Showing 96 results

Archival description
Papurau Mathonwy Hughes
Print preview View:

Llythyrau personol

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau personol, [?1903]-1992, a llythyrau yn llongyfarch Mathonwy Hughes ar ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr, 1956.

Pen blwydd yn 90 oed

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfarchion a theyrngedau i Mathonwy Hughes ar ei ben blwydd yn 90, a phapurau'n ymwneud â noson deyrnged iddo a gynhaliwyd i ddathlu'r achlysur, 1991.

Torion papur newydd

Mae'r gyfres yn cynnwys erthyglau a cherddi wedi eu torri o bapurau newydd a chylchgronau amrywiol,a gasglwyd gan Mathonwy Hughes, [?1921]-1992, y rhan fwyaf yn ymwneud ag ef, ei deulu a'i gyfeillion.

Papurau'n ymwneud â Chapel Tan'rallt, Llanllyfni

Mae'r gyfres yn cynnwys Adroddiadau Blynyddol, 1942, 1975 ac 1977, Capel Tan'rallt, Llanllyfni, Sir Gaernarfon, sef y capel a fynychwyd gan deulu Mathonwy Hughes, ynghyd â dwy gyfrol yn cynnwys gwaith gan ddisgyblion Ysgol Sul yr un capel, 1865 a 1979.

Llyfrau llofnodion

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau o lofnodion enwogion Cymru, ac enwogion byd-eang, a gasglwyd gan Mathonwy Hughes a'i wraig Mair, [?1956]-[?1969].

Results 1 to 20 of 96