Showing 32 results

Archival description
Papurau Erfyl Fychan
Print preview View:

Papurau Erfyl Fychan

  • GB 0210 ERFYCHAN
  • fonds
  • 1858-1996 (crynhowyd 1924-1996)

Papurau Erfyl Fychan, 1858-1996, gan gynnwys llythyrau a anfonwyd ato, rhai oddi wrth ei gyd-aelodau yn yr Orsedd, copi o'i draethawd MA, 1939, sgriptiau radio, llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru') a chyfrolau eraill yn cynnwys adysgrifau a ddaeth i'w feddiant, ynghyd â phapurau ei fab Geraint Vaughan-Jones.

Erfyl Fychan, 1899-1968

Llyfrau nodiadau

Llyfr nodiadau yn cynnwys manylion am I. D. Hooson ar gyfer rhaglen deyrnged iddo, o bosib, a llyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau hanesyddol am Powys ac adysgrif o 'Yr Hen Dyddynwr' gan 'Dewi Aeron' ar fesur Tri Thrawiad.

'Cell gymysg'

'Cell gymysg' sef casgliad o adysgrifau gan Erfyl Fychan a ddechreuodd yn 1929, gan gynnwys anterliwt gan Ellis y Cowper a nifer o englynion gan T. Gwynn Jones. Ceir hefyd enghreifftiau o waith Erfyl Fychan ei hun gan gynnwys 'Y Di-wifr'; penillion 'Dadl ynghylch Neuadd y Sir ym Maldwyn 1930'; 'Noswyl J. Breese Davies, Dinas Mawddwy, hunodd 4/x/40'; englyn, 'Eryri'; penillion a luniodd ar gyfer agoriad Gŵyl Gerdd Dant Cymru yn Y Felinheli, 1947, a phenillion cyfarch i D. R. Hughes ('Myfyr Eifion') ar achlysur cyflwyno Tysteb Genedlaethol iddo yng Nghaerdydd yn 1948; 'Carol y Byd Dyrus', 1962, a chyfarchion pen-blwydd i Cynan yn 70, 1965. Ceir hefyd ychwanegiadau gan [ei fab Geraint Vaughan-Jones] a phapurau rhydd yn ei law.

William Jones, Llangadfan

Adysgrif gan Erfyl Fychan, [1920]-[1968], o lyfr William Jones (1726-1795), Dolhywel, Llangadfan, yn cynnwys cerddi yn y mesurau caeth ganddo, 1771-1792, ynghyd â rhestr o ddyddiadau 'holl hen ffeiriau Cymru' o lawysgrif a ysgrifennwyd tua 1620. Defnyddiwyd y llyfr hefyd ar gyfer gwneud nodiadau o lawysgrif Cwrtmawr 856D ar arferion priodi yn Sir Aberteifi.

Jones, William, 1726-1795

Y Gododdin

Adysgrif a wnaed gan William Owen [Pughe], 1783, o gyfrol [llawysgrif] testun Aneirin o'r Gododdin oedd ym meddiant Owen Jones ['Owain Myfyr'] yn Llundain. Mae'r gyfrol hefyd yn dwyn enw Thomas Evans, 1850.

Pughe, W. Owen (William Owen), 1759-1835

Ernest Roberts

Dau lythyr oddi wrth Arthur S. Hollings, 1962, yn trafod hanes y teulu Roberts, ynghyd â thorion o'r wasg, 1962, a anfonwyd ganddo, yn ymwneud ag Ernest Roberts, mab John Roberts ('Telynor Cymru'), yn dathlu ei ben-blwydd yn gant yn ei gartref yn ardal Stratford-on-Avon; a chopi o raglen cyngerdd a berfformiwyd o flaen y Frenhines Victoria gan y teulu Roberts, 1889 (yr oedd Ernest Roberts yn un o'r perfformwyr).

Hollings, Arthur S.

Llyfr 'testimonials' John Roberts

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, a ddaeth i feddiant Erfyl Fychan drwy fab y telynor, Charles Roberts ('Crythor Hafren') yn 1932, yn mynegi gwerthfawrogiad ei gynulleidfa, gan gynnwys J. Ceiriog Hughes, 1868, ac adroddiadau o'r wasg am gyngherddau'r teulu. Ceir hefyd adysgrif llawn, [1931], a wnaeth Erfyl Fychan o'r gyfrol hon sy'n cynnwys gwerthfawrogiad o ddoniau cerddorol 'Telynor Cymru' ac aelodau o'i deulu gan noddwyr.

Hughes, John Ceiriog, 1832-1887

'Telynor Cymru'

Llyfr 'testimonials' John Roberts ('Telynor Cymru'), 1853-1887, gydag adysgrif Erfyl Fychan, ynghyd â thorion o'r wasg yn ymwneud â'i fab Ernest Roberts.

Tysteb Erfyl Fychan

Llythyrau, 1967, oddi wrth aelodau'r Orsedd at Alun Ogwen [Williams] (ysgrifennydd aelodaeth) yn anfon rhoddion ariannol i ddiolch i Erfyl Fychan wrth iddo ymddeol fel Arwyddfardd wedi chwarter canrif o wasanaeth.

Llythyrau'r Orsedd

Llythyrau'n trafod materion yr Orsedd a'r Eisteddfod Genedlaethol, 1950-1965. Ymhlith y gohebwyr mae Mam o Nedd (1) a 'Note as to the duties of the Mistress of the Robes' ganddi, 1952; Trefîn (3) yn cynnwys ei gywydd coffa i Elfed, 1954; D. Rhys Phillips (2); Brynallt (13); Cynan (8); Leila Megane (1); a Maxwell Fraser (2).

Coombe Tennant, Winifred, 1874-1956

Yr Orsedd

Cyfarwyddiadau seremonïau Gorsedd y Beirdd gan y Cofiadur Cynan mewn teipysgrif, [1935], ynghyd â chynllun Cylch yr Orsedd, 1960, a chopi printiedig o drefniadau'r Orsedd at Eisteddfod Genedlaethol Y Drenewydd 1965.

Cynan, 1895-1970

Traethawd MA

Traethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' mewn teipysgrif. Ceir y traethawd mewn un gyfrol a dau atodiad, y cyntaf yn cynnwys testun y cerddi a'r ail yn fynegai i'r awduron a'u ffugenwau.

Traethawd MA

Fersiwn drafft o'i draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' gyda chyfarwyddiadau i'r teipydd.

Traethawd MA

Fersiwn llawysgrif o'i draethawd 'The Wayside Entertainer in Wales in the Nineteenth Century' ond nid yw'r tudalennau mewn trefn.

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res'

'Gwerslyfr y Delyn Deir-res' gan Ellis Roberts ('Eos Meirion') gydag ymarferion ac alawon i'r delyn, Llundain 1858, a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel Manual or method of instruction for playing the Welsh harp : with explanatory remarks ... yn [1902]. Bu'r llawysgrif hon ym meddiant Nicholas Bennett, Trefeglwys, ac yna gyda pherthynas iddo N. Bennett Owen, Llanidloes. Fe'i rhoddwyd i Erfyl Fychan pan oedd yn ymchwilio ar gyfer ei draethawd MA yn 1933.

Roberts, Ellis, 1819-1873

Results 1 to 20 of 32