiriau gan C. Hubert H. Parry, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, gyda llythyr, 1955, oddi wrth Novello & Company, yn ymwneud â'r amodau a chytundeb, 1956, ynghyd â chopi o'r fersiwn gwreiddiol, 1951.

Cyfieithiadau,

Rhestr o'r caneuon a gyfieithiwyd ganddo o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer y gyfres radio 'Cocacabana', 1963, a phapurau'n ymwneud ag ymweliad beirdd o Hwngari â Chymru a drefnwyd gan yr Academi Gymreig yn 1980, gan gynnwys llungopïau o gyfieithiadau o'u gwaith o Modern Hungarian Poetry. Ceir copi hefyd o Dock Leaves, Gaeaf 1952, yn cynnwys cyfieithiad Cyrnol R. C. Ruck 'The Creature'.

'Y Creadur' yn Saesneg,

Cyfieithiad y Cyrnol R. C. Ruck o bryddest Harri Gwynn 'Y Creadur' i'r Saesneg, [1952], a gyhoeddwyd yn Dock Leaves, Gaeaf 1952 (drafft a fersiwn diwygiedig). [Ceir cyfieithiad Robert Minhinnick ohoni yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry : 20th-century Welsh-language poetry in translation (Tarset, 2003)]. Ymhlith y cerddi eraill mae 'Gwalia' a gyfansoddodd yn arbennig yn 1937 i Eirwen Gwynn. Ceir hefyd ei bryddest anfuddugol 'O'r Dwyrain', Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948, a'i bryddest radio 'Yr Ysgall a'r Drain', 1952 [a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954], ynghyd ag argraffiad arbennig o ddyfyniad o'i gerdd 'Pont', Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Ruck, R. C. (Richard Conyers), 1887-1973

Cyfieithiadau o ganeuon poblogaidd,

Cyfieithiadau, [1953]-[1963], o ganeuon Saesneg yn bennaf, gan gynnwys rhyddgyfieithiad o 'Mor Hyfryd yw'r Bore' ('Oh What a Beautiful Morning', Oklahoma), ynghyd â chyfieithiad o 'Plaisir d'amour'. Ceir hefyd gyfieithiad Abel Thomas 'Fendigaid swynwyr' o eiriau Milton 'Blest Pair of Sirens'.

Rhyddiaith,

Sgriptiau a luniwyd ganddo ar gyfer y radio, [1936]-[1979], a'i atgofion 'Y Llwybrau Gynt', [1972], ynghyd â theipysgrifau a thorion o'i golofn 'Rhwng Godro a Gwely', 1952-1959.

Sgriptiau,

Sgriptiau a luniwyd ganddo i'r BBC yn bennaf neu y bu'n cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys 'Troi at y tir', 1957; 'Yn hyfrydwch y fro. Y fro rhwng môr a mynydd', 1958; 'Gwŷr Llên', 1960 (mae copi o'r sgript hon hefyd yn Adran Llawysgrifau Prifysgol Cymru, Bangor (15393)); 'Y silff lyfrau', 1962 (yr adolygydd oedd Harri Gwynn); 'Cywain atgof', 1964, y bu'n cymryd rhan yn y rhaglen; ynghyd â 'Wel s'ma'i?', rhaglen ysgafn gan Fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor, 1936; a'i gyfraniad at raglen '[Rhwng] Gŵyl a Gwaith', Hydref 1979.

'Rhwng Godro a Gwely',

Teipysgrifau a thorion, 1952-1959, o'i ysgrifau yn y golofn 'Rhwng Godro a Gwely' a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn wreiddiol, ac fel casgliad gyda'r un teitl wedi'u golygu gan Eirwen Gwynn yn 1994.

Sgyrsiau radio,

Ysgrif 'Er cof am Jeroboam a'i deulu' yn Cylchlythyr BBC Cymru, Tachwedd 1973; drafftiau a theipysgrifau o'i gyfraniadau i 'Yn ôl y dydd', Ebrill, 8-11 Mai, a Rhagfyr 1979, Radio Cymru, a'i ysgrif 'Mw-mw, Me-me, Cwac-cwac', Pais, Ebrill 1980. Ceir hefyd gopi o Barn, Gorffennaf/Awst 1993, yn cynnwys erthygl D. G. Lloyd Hughes 'Y cam arall â Harri Gwynn' a llythyr oddi wrtho, 1997, yn ymwneud hefyd â chyfnod Harri Gwynn yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955.

'Y Llwybrau Gynt',

Ei atgofion 'Y Llwybrau Gynt' mewn teipysgrif o'r cyfnod cynnar nes iddo symud i Dyddyn Rhuddallt, [1972], ar gyfer rhaglen radio mewn cyfres o'r un enw. Cafodd rhain eu cynnwys gan Eirwen Gwynn yn ei hunangofiant Ni'n dau. Hanes dau gariad (Llandysul, 1999).

Darlledu,

Sgript y rhaglen radio 'Cywain atgof', 1964, y bu Harri Gwynn yn cymryd rhan ynddi, a sgript radio 'Llwyfan: Cymdeithasau', 1969, ef oedd y cyflwynydd a'r cynhyrchydd; ynghyd â llythyrau oddi wrth wrandawyr a gwylwyr yn ymateb i eitemau a ddarlledwyd ar raglenni radio a theledu ganddo, [1966]-[1974], a phapurau eraill.

Papurau personol,

Gohebiaeth rhwng Harri ac Eirwen Gwynn, [1936]-1944, llythyrau oddi wrth gyfeillion a llenorion, [1938]-1986, ynghyd â phapurau personol amrywiol.

Results 1 to 20 of 37