Showing 97 results

Archival description
Papurau O. Llew Owain
Print preview View:

Copiau o wahanol anerchiadau a chyhoeddiadau, dim dyddiad, gan gynnwys adroddiad y Prifathro i Lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Caernarfon; anerchiad gan ...,

Copiau o wahanol anerchiadau a chyhoeddiadau, dim dyddiad, gan gynnwys adroddiad y Prifathro i Lywodraethwyr Ysgol Uwchradd Caernarfon; anerchiad gan Mr E T John, AS, yng nghapel Moriah, Llangefni; adroddiad o berfformiad 'Yr Ystorm' o waith David Jenkins, Aberystwyth; ac erthygl ar 'Hugh Prichard, Ysw., Llangefni, "Tywysog Trefnwyr Môn"'.

Dalennau dyblygedig amrywiol yn ymwneud â'r cyrff canlynol: Moriah, Caernarfon; Pwyllgor Pafiliwn Caernarfon 1934; Celtic Society, Columbia University, New York ...,

Dalennau dyblygedig amrywiol yn ymwneud â'r cyrff canlynol: Moriah, Caernarfon; Pwyllgor Pafiliwn Caernarfon 1934; Celtic Society, Columbia University, New York City; Pwyllgor Cartref Bontnewydd, 1933; cais E J Jones, Caernarfon am batent ar welliant i olwynion tractor; adroddiad o berfformiad 'Trwbadwr' sef opera Gymraeg J T Rees; adroddiad ar greu Parc Cenedlaethol Eryri, 1950; &c.

Gohebiaeth a phapurau, 1906-24, yn ymwneud â Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys gohebiaeth yn ymwneud ag ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1906-24, yn ymwneud â Gorsedd Beirdd Ynys Prydain a'r Eisteddfod Genedlaethol, gan gynnwys gohebiaeth yn ymwneud ag Eisteddfodau Cenedlaethol Pontypool a Phwllheli (gweler hefyd rhif 3). Cynnwys y ffeil gan mwyaf ohebiaeth Beriah Gwynfe Evans, Cofiadur yr Orsedd, 1922-4.

Cyfrol yn cynnwys torion o gerddi etholiadol, 1865-1940 a heb ddyddiad, ynghyd â rhai printiedig, yn ymwneud â llwyddiant gwleidyddol ...,

Cyfrol yn cynnwys torion o gerddi etholiadol, 1865-1940 a heb ddyddiad, ynghyd â rhai printiedig, yn ymwneud â llwyddiant gwleidyddol David Lloyd George yn bennaf, gan gynnwys 'Mae George yn ffrynd i mi' gan Deiniol Fychan, 1909, 'Lloyd George a'i gyllideb' gan Robert Williams ('Ap Llenor'), 'Gwron y gyllideb' gan 'Taborydd' a 'Buddugoliaeth Lloyd George' gan 'Cenin', heb ddyddiadau.

Results 21 to 40 of 97