Showing 81 results

Archival description
Archif Y Faner
Print preview View:

Archif Y Faner

  • GB 0210 FANER
  • fonds
  • 1986-1992

Mae'r fonds yn cynnwys papurau, 1986-1992, a grynhowyd gan Luned Meredith a David Meredith fel perchnogion Y Faner, gan gynnwys gohebiaeth a datganiadau i'r wasg; erthyglau drafft a chynnyrch cyffredinol y cylchgrawn ac, yn arbennig felly, casgliad cyflawn o'r holl gynnyrch a ddefnyddiwyd wrth gysodi pob rhifyn o Chwefror 1992 hyd at y rhifyn olaf yn Ebrill 1992; ceir hefyd bapurau gweinyddol Y Faner, yn cynnwys, gohebiaeth yn ymwneud â diwedd y cylchgrawn, llyfrau nodiadau'r golygydd a chymhorthion golygyddol; rhai cofnodion ariannol, a mynegai cyffredinol i gyfranwyr ac i'r pynciau a drafodwyd ganddynt yn Y Faner, 1987-1992.

Meredith, David

Datganiadau i'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys datganiadau i'r wasg gan wahanol sefydliadau a chwmnïau, 1986-1992.

Llythyrau: cronolegol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau at olygydd Y Faner oddi wrth gyfranwyr yn bennaf, 1987-1992.

Llythyrau yn ôl pwnc

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau o anogaeth i olygyddion Y Faner, 1988-1989, yn ogystal â llythyrau yn ymwneud â chyfrannu erthyglau golygyddol i'r Faner, 1991.

Geiriau clên

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau o anogaeth i olygyddion Y Faner pan oedd y cylchgrawn mewn trafferthion ariannol.

Results 1 to 20 of 81