Showing 36 results

Archival description
Papurau Ioan Brothen,
Print preview View:

Llythyrau at 'Ioan Brothen'; ymhlith y gohebwyr mae Richard Griffith ('Carneddog'), 1938; J. Lloyd Humphreys, 1909, 1928; Humphrey Jones ('Bryfdir') ...,

Llythyrau at 'Ioan Brothen'; ymhlith y gohebwyr mae Richard Griffith ('Carneddog'), 1938; J. Lloyd Humphreys, 1909, 1928; Humphrey Jones ('Bryfdir'), 1937; Owen Jones ('Glyn Hefin'), 1910; ynghyd â llythyr, 1944, oddi wrth Frances Lloyd George; J. Lloyd Humphreys, 1942; ac un, heb ddyddiad, oddi wrth J. W. Jones at Ellen Jones, gweddw 'Ioan Brothen'.

Llyfr nodiadau gan gynnwys beddargraffiadau a gasglwyd ym Mynwent Llanfrothen; darnau rhyddiaith fel 'Hen ddywediadau, a diarhebion llafar gwlad nad ...,

Llyfr nodiadau gan gynnwys beddargraffiadau a gasglwyd ym Mynwent Llanfrothen; darnau rhyddiaith fel 'Hen ddywediadau, a diarhebion llafar gwlad nad ydynt yng nghasgliad T. O. Jones', 'Rhai o enwau hynotaf lleoedd yn mhlwyf Llanfrothen', 'Hanes rhew mawr 1895'; 'Bras gofnodiad o hanes y gwynt mawr, a'r don fawr, ar ddydd Gwener Hydref 28, 1927, o Borthmadog i Dalsarnau, a Maentwrog'; torion o'r golofn 'Yng Nghwmni Natur, a'i phlant', 1894-7, yn Y Cymro; a rhestr o'i ysgrifau ac englynion a ymddangosodd yn Cymru, 1909-26, ac o ysgrifau a phenillion, 1914-27, a ymddangosodd yn Cymru'r Plant.

Papurau gan gynnwys llythyr, 1823, oddi wrth J. Humphreys, yr Amwythig, yn cynnig llety i ddisgybl ysgol; amlen, 1895, ag ...,

Papurau gan gynnwys llythyr, 1823, oddi wrth J. Humphreys, yr Amwythig, yn cynnig llety i ddisgybl ysgol; amlen, 1895, ag arni englyn gan O. D. Williams ('Llysfoel') i 'Ioan Brothen' ac englyn gan 'Gwilym Barlwyd', 1898; ffotograff o grp ar wyliau yn Llandrindod, 1900, ac yn eu plith mae 'Ioan Brothen'; cerdyn post o garcharorion rhyfel o'r Almaen, heb ddyddiad; taflen goffa David Lloyd (ar ôl 1969); a llungopi o Yr Wylan, Gorffennaf 1996, yn cynnwys teyrnged i Enid Jones.

Papurau gan gynnwys tystysgrif, 1924, tonic sol-ffa Morfudd Jones, merch 'Ioan Brothen'; ffurflen gais, 1941, am gael cynnal cyngerdd o ...,

Papurau gan gynnwys tystysgrif, 1924, tonic sol-ffa Morfudd Jones, merch 'Ioan Brothen'; ffurflen gais, 1941, am gael cynnal cyngerdd o dan adain Cymdeithas Lenyddol Capel y Methodistiaid Calfinaidd Siloam yn Llanfrothen, wedi'i llofnodi gan Enid Jones, yr ysgrifenyddes; a thystysgrif Ellen Jones, heb ddyddiad, oddi wrth Undeb Ysgolion Methodistiaid Calfinaidd, am ddysgu'r maes llafur.

Results 1 to 20 of 36